Gwasanaeth Cofrestru

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Mae Dosbarth Cofrestru Sir Benfro yn gyfrifol am gofrestru pob Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau a Phartneriaethau Sifil sy'n digwydd yn Sir Benfro. 

I:

  • wneud apwyntiad i gofrestru genedigaeth neu farwolaeth
  • wneud apwyntiad i roi hysbysiad o briodas neu bartneriaeth sifil
  • i wneud cais am dystysgrif geni, marwolaeth, priodas neu bartneriaeth sifil

 

Gallwch:

 

I archebu seremonïau gallwch:

 

Am ymholiadau cofrestru cyffredinol gallwch:

 

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

Cysylltu â ni:

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro

Swyddfa Gofrestru Sir Benfro

Archfidy Sir Benfro

Hwlffordd

Sir Benfro

SA61 2PE

ID: 2540, adolygwyd 18/08/2025

Seremonïau enwi

Mae seremonïau enwi yn ddull rhagorol o ddathlu rhai o brif achlysuron bywyd fel genedigaeth baban newydd, croesawu plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu lys blentyn i'r teulu neu enwi plentyn hŷn yn ffurfiol.

Mae'r dathlu ar ffurf seremoni sifil unigryw sy'n bersonol i chi a'ch teulu ac yn gyfle i chi fynegi'n gyhoeddus eich cariad a'ch ymrwymiad i'ch plentyn, ac i ffrindiau a pherthnasau sy'n oedolion gadarnhau eu perthynas a'u cefnogaeth arbennig.

Gall unrhyw riant drefnu seremonïau enwi, o unrhyw gefndir diwylliannol a chydag unrhyw gredoau ysbrydol neu grefyddol.  Nid oes yr un terfyn oedran ar gyfer y seremoni enwi ac mae modd enwi mwy nag un plentyn yn y teulu yr un amser. Bydd eich seremoni yn cael ei gweinyddu gan aelod proffesiynol o'r tîm cofrestru.

Mae seremonïau enwi yn rhoi'r cyfle i:

  • Dathlu enwi plentyn/plant
  • Mynegi ymrwymiad i'r plentyn.  Mae'r rhiant neu'r rhieni yn gwneud adduned i ofalu am y plentyn a'i garu o flaen teulu a ffrindiau
  • Dod â'r plentyn i mewn i'r gymuned.  Mae perthnasau a gwahoddedigion yn cwrdd ag aelod diweddaraf y teulu ac yn ei groesawu
  • Penodi mentoriaid neu oedolion cefnogol a fydd yn cymryd diddordeb arbennig ym magwraeth eich plant
  • Rhoi cyfle i fam-gu a thad-cu wneud addewidion i gefnogi'r rhieni wrth fagu eu hŵyr newydd

Beth sy'n digwydd mewn Seremoni Enwi?

Mae sawl rhan i bob seremoni:

  • Cyflwyno a chroeso
  • Enwi'r plentyn/plant
  • Addewidion y rhiant
  • Addewidion oedolion cefnogol/mentoriaid
  • Darlleniadau a cherddoriaeth
  • Llofnodi'r dystysgrif ddathliadol
  • Cyflwyno anrhegion a'r dystysgrif
  • Gair i gloi

Nid oes rhaid i chi gynnwys pob rhan yn eich seremoni, fe allwch chi wneud y seremoni cyn symled neu mor gymhleth ag y dymunwch. Mae hyd y seremoni yn dibynnu ar eich dewisiadau ond fel arfer mae'n gofyn 30 o funudau.

Lle gellir cynnal Seremonïau Enwi?

Rydym yn cynnig Seremonïau Enwi yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn adeiladau cymeradwy yn y sir. 

Faint yw cost Seremoni Enwi?

  • Y Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro: £182.00 - £307.00
  • Safleoedd Cymeradwy: £527.00 - £812.00

Pa ddogfennau fydd rhaid i mi eu cyflwyno?

Mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif geni'r plentyn pan fyddwch yn archebu'r seremoni. Sylwch os gwelwch yn dda nad oes statws cyfreithiol i seremonïau enwi ac nad oes modd eu defnyddio i newid enw plentyn.  Mae'r tystysgrifau a roddir i ddibenion dathliadol yn unig.

