Gwasanaeth Cynhwysiant ac ADY
Amdanom Ni
Gwybodaeth Covid-19
Hatgoffa o newidiadau pwysig i daliadau prydau ysgol am ddim
Mae gan yr Gwasanaeth Cynhwysiant wefan newydd lle gall rhieni, athrawon a gweithwyr proffesiynol ddod o hyd i gymorth, gwybodaeth ac adnoddau am anghenion dysgu ychwanegol. Mae’r wefan newydd wedi cael ei rhannu yn bedair prif adran – Cymorth a Darpariaeth ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol, Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni, Adnoddau a Llais Disgyblion a Llesiant.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion am ddigwyddiadau cyfredol a gwybodaeth am y Diwygio Statudol newydd, ewch i: Gwefan Gwasanaeth Cynhwysiant.
Gallwch naill ai ddod o hyd i ddolenni ar gyfer adrannau Partneriaeth Rhieni, Adnoddau (gwybodaeth am anawsterau dysgu penodol, gan gynnwys dyslecsia, dyspracsia, awtistiaeth ac adnoddau eraill), Cymorth a Darpariaeth, a Llesiant trwy ddilyn y ddolen uchod, neu trwy ymweld â'r canlynol:
Cymorth a Darpariaeth: Yma, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Cynhwysiant, gan gynnwys yr hyn ydyw, y sawl y dylech gysylltu ag ef, darpariaeth a gwasanaethau arbenigol, polisïau, a strategaethau a datblygiad proffesiynol. Mae yna wybodaeth hefyd ar gael am y cynllun Diwygio Statudol.
Partneriaeth Rhieni: Mae'r Gwasanaethau Partneriaeth Rhieni yn darparu cyngor, arweiniad a chymorth cyfrinachol a diduedd, yn rhad ac am ddim, i rieni plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), ac i blant a phobl ifanc ag ADY
Ffon: 01437 776354
e-bost: pps@pembrokeshire.gov.uk
Wefan: Pembrokeshire Inclusion Service
Facebook: www.facebook.com/PCCInclusionService
Adnoddau (gwybodaeth am ADY): Yma, gallwch ddod o hyd i adnoddau ar gyfer athrawon, rhieni a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol:
Llais a Llesiant Disgyblion: Gwybodaeth am lesiant, lle y gallwch ddod o hyd i help a chymorth, a chyfle i wrando ar yr hyn sy'n bwysig i bobl ifanc: