Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Yn ogystal â chynnig cyngor i rieni, gofalwyr, mamau-cu a thadau-cu, gweithwyr proffesiynol a chyflogwyr ar ystod o weithgareddau plant a gwasanaethau gofal plant, rydyn ni'n gallu eich rhoi ar ben y ffordd os ydych chi'n chwilio am grwpiau rhieni a phlant bach lleol.
Rydyn ni'n gallu dweud wrthych chi am wasanaethau sy'n rhoi cefnogaeth i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc rhwng 0 a 19 oed i'w helpu yn eu rôl fel rhieni.
Mae darparwyr gwasanaethau gofal plant yn gallu cofrestru a chynnwys eu gwybodaeth ar gronfa ddata GGD yn rhad ac am ddim a chael gwybodaeth am gyfleoedd hyfforddiant.
Bydd y GGD yn:
- Cynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu ymholwyr i adnabod eu hanghenion.
- Esbonio'r mathau gwahanol o ofal plant sydd ar gael yn Sir Benfro.
- Diduedd ac yn wrthrychol, gan gynnig arweiniad ar sut i ddewis y ddarpariaeth ofal plant sydd fwyaf addas i anghenion yr ymholwr a'r plant.
- Ymroddedig i barchu cyfrinachedd rhieni, gofalwyr a darparwyr gofal plant.
- Sicrhau bod gan y rhieni, y gofalwyr a'r darparwyr yr hawl i benderfynu pa fanylion a gwybodaeth maen nhw'n dewis eu rhannu â ni.
Mae'r GGD yn cynnig help, cyngor a chefnogaeth i:
- Darparwyr gofal plant a gweithwyr chwarae'r Blynyddoedd Cynnar.
- Gwybodaeth a gwasanaeth cyfeirio ar yrfaoedd mewn gofal plant.
- Sefydlu, cofrestru a datblygu gofal plant allan o’r ysgol, gwarchod plant a gofal cyn oed ysgol.
- Cyfleoedd hyfforddiant a chyngor ar gynnal gofal plant o ansawdd, sy'n fforddiadwy ac yn hygyrch.
- Gwasanaeth cyfeirio at sefydliadau gwirfoddol, statudol a phreifat lleol a chenedlaethol sy'n cefnogi plant a phobl ifanc.
ID: 1843, adolygwyd 22/02/2023