Mae ein gweithwyr sydd gyda ni i bwrpas cofrestru yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth er mwyn creu eich diwrnod perffaith.

Cysylltu â ni

Ffôn 01437 775176
E-bost ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 81, adolygwyd 13/06/2024

Seremonau dinasyddiaeth

Y seremoni dinasyddiaeth yw’r cam olaf yn y broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig. Mae’r seremoni’n dathlu arwyddocâd dod yn ddinesydd Prydeinig, ac yn croesawu dinasyddion newydd i’r gymuned.

Os bydd eich cais i fod yn ddinesydd Prydeinig yn llwyddiannus, a’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi fod yn bresennol mewn seremoni dinasyddiaeth. Os ydych yn gwneud cais am ddinasyddiaeth i blant, nodwch nad oes gofyniad cyfreithiol i ymgeiswyr o dan 18 oed ddod i seremoni dinasyddiaeth.

Yn Sir Benfro, cynhelir Seremonïau dinasyddiaeth tua unwaith bob chwe wythnos. Mae nifer y seremonïau yn dibynnu ar nifer y dinasyddion a brosesir gan y Swyddfa Gartref. Cynhelir seremonïau yn Swyddfa Gofrestru Sir Benfro sydd wedi’i lleoli yn adeilad Archifau Sir Benfro yn Hwlffordd.

Yn y seremoni, bydd pob dinesydd yn tyngu llw neu gadarnhad o deyrngarwch i’w fawrhydi y Brenin, ac addewid o deyrngarwch i’r Deyrnas Unedig.

Bydd y Cofrestrydd Arolygol, neu ei Dirprwy, yn cynnal y seremoni, sy’n para tuag awr a bydd pob dinesydd yn derbyn eu tystysgrif brodori, sy’n profi eu bod yn ddinesydd Prydeinig gyda’r hawl i gael pasbort Prydeinig ac i bleidleisio. Mae anthemau Cenedlaethol Cymru a Phrydain yn cael eu chwarae yn ystod y seremoni. Bydd dinasyddion newydd hefyd yn cael pecyn croeso gan Fisâu a Mewnfudo y DU ac anrheg goffa.

Trefnu eich seremoni

Bydd dinasyddion newydd yn cael e-bost neu lythyr gan Fisâu a Mewnfudo y DU yn eu hysbysu bod eu cais wedi’i gwblhau. Os ydych yn byw yn Sir Benfro, neu’n nodi yn eich ffurflen gais eich bod yn dymuno cael eich Seremoni Dinasyddiaeth yn Sir Benfro, bydd Fisâu a Mewnfudo y DU yn anfon eich tystysgrif brodori atom.

Unwaith y byddwch wedi cael y llythyr hwn gallwch gysylltu â ni i drefnu eich seremoni. Gallwch wahodd gwesteion i ddod gyda chi.

Pa ddogfennau fydd rhaid i mi ddod â hwy i'm seremoni ddinasyddiaeth?

Bydd angen i chi ddod â’ch e-bost neu lythyr gwahoddiad dinasyddiaeth Fisâu a Mewnfudo y DU.

A oes costau i'w talu am ddod i seremoni ddinasyddiaeth dorfol?

Ni chodir tâl am fod yn bresennol mewn seremoni grŵp. Fodd bynnag, os hoffech seremoni breifat, lle gallwch wahodd mwy o westeion, bydd ffi yn berthnasol (gweler isod).

Seremoni ddinasyddiaeth breifat

Os ydych am ddathlu cael dinasyddiaeth brydeinig mewn ffordd fwy personol, neu os na allwch ddod i seremoni grŵp, gallwn drefnu seremoni breifat i chi. Gellir cynnal seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru, lle gallwch wahodd hyd at 10 o westeion. Gellir cynnal seremonïau preifat hefyd mewn Adeiladau Cymeradwy (gweler y rhestr o safleoedd cymeradwy ar gyfer seremonïau sifil.

