Gwasanaeth Cofrestru

Olrhain hanes eich teulu

A oes gennych ddiddordeb yn hanes eich teulu? Mae olrhain Hanes Teulu wedi dod yn hobi poblogaidd iawn. Mae tystysgrifau Geni, Marw a Phriodi yn ffynonellau pwysig o ran darparu gwybodaeth wrth i chi fynd ati i olrhain eich cyndeidiau. 

Mae gan Swyddfa Gofrestru Sir Benfro gofnodion sy'n dyddio o fis Gorffennaf 1837 hyd heddiw ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau sydd wedi digwydd yn ardal Sir Benfro.  Ni all y cyhoedd archwilio'r cofnodion hyn, ond fe allwch wneud cais i'r Swyddfa Gofrestru am gopi ardystiedig o wybodaeth ar gofnod o enedigaeth, priodas neu farwolaeth. Darperir y wybodaeth ar ffurf tystysgrif.  

Mae tystysgrifau'n costio £12.50. Ein nod yw darparu tystysgrifau Hanes Teulu o fewn 15 diwrnod gweithio. 

Chwilio am hanes teulu

Yn hanesyddol, roedd Sir Benfro wedi'i rhannu'n nifer o Ardaloedd Cofrestru (gweler rhestr Ardaloedd Cofrestru Sir Benfro Genuki (yn agor mewn tab newydd)) a newidiodd gydag amser.

Os nad ydych yn siŵr o union ddyddiad cofnod, fe fyddwn yn chwilio dros bum mlynedd yn ein cofnodion, sef dwy flynedd bob ochr i'r dyddiad a nodwyd gennych, ac o fewn un Ardal Gofrestru hanesyddol, a hynny'n rhad ac am ddim. 

Os oes rhaid i ni chwilio ymhellach, mae'n bosibl i chi wneud cais am hynny. Fe fyddwn yn codi'r taliadau canlynol sydd yn ychwanegol at dâl y dystysgrif:   

Chwilio o fewn un ardal, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): Am ddim

Am bob ardal ychwanegol, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): £5.00

Chwilio'n drwy'r holl ardaloedd, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): £20.00

Os byddwn yn dod ar draws cofnod sy'n debyg i'ch cais, ond gyda rhan o'r wybodaeth yn unig yn cyfateb i'r wybodaeth a roddwyd gennych, fe fyddwn yn cysylltu â chi i gael eich caniatâd cyn cyflwyno tystysgrif.  Os na fyddwn yn gallu dod o hyn i gofnod, fe fyddwn yn ad-dalu tâl y dystysgrif yn llawn.   

Newydd i hanes teulu?

Os ydych yn newydd i ymchwil Hanes Teulu, am fwy o wybodaeth ewch i Archifdy Sir Benfro neu mae Cyngor Sir Benfro yn cynnal cyrsiau rheolaidd ar ymchwil Hanes Teulu. Am fanylion pellach, ewch i Sir Benfro yn Dysgu.

 I gael rhagor o wybodaeth am hanes teulu:

BBC – Hanes teulu (yn agor mewn tab newydd)   

Cymdeithas Achyddol (yn agor mewn tab newydd) 

Cysylltu â ni

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archifdy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE

Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00yb - 5.00yp

ID: 76, adolygwyd 08/11/2024