Gwasanaeth Cofrestru
Sut i wneud cais am gopiau o dystysgrifau
Mae gennym gofnodion ar gyfer Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau a gynhaliwyd yn Sir Benfro o 1837 ymlaen a Phartneriaethau Sifil o 2005 ymlaen.
Sut alla i wneud cais am dystysgrif?
- Gwnewch gais am dystysgrif ar-lein
- Fe allwch ein ffonio ar 01437 775176 i roi manylion eich cais ynghyd â thalu â cherdyn credyd neu ddebyd.
- Fe allwch alw yn ein swyddfa yn Hwlffordd i lenwi ffurflen gais a thalu.
Faint fydd y gost?
Fe fydd cost y dystysgrif yn dibynnu ar ba opsiynau y byddwch yn eu dewis o'r rhestr isod.
Safonol: £12.50
Bydd y dystysgrif ar gael i’w chasglu neu bostio ail ddosbarth cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Blaenoriaethol: £38.50
Bydd geisiadau a dderbynnir rhwng 9.00yb a 11.30yb o ddydd Llun i ddydd Gwener (ac eithrio Gwyliau Banc) ar gael i’w casglu rhwng 4.00yp a 5.00yp ar ddiwrnod derbyn y cais neu unrhyw bryd yn ystod oriau swyddfa wedi hynny. Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl 11.30yb neu ar Sadyrnau, Suliau neu Wyliau Banc ar gael i’w casglu ar y diwrnod gwaith nesaf rhwng 4.00yp a 5.00yp. Os yw tystysgrifau i gael eu postio, byddant yn cael eu hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf, gan bostio unrhyw geisiadau a dderbynnir erbyn 11.30yb ar yr un diwrnod gwaith, a cheisiadau a dderbynnir ar ôl 11.30yb ar y diwrnod gwaith dilynol.
Mae yna opsiwnau i bostio y diwrnod nesaf a’i harwyddo.
Fe allwch hefyd gasglu dogfennau o'r Swyddfa Gofrestru, Archfidy Sir Benfro, Hwlffordd
Pa wybodaeth y mae'n rhaid i mi ei darparu?
- eich enw, eich cyfeiriad presennol a rhif ffôn ar gyfer cysylltu
- eich rheswm am wneud cais
- os ydych yn gwneud cais am dystysgrif i berson arall, fe ddylech nodi eich perthynas â'r person hwnnw
Tystysgrif Geni
- enwau llawn adeg geni
- dyddiad geni
- man geni
- enw'r tad (os yw'n briodol) ac enw'r fam, gan gynnwys ei chyfenw cyn priodi (os ydych yn gwybod)
Tystysgrif Marwolaeth
- enwau llawn yr un sydd wedi marw
- dyddiad y farwolaeth a man y farwolaeth
- dyddiad geni neu oed pan fu farw
- cyfeiriad olaf a swydd olaf.
Tystysgrif Priodas
- enw llawn y dyn
- enw llawn y wraig
- dyddiad y briodas
- man priodi
Tystysgrif Partneriaeth Sifil
- enwau llawn y ddau bartner adeg y bartneriaeth sifil
- dyddiad y bartneriaeth sifil
- man y bartneriaeth sifil
Mae yna ddau fath o dystysgrifau partneriaeth sifil - Nid yw tystysgrif rannol yn dangos cyfeiriad yr un o'r ddau bartner. Mae'r copi safonol yn rhoi manylion llawn.
I wneud cais am dystysgrif safonol, fe fydd yn rhaid i chi ddarparu cyfeiriadau'r ddau bartner pan ffurfiwyd y bartneriaeth sifil.
Alla i wneud cais am Dystysgrif Mabwysiadu?
Nid yw cofnodion o blant a fabwysiadwyd yn cael eu cadw yn Swyddfa Gofrestru Sir Benfro. Os oes arnoch eisiau tystysgrif geni person a anwyd yn Sir Benfro ac a fabwysiadwyd yn ddiweddarach, fe ddylech wneud cais i Gofrestr y Plant Mabwysiedig yn y Swyddfa Gofrestru Cyffredinol (yn agor mewn tab newydd) am dystysgrif mabwysiadu.
Cysylltu â ni
Gwasanaeth Cofrestru Sir Benfro
Swyddfa Gofrestru Sir Benfro
Archfidy Sir Benfro
Hwlffordd
Sir Benfro
SA61 2PE
Ffôn 01437 775176
E-bost registrar@pembrokeshire.gov.uk
Oriau agor: Llun - Gwener 9.00am - 5.00pm