Faint yw cost seremoni breifat

  • Ystafell seremoni, Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd: £92.00 (Dydd Mercher a dydd Iau) £255.00 (Dydd Gwener a dydd Sadwrn)
  • Adeiladau cymeradwy: £537.00 (Dydd Llun i ddydd Iau) £598.00 (Dydd Gwener a dydd Sadwrn)

Cysylltu â ni

Ffôn: 01437 775176
E-bost: seremoniau@sir-benfro.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00yb – 5.00yp

ID: 87, adolygwyd 28/04/2025

Sut i wneud cais am gopiau o dystysgrifau

Mae gennym gofnodion ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau a gynhaliwyd yn Sir Benfro o 1837 ymlaen a Phartneriaethau Sifil o 2005 ymlaen.   

Sut alla i wneud cais am dystysgrif?  

Faint fydd y gost?

Fe fydd cost y dystysgrif yn dibynnu ar ba opsiynau y byddwch yn eu dewis o'r rhestr isod.  

Safonol: £12.50

Bydd y dystysgrif ar gael i’w chasglu neu bostio ail ddosbarth cyn pen 15 diwrnod gwaith.

Blaenoriaethol: £38.50

Bydd geisiadau a dderbynnir rhwng 9.00yb a 11.30yb o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) ar gael i’w casglu rhwng 4.00yp a 5.00yp ar ddiwrnod derbyn y cais neu unrhyw bryd yn ystod oriau swyddfa wedi hynny. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 11.30yb neu ar Sadyrnau, Suliau neu Wyliau Banc ar gael i’w casglu ar y diwrnod gwaith nesaf rhwng 4.00yp a 5.00yp. Os yw tystysgrifau i gael eu postio, byddant yn cael eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf, gan bostio unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn 11.30yb ar yr un diwrnod gwaith, a cheisiadau a dderbynnir ar ôl 11.30yb ar y diwrnod gwaith dilynol.

Mae yna opsiwnau i bostio y diwrnod nesaf a’i harwyddo.

Fe allwch hefyd gasglu dogfennau o'r Swyddfa Gofrestru, Archfidy Sir Benfro, Hwlffordd 

Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei darparu?  

  • eich enw, eich cyfeiriad presennol a rhif ffôn ar gyfer cysylltu
  • eich rheswm am wneud cais
  • os ydych yn gwneud cais am dystysgrif i berson arall, fe ddylech nodi eich perthynas â'r person hwnnw  

Tystysgrif Geni

  • enwau llawn adeg geni
  • dyddiad geni
  • man geni
  • enw'r tad (os yw'n briodol) ac enw'r fam, gan gynnwys ei chyfenw cyn priodi (os ydych yn gwybod)  

Tystysgrif Marwolaeth

  • enwau llawn yr un sydd wedi marw
  • dyddiad y farwolaeth a man y farwolaeth
  • dyddiad geni neu oed pan fu farw
  • cyfeiriad olaf a swydd olaf.

Tystysgrif Priodas

  • enw llawn y dyn
  • enw llawn y wraig
  • dyddiad y briodas
  • man priodi

Tystysgrif Partneriaeth Sifil  

  • enwau llawn y ddau bartner adeg y bartneriaeth sifil
  • dyddiad y bartneriaeth sifil
  • man y bartneriaeth sifil

Mae yna ddau fath o dystysgrifau partneriaeth sifil - Nid yw tystysgrif rannol yn dangos cyfeiriad yr un o'r ddau bartner. Mae'r copi safonol yn rhoi manylion llawn.  

I wneud cais am dystysgrif safonol, fe fydd yn rhaid i chi ddarparu cyfeiriadau'r ddau bartner pan ffurfiwyd y bartneriaeth sifil.   

Alla i wneud cais am Dystysgrif Mabwysiadu?  

Nid yw cofnodion o blant a fabwysiadwyd yn cael eu cadw yn Swyddfa Gofrestru Sir Benfro. Os oes arnoch eisiau tystysgrif geni person a anwyd yn Sir Benfro ac a fabwysiadwyd yn ddiweddarach, fe ddylech wneud cais i Gofrestr y Plant Mabwysiedig yn y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol (yn agor mewn tab newydd) am dystysgrif mabwysiadu.

Cysylltu â ni

Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE

Ffôn 01437 775176
E-bost registrar@pembrokeshire.gov.uk

Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm

 

ID: 74, adolygwyd 13/01/2025