Gwasanaeth Cofrestru
Seremonïau enwi
Mae seremonïau enwi yn ddull rhagorol o ddathlu rhai o brif achlysuron bywyd fel genedigaeth baban newydd, croesawu plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu lys blentyn i'r teulu neu enwi plentyn hŷn yn ffurfiol.
Mae'r dathlu ar ffurf seremoni sifil unigryw sy'n bersonol i chi a'ch teulu ac yn gyfle i chi fynegi'n gyhoeddus eich cariad a'ch ymrwymiad i'ch plentyn, ac i ffrindiau a pherthnasau sy'n oedolion gadarnhau eu perthynas a'u cefnogaeth arbennig.
Gall unrhyw riant drefnu seremonïau enwi, o unrhyw gefndir diwylliannol a chydag unrhyw gredoau ysbrydol neu grefyddol. Nid oes yr un terfyn oedran ar gyfer y seremoni enwi ac mae modd enwi mwy nag un plentyn yn y teulu yr un amser. Bydd eich seremoni yn cael ei gweinyddu gan aelod proffesiynol o'r tîm cofrestru.
Mae seremonïau enwi yn rhoi'r cyfle i:
- Dathlu enwi plentyn/plant
- Mynegi ymrwymiad i'r plentyn. Mae'r rhiant neu'r rhieni yn gwneud adduned i ofalu am y plentyn a'i garu o flaen teulu a ffrindiau
- Dod â'r plentyn i mewn i'r gymuned. Mae perthnasau a gwahoddedigion yn cwrdd ag aelod diweddaraf y teulu ac yn ei groesawu
- Penodi mentoriaid neu oedolion cefnogol a fydd yn cymryd diddordeb arbennig ym magwraeth eich plant
- Rhoi cyfle i fam-gu a thad-cu wneud addewidion i gefnogi'r rhieni wrth fagu eu hŵyr newydd
Beth sy'n digwydd mewn Seremoni Enwi?
Mae sawl rhan i bob seremoni:
- Cyflwyno a chroeso
- Enwi'r plentyn/plant
- Addewidion y rhiant
- Addewidion oedolion cefnogol/mentoriaid
- Darlleniadau a cherddoriaeth
- Llofnodi'r dystysgrif ddathliadol
- Cyflwyno anrhegion a'r dystysgrif
- Gair i gloi
Nid oes rhaid i chi gynnwys pob rhan yn eich seremoni, fe allwch chi wneud y seremoni cyn symled neu mor gymhleth ag y dymunwch. Mae hyd y seremoni yn dibynnu ar eich dewisiadau ond fel arfer mae'n gofyn 30 o funudau.
Lle gellir cynnal Seremonïau Enwi?
Rydym yn cynnig Seremonïau Enwi yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn adeiladau cymeradwy yn y sir.
Faint yw cost Seremoni Enwi?
- Y Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro: £182.00 - £307.00
- Safleoedd Cymeradwy: £527.00 - £812.00
Pa ddogfennau fydd rhaid i mi eu cyflwyno?
Mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif geni'r plentyn pan fyddwch yn archebu'r seremoni. Sylwch os gwelwch yn dda nad oes statws cyfreithiol i seremonïau enwi ac nad oes modd eu defnyddio i newid enw plentyn. Mae'r tystysgrifau a roddir i ddibenion dathliadol yn unig.
Mae ein gweithwyr sydd gyda ni i bwrpas cofrestru yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth er mwyn creu eich diwrnod perffaith.
Cysylltu â ni
Ffôn 01437 775176
E-bost ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am - 5.00pm