Gwasanaeth Cofrestru
Dechrau ar Hanes y Teulu
Ydych chi'n awyddus i wybod mwy am hanes eich teulu? Mae deall eich cefndir yn gallu rhoi gwell dealltwriaeth i chi o bwy ydych chi, ac mae ymchwilio i'ch cyndadau yn daith ddiddorol yn ôl mewn amser. Sut i ddechrau?
Cofnodwch bopeth a wyddoch ar bapur
Nodwch bopeth y gallwch ei gofio am eich teulu, yn enwedig dyddiadau a lleoliadau priodasau, genedigaethau a marwolaethau. Gallwch fraslunio darn bach o'ch coeden deuluol gan ddefnyddio'r ffeithiau a wyddoch eisoes.
Siaradwch â'ch teulu
Gall aelodau o'ch teulu fod yn ffynhonnell wych o wybodaeth. Dechreuwch gyda'ch rhieni, eich modrybedd a'ch ewythrod, yna gweithiwch yn ôl i'r genhedlaeth flaenorol os medrwch. Gofynnwch iddynt rannu eu hatgofion a straeon am y teulu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i ychwanegu ffeithiau at eich achrestr.
Dewch o hyd i ddogfennau am eich teulu
Gall sylfaen eich achrestr cynnwys dogfennau amlwg megis tystysgrifau, ewyllysiau a phapurau gwasanaethu'r fyddin. Yn aml iawn mae ffotograffau, llythyron teulu, toriadau o bapurau newyddion a Beiblau teuluol hefyd gynnwys gwybodaeth allweddol.
Trefnwch eich coeden deuluol
Cofnodwch bopeth rydych chi’n dod o hyd iddo, gyda nodyn o ble y daeth y wybodaeth. Cymerwch ddalen o bapur maint A3, a dechreuwch gyda'ch enw tua gwaelod y papur, gan ychwanegu unrhyw blant o dan eich enw. Ychwanegwch ddyddiadau genedigaethau fel g.DD/MM/BB. Os ydych yn briod, rhowch enw eich priod wrth ymyl eich enw chi yn ogystal â'r llythyren ‘p’.
Gosodwch enwau'ch rhieni uwchben eich enw, a'ch teidiau a'ch neiniau uwchben y rheiny, ynghyd â'u dyddiadau geni, dyddiad eu priodas a dyddiadau eu marwolaeth. Os bydd gennych fylchau yn y wybodaeth, mae hyn yn cynnig man i chi ddechrau ar eich ymchwil. Diweddarwch eich achrestr yn aml.
Ewch ati i ddatblygu eich ymchwil
Mae'n syniad da i chi wirio enwau a dyddiadau gyda chofnodion swyddogol a chael tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth. Maent yn rhoi dyddiadau penodol ar gyfer y digwyddiadau hyn ac yn gallu cynnig gwybodaeth ychwanegol megis enwau rhieni, eu swyddi, cyfeiriadau ag ati. Gallwch hefyd edrych ar gofnodion Cyfrifiad i wirio data neu ddod o hyd i unrhyw berthnasau na wyddech amdanynt. Mae cofnodion Cyfrifiad o 1841 hyd 1911 ar gael ar-lein neu mewn rhai llyfrgelloedd lleol.
Gwneud cais am dystysgrifau
Pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrifau, bydd angen i chi ddarparu ychydig wybodaeth i'n galluogi i leoli'r cofnod cywir. Gallwch chwilio am gofnodion geni, priodas a marwolaeth ym mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (ar gael yn Llyfrgell Sir Benfro, Hwlffordd ac wrth dalu am fynediad i wefannau megis Find My Past (yn agor mewn tab newydd) ac Ancestry.com (yn agor mewn tab newydd). Bydd chwilio am enw yn rhoi'r rhanbarth lle bu'r digwyddiad. Os byddwch yn archebu oddi wrthym, gallwch nodi bod arnoch angen y dystysgrif dim ond os yw ffeithiau sydd wedi'u profi e.e. enw'r tad, yn gywir.
Cysylltwch â ni
Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro, Archfidy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
Ffacs 01437 779357
E-bost cofrestrydd@sir-benfro.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Gwener 9.00am - 5.00pm
Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru