Gwasanaeth Cofrestru
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Mae Dosbarth Cofrestru Sir Benfro yn gyfrifol am gofrestru pob Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau a Phartneriaethau Sifil sy'n digwydd yn Sir Benfro.
I drefnu amser, trefnu apwyntiad neu am gyngor a gwybodaeth gyffredinol, byddwch cystal â ffonio 01437 775176.
Oriau agor
Ar gyfer ymholiadau am gofrestru cyffredinol, cofrestru genedigaethau, marwolaethau, priodasau a phartneriaethau sifil ac i gael tystysgrifau geni, marw, priodi a phartneriaeth sifil:
Dydd Llun - Dydd Gwener, 9.00am-5.00pm.
Cysylltu â ni:
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Seremonïau enwi
Mae seremonïau enwi yn ddull rhagorol o ddathlu rhai o brif achlysuron bywyd fel genedigaeth baban newydd, croesawu plentyn sydd wedi ei fabwysiadu neu lys blentyn i'r teulu neu enwi plentyn hŷn yn ffurfiol.
Mae'r dathlu ar ffurf seremoni sifil unigryw sy'n bersonol i chi a'ch teulu ac yn gyfle i chi fynegi'n gyhoeddus eich cariad a'ch ymrwymiad i'ch plentyn, ac i ffrindiau a pherthnasau sy'n oedolion gadarnhau eu perthynas a'u cefnogaeth arbennig.
Gall unrhyw riant drefnu seremonïau enwi, o unrhyw gefndir diwylliannol a chydag unrhyw gredoau ysbrydol neu grefyddol. Nid oes yr un terfyn oedran ar gyfer y seremoni enwi ac mae modd enwi mwy nag un plentyn yn y teulu yr un amser. Bydd eich seremoni yn cael ei gweinyddu gan aelod proffesiynol o'r tîm cofrestru.
Mae seremonïau enwi yn rhoi'r cyfle i:
- Dathlu enwi plentyn/plant
- Mynegi ymrwymiad i'r plentyn. Mae'r rhiant neu'r rhieni yn gwneud adduned i ofalu am y plentyn a'i garu o flaen teulu a ffrindiau
- Dod â'r plentyn i mewn i'r gymuned. Mae perthnasau a gwahoddedigion yn cwrdd ag aelod diweddaraf y teulu ac yn ei groesawu
- Penodi mentoriaid neu oedolion cefnogol a fydd yn cymryd diddordeb arbennig ym magwraeth eich plant
- Rhoi cyfle i fam-gu a thad-cu wneud addewidion i gefnogi'r rhieni wrth fagu eu hŵyr newydd
Beth sy'n digwydd mewn Seremoni Enwi?
Mae sawl rhan i bob seremoni:
- Cyflwyno a chroeso
- Enwi'r plentyn/plant
- Addewidion y rhiant
- Addewidion oedolion cefnogol/mentoriaid
- Darlleniadau a cherddoriaeth
- Llofnodi'r dystysgrif ddathliadol
- Cyflwyno anrhegion a'r dystysgrif
- Gair i gloi
Nid oes rhaid i chi gynnwys pob rhan yn eich seremoni, fe allwch chi wneud y seremoni cyn symled neu mor gymhleth ag y dymunwch. Mae hyd y seremoni yn dibynnu ar eich dewisiadau ond fel arfer mae'n gofyn 30 o funudau.
Lle gellir cynnal Seremonïau Enwi?
Rydym yn cynnig Seremonïau Enwi yn y Swyddfa Gofrestru ac mewn adeiladau cymeradwy yn y sir.
Faint yw cost Seremoni Enwi?
- Y Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro: £100.00 - £200.00
- Safleoedd Cymeradwy: £425.00 - £675.00
Pa ddogfennau fydd rhaid i mi eu cyflwyno?
Mae'n rhaid cyflwyno tystysgrif geni'r plentyn pan fyddwch yn archebu'r seremoni. Sylwch os gwelwch yn dda nad oes statws cyfreithiol i seremonïau enwi ac nad oes modd eu defnyddio i newid enw plentyn. Mae'r tystysgrifau a roddir i ddibenion dathliadol yn unig.
Mae ein gweithwyr sydd gyda ni i bwrpas cofrestru yma i gynnig cefnogaeth, cyngor a chymorth er mwyn creu eich diwrnod perffaith.
Cysylltu â ni
Ffôn 01437 775176
E-bost ceremonies@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am - 5.00pm
Olrhain hanes eich teulu
A oes gennych ddiddordeb yn hanes eich teulu? Mae olrhain Hanes Teulu wedi dod yn hobi poblogaidd iawn. Mae tystysgrifau Geni, Marw a Phriodi yn ffynonellau pwysig o ran darparu gwybodaeth wrth i chi fynd ati i olrhain eich cyndeidiau.
Mae gan Swyddfa Gofrestru Sir Benfro gofnodion sy'n dyddio o fis Gorffennaf 1837 hyd heddiw ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau sydd wedi digwydd yn ardal Sir Benfro. Ni all y cyhoedd archwilio'r cofnodion hyn, ond fe allwch wneud cais i'r Swyddfa Gofrestru am gopi ardystiedig o wybodaeth ar gofnod o enedigaeth, priodas neu farwolaeth. Darperir y wybodaeth ar ffurf tystysgrif.
Mae tystysgrifau'n costio £11.00. Ein nod yw darparu tystysgrifau Hanes Teulu o fewn 15 diwrnod gweithio.
Chwilio am hanes teulu
Yn hanesyddol, roedd Sir Benfro wedi'i rhannu'n nifer o Ardaloedd Cofrestru (gweler rhestr Ardaloedd Cofrestru Sir Benfro Genuki (yn agor mewn tab newydd)) a newidiodd gydag amser.
Os nad ydych yn siŵr o union ddyddiad cofnod, fe fyddwn yn chwilio dros bum mlynedd yn ein cofnodion, sef dwy flynedd bob ochr i'r dyddiad a nodwyd gennych, ac o fewn un Ardal Gofrestru hanesyddol, a hynny'n rhad ac am ddim.
Os oes rhaid chwilio ymhellach, mae'n bosibl i chi wneud cais am hynny. Fe fyddwn yn codi'r taliadau canlynol sydd yn ychwanegol at dâl y dystysgrif:
Chwilio o fewn un ardal, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): Am ddim
Am bob ardal ychwanegol, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): £5.00
Chwilio'n drwy'r holl ardaloedd, 2 flynedd bob ochr i'r flwyddyn a roddwyd (cyfanswm o 5 mlynedd): £18.00
Os byddwn yn dod ar draws cofnod sy'n debyg i'ch cais, ond gyda rhan o'r wybodaeth yn unig yn cyfateb i'r wybodaeth a roddwyd gennych, fe fyddwn yn cysylltu â chi i gael eich caniatâd cyn cyflwyno tystysgrif. Os na fyddwn yn gallu dod o hyn i gofnod, fe fyddwn yn ad-dalu tâl y dystysgrif yn llawn.
Newydd i hanes teulu?
Os ydych yn newydd i ymchwil Hanes Teulu, am mwy gwybodaeth ewch i Archifdy Sir Benfro neu:
Mae'r dolenni canlynol yn agor mewn tab newydd:
BBC – Hanes teulu (yn agor mewn tab newydd)
Cymdeithas Achyddol (yn agor mewn tab newydd)
Mae Cyngor Sir Benfro yn cynnal cyrsiau rheolaidd ar ymchwil Hanes Teulu. Am fanylion pellach, ewch i Sir Benfro yn Dysgu.
Cysylltu â ni
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost: registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Seremonïau dinasyddiaeth
Y Seremoni Ddinasyddiaeth yw'r cam olaf yn y broses o ddod yn ddinesydd Prydeinig. Mae'r seremoni yn dathlu arwyddocâd dod yn ddinesydd Prydeinig, ac mae'n croesawu dinasyddion newydd i'r gymuned.
Os bydd eich cais i ddod yn Ddinesydd Prydeinig yn llwyddo, a'ch bod yn 18 oed neu'n hŷn, mae'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i chi fynd i Seremoni Ddinasyddiaeth. Os ydych yn gwneud cais am ddinasyddiaeth ar gyfer plant, sylwch, os gwelwch yn dda, nad yw'r gyfraith yn mynnu bod rhaid i ymgeiswyr o dan ddeunaw oed ddod i Seremoni Ddinasyddiaeth.
Yn Sir Benfro, cynhelir Seremonïau Dinasyddiaeth pob rhyw 6 i 8 wythnos ar fore dydd Iau fel arfer - ac mae nifer y seremonïau yn dibynnu ar nifer y dinasyddion y mae Fisâu a Mewnfudo y DU yn eu prosesu. Cynhelir seremonïau yn Siambr y Cyngor yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd.
Yn y Seremoni, bydd pob dinesydd yn gwneud llw neu gadarnhad o deyrngarwch i'w Mawrhydi'r Frenhines, a llw o ffyddlondeb i'r Deyrnas Unedig.
Mae'r Cofrestrydd Arolygol yn gweinyddu'r seremoni ac mae Cadeirydd y Cyngor, neu ei gynrychiolydd, yn rhoi araith groeso ac yn cyflwyno eich tystysgrif ddinasyddiaeth i chi. Cenir anthemau cenedlaethol Cymru a Phrydain ac yn aml byddwn yn gwahodd ysgol leol i arwain yr anthemau a chymryd rhan yn y dathliad.
Mae'r Seremoni oddeutu awr o hyd, ac yn ystod yr amser bydd pob dinesydd yn derbyn tystysgrif frodori, sy'n profi eich bod yn ddinesydd Prydeinig gyda'r hawl i gael pasbort Prydeinig a phleidleisio. Bydd gofyn i chi lofnodi'r cofnod dinesig o'ch seremoni a byddwch yn derbyn rhodd o becyn croeso gan Fisâu a Mewnfudo y DU a rhodd ddathliadol.
Wedi'r Seremoni bydd lluniaeth ysgafn a chyfle i dynnu lluniau.
Trefnu eich Seremoni
Bydd dinasyddion newydd yn derbyn llythyr gan Fisâu a Mewnfudo y DU yn rhoi gwybod iddynt fod eu cais wedi ei gwblhau. Os ydych yn byw yn Sir Benfro, neu wedi dweud yn eich cais eich bod yn dymuno cael eich Seremoni Ddinasyddiaeth yn Sir Benfro, bydd Fisâu a Mewnfudo y DU yn anfon eich tystysgrif frodori atom ni.
Unwaith y byddwch wedi derbyn y llythyr hwn gallwch gysylltu â ni i drefnu eich Seremoni. Fe gewch wahodd gwesteion i ddod gyda chi.
Pa ddogfennau fydd rhaid i mi ddod â hwy i'm Seremoni Ddinasyddiaeth?
Bydd rhaid i chi ddod â'ch llythyr o wahoddiad gan Fisâu a Mewnfudo y DU.
A oes costau i'w talu am ddod i Seremoni Ddinasyddiaeth dorfol?
Nac oes, does dim byd i'w dalu am ddod i seremoni dorfol. Fodd bynnag, os bydd eisiau seremoni breifat arnoch chi, lle gallwch wahodd rhagor o westeion, bydd ffi i'w thalu (gwelwch isod os gwelwch yn dda).
Seremoni Ddinasyddiaeth Breifat
Os byddwch yn dymuno dathlu cael eich dinasyddiaeth Brydeinig mewn modd mwy personol, neu os na fedrwch ddod i seremoni dorfol, gallwn drefnu seremoni breifat ar eich cyfer. Gellir cynnal seremonïau yn y Swyddfa Gofrestru a gallwch wahodd hyd at 55 o wahoddedigion. Gellir cynnal seremonïau preifat hefyd ar Safleoedd Cymeradwy (gweler rhestr o safleoedd sydd wedi'u cymeradwyo ar gyfer Seremonïau Sifil).
Faint yw Cost Seremoni Breifat?
- Ystafell Seremoni, Archfidy Sir Benfro, Hwlffordd: £80.00 / £120.00 y pen - oedolion (hyd at 6 o wahoddedigion)
- Safleoedd Cymeradwy: £385.00 - £435.00
Cysylltu â ni
Ffôn 01437 775176
E-bost ceremonies@sir-benfro.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Ddydd Gwener 9.00am - 5.00pm
Beth sydd mewn tystysgrif
Rydym yn fwy na pharod i chwilio am unrhyw gofnod o enedigaeth, marwolaeth neu briodas ar eich rhan, ond rhaid i ni ddarparu'r wybodaeth o'r cofnodion hyn ar ffurf tystysgrif. Fe fydd y wybodaeth a geir ar y dystysgrif yn dibynnu ar pryd y cofrestrwyd y digwyddiad. Mae'r rhestr ganlynol yn esbonio pa fanylion sydd ar gael:
Tystysgrifau Geni
- Tystysgrifau Geni Llawn hyd 31 Mawrth 1969: Dyddiad a Man Geni, Enwau Cyntaf a Chanol, Rhyw, Enw Llawn y Tad, Enw Llawn y Fam a'i Henw Morwynol, Galwedigaeth y Tad, Cyfeiriad y Rhiant (Rhieni), Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Geni Llawn o 1 Ebrill 1969 hyd 31 Mawrth 1995: Rhif GIG, Dyddiad a Man Geni, Enwau Llawn a Chyfenw, Rhyw, Enw Llawn y Tad, ei Fan Geni a'i Alwedigaeth, Enw Llawn y Fam, ei Henw Morwynol a'i Man Geni, Cyfeiriad y Rhiant(Rhieni), Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Geni Llawn o 1 Ebrill 1995: Dyddiad a Man Geni, Enwau Llawn a Chyfenw, Rhyw, Enw Llawn y Tad, ei Fan Geni a'i Alwedigaeth, Enw Llawn y Fam, ei Henw Morwynol, ei Man Geni a'i Galwedigaeth, Cyfeiriad y Rhiant (Rhieni), Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Mae Tystysgrifau Geni Byr yn cynnwys yn unig: Enwau Llawn a Chyfenw, Rhyw, Dyddiad Geni, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru
Sylwch: hyd ganol yr 1980au, roedd modd cynnwys galwedigaeth y fam, ond nid oedd hynny'n ofynnol hyd Ebrill 1995.
Tystysgrifau Marwolaeth
- Tystysgrifau Marwolaeth (Gwrywod dros 16) hyd 31 Mawrth 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Oedran, Cyfeiriad adeg y farwolaeth, Galwedigaeth, Achos y Farwolaeth, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth (Benywod dros 16) hyd 31 Mawrth 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Oedran, Cyfeiriad adeg y farwolaeth, Galwedigaeth (os oedd yn ddibriod), Gwraig/Gwraig Weddw ac Enw Llawn y Gŵr a'i Alwedigaeth (os oedd yn briod), Achos y Farwolaeth, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth (Plentyn dan 16) hyd 31 Mawrth 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Oedran, Cyfeiriad adeg y farwolaeth, Enw Llawn y Tad a'i Alwedigaeth, Achos y Farwolaeth, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth (Gwrywod dros 16) o 1 Ebrill 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Dyddiad a Man Geni, Galwedigaeth, Cyfeiriad arferol, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Achos y Farwolaeth, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth (Benywod dros 16) o 1 Ebrill 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Enw Morwynol (os oedd yn briod), Dyddiad a Man Geni, Galwedigaeth, Gwraig/Gwraig Weddw ac Enw Llawn y Gŵr a'i Alwedigaeth (os oedd yn briod), Cyfeiriad arferol, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Achos y Farwolaeth, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth (Plentyn dan 16) o 1 Ebrill 1969: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Dyddiad a Man Geni, Enw(au) Llawn a Galwedigaeth y Rhiant (Rheini), Cyfeiriad Arferol, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Achos y Farwolaeth, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
- Tystysgrifau Marwolaeth o Ragfyr 2005: Dyddiad a Man y Farwolaeth, Enw Llawn a Chyfenw, Rhyw, Dyddiad a Man Geni, Galwedigaeth, Gŵr/Gŵr Gweddw ac Enw Llawn y Wraig a'i Galwedigaeth (os oedd yn briod), Cyfeiriad arferol, Enw'r sawl sy'n Hysbysu, Cyfeiriad a Pherthynas, Achos y Farwolaeth, Dyddiad Cofrestru, Enw'r Cofrestrydd, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru a'r Sir
Tystysgrifau Priodas
- Tystysgrifau Priodas: Dyddiad a Man y Briodas, Enwau Llawn y Briodferch a'r Priodfab, Oedrannau, Statws Priodasol, Galwedigaethau, Cyfeiriadau adeg y briodas, Enwau Llawn y Tadau a'u Galwedigaethau, Enwau Tystion, Enwau Cofrestryddion/Gweinidog Crefyddol, Dosbarth/Is-ddosbarth Cofrestru neu Blwyf, a'r Sir
Cysylltu â ni
Ffôn 01437 775176
Ffacs 01437 779357
E-bost cofrestrydd@sir-benfro.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Sut i wneud cais am gopiau o dystysgrifau
Mae gennym gofnodion ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau, Priodasau a Phartneriaethau Sifil a gynhaliwyd yn Sir Benfro o 1837 ymlaen.
Sut alla i wneud cais am dystysgrif?
- Cwblhewch un o'r ffurfiau canlynol drwy Fy Nghyfrif.
- Fe allwch alw yn ein swyddfa yn Hwlffordd i lenwi ffurflen gais a thalu.
- Fe allwch ein ffonio ar 01437 775176 i roi manylion eich cais ynghyd â thalu â cherdyn credyd neu ddebyd.
Faint fydd y gost?
Fe fydd cost y dystysgrif yn dibynnu ar ba opsiynau y byddwch yn eu dewis o'r rhestr isod.
Safonol: £11.00
Bydd y dystysgrif ar gael i’w chasglu neu bostio ail ddosbarth cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Blaenoriaethol: £35.00
Bydd geisiadau a dderbynnir rhwng 9.00am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) ar gael i’w casglu rhwng 4.00pm a 5.00pm ar ddiwrnod derbyn y cais neu unrhyw bryd yn ystod oriau swyddfa wedi hynny. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 3.00pm neu ar Sadyrnau, Suliau neu Wyliau Banc ar gael i’w casglu ar y diwrnod gwaith nesaf rhwng 4.00pm a 5.00pm. Os yw tystysgrifau i gael eu postio, byddant yn cael eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf, gan bostio unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn 1.00pm ar yr un diwrnod gwaith, a cheisiadau a dderbynnir ar ôl 1.00pm ar y diwrnod gwaith dilynol.
Mae yna opsiwnau i bostio y diwrnod nesaf a’i harwyddo.
Fe allwch hefyd gasglu dogfennau o'r Swyddfa Gofrestru, Archfidy Sir Benfro, Hwlffordd
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei darparu?
- eich enw, eich cyfeiriad presennol a rhif ffôn ar gyfer cysylltu
- eich rheswm am wneud cais
- os ydych yn gwneud cais am dystysgrif i berson arall, fe ddylech nodi eich perthynas â'r person hwnnw
Tystysgrif Geni
- enwau llawn adeg geni
- dyddiad geni
- man geni
- enw'r tad (os yw'n briodol) ac enw'r fam, gan gynnwys ei chyfenw cyn priodi (os ydych yn gwybod)
Tystysgrif Marwolaeth
- enwau llawn yr un sydd wedi marw
- dyddiad y farwolaeth a man y farwolaeth
- dyddiad geni neu oed pan fu farw
- cyfeiriad olaf a swydd olaf.
Tystysgrif Priodas
- enw llawn y dyn
- enw llawn y wraig
- dyddiad y briodas
- man priodi
Tystysgrif Partneriaeth Sifil
- enwau llawn y ddau bartner adeg y bartneriaeth sifil
- dyddiad y bartneriaeth sifil
- man y bartneriaeth sifil
Mae yna ddau fath o dystysgrifau partneriaeth sifil - Nid yw tystysgrif rannol yn dangos cyfeiriad yr un o'r ddau bartner. Mae'r copi safonol yn rhoi manylion llawn.
I wneud cais am dystysgrif safonol, fe fydd yn rhaid i chi ddarparu cyfeiriadau'r ddau bartner pan ffurfiwyd y bartneriaeth sifil.
Alla i wneud cais am Dystysgrif Mabwysiadu?
Nid yw cofnodion o blant a fabwysiadwyd yn cael eu cadw yn Swyddfa Gofrestru Sir Benfro. Os oes arnoch eisiau tystysgrif geni person a anwyd yn Sir Benfro ac a fabwysiadwyd yn ddiweddarach, fe ddylech wneud cais i Gofrestr y Plant Mabwysiedig yn y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol (yn agor mewn tab newydd) am dystysgrif mabwysiadu.
Cysylltu â ni
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm
Sut i wneud cais i ddod yn Ddinesydd Brydeinig
Mae'r Swyddfa Gartref yn ymdrin â phob cais am Ddinasyddiaeth Brydeinig. Ar eu gwefan mae popeth y mae angen i chi ei wybod ynglŷn â sut mae gwneud cais am ddinasyddiaeth (yn agor mewn tab newydd)
Gwasanaeth gwirio cenedligrwydd, gwasanaeth gwirio taliad a gwasanaeth dychwelyd dogfen cenedligrwydd
Ni fydd Awdurdodau Lleol yn darparu Gwasanaeth Gwirio Taliad a Gwasanaeth Dychwelyd Dogfen Cenedligrwydd o 30 Tachwedd 2018. Yn hytrach, gall cwsmeriaid ymgeisio ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
Ni fydd Awdurdodau Lleol yn darparu Gwasanaeth Gwirio Cenedligrwydd o 31 Rhagfyr 2018. Yn hytrach, gall cwsmeriaid ymgeisio ar-lein (yn agor mewn tab newydd)
Sylwer na fydd y gwasanaethau hyn ar gael mwyach yn Sir Benfro.
Gwasanaethau newydd ymgeisio am Fisa a Chenedligrwydd y DU
O 9 Tachwedd 2018, bydd y mwyafrif o gwsmeriaid yn llenwi eu ceisiadau ar-lein cyn mynychu un o’r 57 canolfan Gwasanaethau Ymgeisio am Fisa a Chenedligrwydd y DU newydd, a reolir gan bartner masnachol, sef Sopra Steria. Bydd cwsmeriaid yn mynychu apwyntiad mewn canolfan wasanaeth er mwyn cyflwyno’u gwybodaeth biometrig (ffotograff ac olion bysedd) a thystiolaeth ategol (gan gynnwys prawf hunaniaeth). I ddysgu mwy am y gwasanaethau newydd, ewch i: Gwasanaethau newydd Fisa (yn agor mewn tab newydd)
Gwasanaeth digidol cynorthwyedig
Mae UKVI wedi sefydlu gwasanaeth cymorth digidol cynorthwyedig sydd ar gael i gwsmeriaid nad oes ganddynt y mynediad, sgiliau neu hyder angenrheidiol i lenwi ffurflen gais ar-lein. Nod y Gwasanaeth Digidol Cynorthwyedig yw sicrhau nad oes unrhyw un yn cael eu hatal rhag cyflwyno cais mewnfudiad oherwydd diffyg sgiliau digidol neu fynediad at gyfrifiadur. Bydd cwsmeriaid dilys yn cael cynnig cymorth dros y ffôn neu gymorth wyneb yn wyneb mewn llyfrgell neu yn eu cartrefi, i’w cynorthwyo i gael mynediad at ffurflen ar-lein a’i llenwi. Nid yw’r gwasanaeth hwn yn darparu cyngor ar fewnfudo. I gael mwy o wybodaeth a manylion cyswllt y Gwasanaeth Digidol Cynorthwyedig, ewch i: Gwasanaeth Digidol Cynorthwyedig (yn agor mewn tab newydd)
- Ffôn: 03333 445 675
- Neges destun: tecstiwch y gair “VISA” at 07537416944
- E-bost: visa@we-are-digital.co.uk (rhowch eich rhif ffôn yn eich neges er mwyn i ni allu cysylltu â chi os oes angen)
Dechrau ar Hanes y Teulu
Ydych chi'n awyddus i wybod mwy am hanes eich teulu? Mae deall eich cefndir yn gallu rhoi gwell dealltwriaeth i chi o bwy ydych chi, ac mae ymchwilio i'ch cyndadau yn daith ddiddorol yn ôl mewn amser. Sut i ddechrau?
Cofnodwch bopeth a wyddoch ar bapur
Nodwch bopeth y gallwch ei gofio am eich teulu, yn enwedig dyddiadau a lleoliadau priodasau, genedigaethau a marwolaethau. Gallwch fraslunio darn bach o'ch coeden deuluol gan ddefnyddio'r ffeithiau a wyddoch eisoes.
Siaradwch â'ch teulu
Gall aelodau o'ch teulu fod yn ffynhonnell wych o wybodaeth. Dechreuwch gyda'ch rhieni, eich modrybedd a'ch ewythrod, yna gweithiwch yn ôl i'r genhedlaeth flaenorol os medrwch. Gofynnwch iddynt rannu eu hatgofion a straeon am y teulu. Defnyddiwch y wybodaeth hon i ychwanegu ffeithiau at eich achrestr.
Dewch o hyd i ddogfennau am eich teulu
Gall sylfaen eich achrestr cynnwys dogfennau amlwg megis tystysgrifau, ewyllysiau a phapurau gwasanaethu'r fyddin. Yn aml iawn mae ffotograffau, llythyron teulu, toriadau o bapurau newyddion a Beiblau teuluol hefyd gynnwys gwybodaeth allweddol.
Trefnwch eich coeden deuluol
Cofnodwch bopeth rydych chi’n dod o hyd iddo, gyda nodyn o ble y daeth y wybodaeth. Cymerwch ddalen o bapur maint A3, a dechreuwch gyda'ch enw tua gwaelod y papur, gan ychwanegu unrhyw blant o dan eich enw. Ychwanegwch ddyddiadau genedigaethau fel g.DD/MM/BB. Os ydych yn briod, rhowch enw eich priod wrth ymyl eich enw chi yn ogystal â'r llythyren ‘p’.
Gosodwch enwau'ch rhieni uwchben eich enw, a'ch teidiau a'ch neiniau uwchben y rheiny, ynghyd â'u dyddiadau geni, dyddiad eu priodas a dyddiadau eu marwolaeth. Os bydd gennych fylchau yn y wybodaeth, mae hyn yn cynnig man i chi ddechrau ar eich ymchwil. Diweddarwch eich achrestr yn aml.
Ewch ati i ddatblygu eich ymchwil
Mae'n syniad da i chi wirio enwau a dyddiadau gyda chofnodion swyddogol a chael tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth. Maent yn rhoi dyddiadau penodol ar gyfer y digwyddiadau hyn ac yn gallu cynnig gwybodaeth ychwanegol megis enwau rhieni, eu swyddi, cyfeiriadau ag ati. Gallwch hefyd edrych ar gofnodion Cyfrifiad i wirio data neu ddod o hyd i unrhyw berthnasau na wyddech amdanynt. Mae cofnodion Cyfrifiad o 1841 hyd 1911 ar gael ar-lein neu mewn rhai llyfrgelloedd lleol.
Gwneud cais am dystysgrifau
Pan fyddwch yn gwneud cais am dystysgrifau, bydd angen i chi ddarparu ychydig wybodaeth i'n galluogi i leoli'r cofnod cywir. Gallwch chwilio am gofnodion geni, priodas a marwolaeth ym mynegai'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol (ar gael yn Llyfrgell Sir Benfro, Hwlffordd ac wrth dalu am fynediad i wefannau megis Find My Past (yn agor mewn tab newydd) ac Ancestry.com (yn agor mewn tab newydd). Bydd chwilio am enw yn rhoi'r rhanbarth lle bu'r digwyddiad. Os byddwch yn archebu oddi wrthym, gallwch nodi bod arnoch angen y dystysgrif dim ond os yw ffeithiau sydd wedi'u profi e.e. enw'r tad, yn gywir.
Cysylltwch â ni
Swyddfa Gofrestru Ardal Sir Benfro, Archfidy Sir Benfro, Prendergast, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
Ffacs 01437 779357
E-bost cofrestrydd@sir-benfro.gov.uk
Oriau agor - Dydd Llun i Gwener 9.00am - 5.00pm
Parcio prin 2 awr am ddim y tu ôl i'r Swyddfa Gofrestru