Gwasanaeth Cofrestru

Seremonïau dinasyddiaeth

Y Seremoni Dinasyddiaeth yw’r cam olaf yn y broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig. Mae’r seremoni’n dathlu arwyddocâd dod yn ddinesydd Prydeinig, ac yn croesawu dinasyddion newydd i’r gymuned.

Os bydd eich cais i fod yn Ddinesydd Prydeinig yn llwyddiannus, a’ch bod yn 18 oed neu’n hŷn, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi fod yn bresennol mewn Seremoni Dinasyddiaeth. Os ydych yn gwneud cais am ddinasyddiaeth i blant, nodwch nad oes gofyniad cyfreithiol i ymgeiswyr o dan 18 oed ddod i Seremoni Dinasyddiaeth.

Yn Sir Benfro, cynhelir Seremonïau Dinasyddiaeth tua unwaith bob chwe wythnos. Mae nifer y seremonïau yn dibynnu ar nifer y dinasyddion a brosesir gan y Swyddfa Gartref. Cynhelir seremonïau yn Swyddfa Gofrestru Sir Benfro sydd wedi’i lleoli yn adeilad Archifau Sir Benfro yn Hwlffordd.

Yn y seremoni, bydd pob dinesydd yn tyngu llw neu gadarnhad o deyrngarwch i’w Fawrhydi y Brenin, ac addewid o deyrngarwch i’r Deyrnas Unedig.

Bydd y Cofrestrydd Arolygol, neu ei Dirprwy, yn cynnal y seremoni, sy’n para tuag awr a bydd pob dinesydd yn derbyn eu tystysgrif brodori, sy’n profi eu bod yn ddinesydd Prydeinig gyda’r hawl i gael pasbort Prydeinig ac i bleidleisio. Mae anthemau Cenedlaethol Cymru a Phrydain yn cael eu chwarae yn ystod y seremoni. Bydd dinasyddion newydd hefyd yn cael pecyn croeso gan Fisâu a Mewnfudo y DU ac anrheg goffa.

Trefnu eich Seremoni

Bydd dinasyddion newydd yn cael e-bost neu lythyr gan Fisâu a Mewnfudo y DU yn eu hysbysu bod eu cais wedi’i gwblhau. Os ydych yn byw yn Sir Benfro, neu’n nodi yn eich ffurflen gais eich bod yn dymuno cael eich Seremoni Dinasyddiaeth yn Sir Benfro, bydd Fisâu a Mewnfudo y DU yn anfon eich tystysgrif brodori atom.

Unwaith y byddwch wedi cael y llythyr hwn gallwch gysylltu â ni i drefnu eich seremoni. Gallwch wahodd gwesteion i ddod gyda chi.

Pa ddogfennau fydd rhaid i mi ddod â hwy i'm Seremoni Ddinasyddiaeth?

Bydd angen i chi ddod â’ch e-bost neu lythyr gwahoddiad dinasyddiaeth Fisâu a Mewnfudo y DU.

A oes costau i'w talu am ddod i Seremoni Ddinasyddiaeth dorfol?

Ni chodir tâl am fod yn bresennol mewn seremoni grŵp. Fodd bynnag, os hoffech seremoni breifat, lle gallwch wahodd mwy o westeion, bydd ffi yn berthnasol (gweler isod).

Seremoni Ddinasyddiaeth Breifat

Os ydych am ddathlu cael Dinasyddiaeth Brydeinig mewn ffordd fwy personol, neu os na allwch ddod i seremoni grŵp, gallwn drefnu seremoni breifat i chi. Gellir cynnal seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru, lle gallwch wahodd hyd at 10 o westeion. Gellir cynnal seremonïau preifat hefyd mewn Adeiladau Cymeradwy (gweler y rhestr o safleoedd cymeradwy ar gyfer Seremonïau Sifil).

Faint yw Cost Seremoni Breifat

  • Ystafell Seremoni, Archifdy Sir Benfro, Hwlffordd: £90.00 (Dydd Llun i ddydd Iau) £250.00 (Dydd Gwener a dydd Sadwrn)

  • Adeiladau Cymeradwy: £527.00 (Dydd Llun i ddydd Iau) £587.00 (Dydd Gwener a dydd Sadwrn)

Cysylltu â ni

Ffôn: 01437 775176
E-bost: seremoniau@sir-benfro.gov.uk

Oriau agor: Dydd Llun i ddydd Gwener 9.00yb – 5.00yp

ID: 87, adolygwyd 28/05/2024