Gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd

Gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd

 Mae gennym gyfrifoldeb statudol i enwi a rhifo strydoedd a thai o fewn y Sir a sicrhau bod enwau a/neu rifau strydoedd ac eiddo newydd neu ddiwygiedig yn cael eu dyrannu yn rhesymegol ac mewn ffordd gyson. Mae’r pwerau deddfwriaethol sy’n ein galluogi i gyflawni’r gofyniad hwn wedi eu cynnwys dan Adran 64 o Ddeddf Cymalau Gwella Trefi 1847 (yn agor mewn tab newydd). Mae Awdurdodau Lleol, ledled y DU, hefyd yn gyfrifol am ddarparu a chynnal y gronfa ddata swyddogol, a adwaenir fel y National Land & Property Gazetteer (yn agor mewn tab newydd).

 Mae cyfeiriad eiddo yn dod yn fater cynyddol bwysig. Mae rheoleiddio cyfeiriadau eiddo o fewn y sir yn sicrhau cynnal cysondeb a chywirdeb ac yn gymorth wrth ddarparu gwasanaethau ac, yn bwysicaf oll, yn sicrhau bod gwasanaethau brys yn gallu lleoli’r cyfeiriad.

Nid oes gan y Post Brenhinol bŵer statudol i enwi stryd, enwi na rhifo eiddo nac ailenwi nac ailrifo eiddo; fodd bynnag, mae ganddo’r ddyletswydd i gyhoeddi neu ddiwygio codau post, unwaith y bydd manylion y cyfeiriad wedi eu cadarnhau gan y Cyngor.

Byddwn yn gwirio gyda’r Post Brenhinol ar bob cais. Caiff enwau eu hystyried yn dderbyniol os nad ydynt yn debygol o achosi tramgwydd neu os nad ydynt yn cael eu hailadrodd o fewn yr un ardal leol, a allai arwain at bostio / danfon nwyddau i’r man anghywir ac, yn fwy pwysig, oedi cyn i wasanaethau brys gyrraedd.

Mae angen y gwasanaeth Enwi a Rhifo Strydoedd os yw rhai o'r canlynol yn wir:

  • Rydych chi wedi adeiladu eiddo newydd
  • Rydych chi wedi trosi eiddo megis ysgubor yn annedd, neu un eiddo yn fflatiau
  • Mae arnoch eisiau ailenwi eich eiddo
  • Rydych yn dymuno ychwanegu enw i eiddo sydd â rhif eisoes
  • Rydych chi wedi adeiladu datblygiad newydd; gallai hyn gynnwys enwi unrhyw ffyrdd o fewn y datblygiad;
  • Mae arnoch eisiau diwygio gosodiad datblygiadau newydd sydd eisoes wedi mynd drwy'r broses o enwi a rhifo.

Cynghorir yn gryf bod unrhyw geisiadau i Enwi a Rhifo Strydoedd, a wneir ar gyfer eiddo newydd, yn cael eu cyflwyno cyn gynted ag y bo modd yn y broses ddatblygu. Bydd hyn yn osgoi unrhyw oedi cyn derbyn gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer yr eiddo.

Unwaith y bydd wedi cael ei gymeradwyo gennym ni, bydd y Swyddog Enwi a Rhifo Strydoedd yn cadarnhau eich cyfeiriad yn ysgrifenedig a bydd yn hysbysu’r holl swyddfeydd mewnol, Etholiadau, Treth Gyngor ac yn  y blaen, Gwasanaethau Cyhoeddus, Arolwg Ordnans, y Gofrestrfa Tir a’r holl Wasanaethau Brys i’w galluogi hwy i ddiweddaru eu cronfeydd data.

Bydd methiant i gofrestru eich cyfeiriad gyda ni yn golygu na fydd y cyfeiriad newydd yn swyddogol ac na fydd yn cael ei gydnabod gan y Post Brenhinol.

Unwaith y bydd caniatâd cynllunio wedi ei gaffael ar gyfer datblygiad newydd, sy’n cynnwys mwy na phedair llain o dir, mae’n angenrheidiol cysylltu ag Enwi a Rhifo Strydoedd fel y gellir dilyn y gweithdrefnau gofynnol i sefydlu enw stryd newydd.

  • Newid enw tŷ / Rhoi enw ar dŷ newydd: £75.00    
  • Cyfeiriad Busnes / Newid Cyfeiriad Busnes: £75.00
  • Trosi Eiddo – Fflatiau: £75.00 Ynghyd â £20.00 am bob llain o dir neu fflat
  • Cadarnhau cyfeiriad post (Cyfreithwyr a throsglwyddiadau yn unig): £65.00
    • E-bost - dim tâl
  • Rhifo ac Enwi Stryd: £375.00 y stryd
    • Ynghyd â £32.00 y llain o dir hyd at 19 o leiniau
    • £25.00 y llain o dir 20 i 49 o leiniau
    • £20.00 y llain o dir dros 50 o leiniau
  •  Ailgyhoeddi rhifau yn dilyn newidiadau yng ngosodiad y datblygiad ar ôl yr hysbysiad: £375.00 ynghyd â £64.00 y llain 

* Ni wneir dim hyd nes y derbynnir y taliad llawn.

I’w lawrlwytho: Ffurflenni cais

I newid enw eich eiddo mae angen y ffurflen uchod. Cewch ychwanegu enw i’ch eiddo; fodd bynnag, os yw wedi ei rifo eisoes, bydd y rhif hwn yn cael ei gadw am byth fel rhan o'r cyfeiriad a bydd enw’r eiddo yn ychwanegol at y rhif.

Mae hyn yn wir hefyd am eiddo masnachol a diwydiannol.

SNN2: Safleoedd bach hyd a bedwar plot

Lle bydd yn ymarferol, caiff rhifau eu dyrannu’n olynol o’r rhifau sydd eisoes wedi eu sefydlu yn y stryd. Lle na ellir dyrannu rhif, yna bydd enw’n cael ei ddewis ar gyfer yr eiddo gan y datblygwr / perchennog. Os bydd yr annedd wedi ei lleoli rhwng dau eiddo ar hyd stryd, lle bo’n ymarferol, cyflwynir rhif tŷ a all gynnwys ôl-ddodiad “a” neu “b”. 

SNN3: Enwi strydoedd newydd a rhifo datblygiadau newydd

Ein polisi yn hyn o beth yw ymgynghori â’r Datblygwr am awgrymiadau ar gyfer enw’r stryd ac unwaith y bydd wedi ei gymeradwyo gan y Post Brenhinol, anfonir llythyr at yr Aelod Lleol sy’n cael 21 diwrnod i godi unrhyw bryderon. Oni dderbynnir sylwadau o fewn 21 diwrnod, caiff enw newydd y stryd ei gyflwyno ac wedyn bydd y Post Brenhinol yn dyrannu cod post unigryw newydd. 

Sylwch, os gwelwch yn dda:Mae gweithdrefn yr Awdurdod hwn yn cau allan galw strydoedd ar ôl pobl, fel egwyddor gyffredinol.Pe bai yna, ar unrhyw adeg, reswm canmoladwy dros wneud hynny (amgylchiadau eithriadol) byddai’n cael ei atgyfeirio i sylw Pennaeth Seilwaith neu’r person penodedig.

Mae’n hanfodol sefydlu enw stryd swyddogol (a system rifo tai) ar gyfer strydoedd newydd yn fuan:-

  • Fel bod hunaniaeth glir a pharhaol ar gael i’r eiddo, er mwyn symleiddio materion y Gofrestrfa Tir a Thrawsgludo.
  • Er mwyn hwyluso ac osgoi oedi cyn darparu cysylltiadau gwasanaethau cyhoeddus i’r tai.
  • I alluogi Canolfan Rheoli Cyfeiriadau’r Post Brenhinol i ddyrannu codau post.

Yn olaf, darperir llythyr cofrestru ffurfiol i’r Datblygwr a Chynllun Rhifo Tai. Bydd yr Awdurdod yn hysbysu’r holl swyddfeydd mewnol, Gwasanaethau Cyhoeddus, Arolwg Ordnans, y Gofrestrfa Tir a’r holl Wasanaethau Brys i’w galluogi hwy i ddiweddaru eu cronfeydd data.

SNN4: Enwi a rhifo trawsnewidiad eiddo

Lle na ellir dyrannu rhif, yna bydd enw’n cael ei ddewis ar gyfer yr eiddo gan y datblygwr / perchennog. Os bydd yr annedd wedi ei lleoli rhwng dau eiddo ar hyd stryd, lle bo’n ymarferol, cyflwynir rhif tŷ a all gynnwys ôl-ddodiad “a” neu “b”. 

Lle mae eiddo’n cael ei rannu’n fflatiau, efallai y bydd angen enw i’r adeilad, os nad yw’r eiddo wedi ei rifo eisoes. Caiff y fflatiau hefyd wedyn eu rhifo’n unigol neu eu labelu yn nhrefn yr wyddor.

Dolenni defnyddiol:

Canfyddwr Cod Post y Post Brenhinol (yn agor mewn tab newydd)

Y Post Brenhinol - Cod Ymarfer PAF (yn agor mewn tab newydd)

Find my Street (yn agor mewn tab newydd)

Find my Address (yn agor mewn tab newydd)

Map Enwau Lleoedd Hanesyddol (yn mewn tab newydd)

Eich cyswllt yw:

Enwi a Rhifo Strydoedd

Cyngor Sir Penfro

Neuadd y Sir

Hwlffordd

SA61 1TP.

Ffôn: (01437) 764551

E-bost: snn@pembrokeshire.gov.uk

ID: 5394, revised 28/03/2024