Rydym wedi lansio Ymgyrch Nightingale 23, a fydd yn cefnogi ac yn lleihau pwysau ar ein cydweithwyr yn y GIG.
Byddwch yn gwybod am y pwysau difrifol ar y GIG yng Nghymru ar hyn o bryd, gan gynnwys yn ein hysbyty lleol yn Llwynhelyg.
Fel awdurdod lleol, rydym yn cydnabod bod y pwysau hynny’n ddigynsail ac yn eang, gan gynnwys nifer y gwelyau sydd ar gael, rhyddhau pobl o’r ysbyty a darparu pecynnau gofal yn y gymuned.
Bydd ein hymateb yn cynnwys cyfathrebu’n uniongyrchol â Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y sectorau iechyd, gwirfoddol a thrydydd sector.
Bydd y dudalen bwrpasol hon yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol am yr ymgyrch a’r gwaith a gwblhawyd gan ein timau ar draws yr Awdurdod.
Cyngor yn lansio ymgyrch i gefnogi cydweithwyr yn y GIG
Mae Ymgyrch Nightingale yn ymateb pwrpasol gan Gyngor Sir Penfro a’i nod yw helpu i leihau pwysau ar y GIG, yn enwedig trwy fynd i’r afael â phroblem cleifion addas yn feddygol sy’n methu gadael yr ysbyty.
Nid oes digon o gapasiti ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol, boed hynny yn yr ysbyty, mewn gofal preswyl neu gartref.
Mae pwysau’r gaeaf wedi gwaethygu hyn, gan gynnwys Covid-19 a’r ffliw, cymhlethdod yr achosion sy’n cyrraedd yr ysbyty a heriau recriwtio a chadw’r gweithlu, gan gynnwys diffyg llety i weithwyr allweddol.
Nid yw ambiwlansys yn gallu gadael cleifion yn yr ysbyty, ac felly ymateb i argyfyngau.
Ar unrhyw adeg, mae nifer o gleifion sy’n addas yn feddygol i adael yr ysbyty ond sy’n aros am asesiadau gofal.
Mae hyn yn creu pwysau ar draws yr ysbyty ac ar yr ambiwlansys sy’n methu gadael cleifion yn yr ysbyty.
Y nod yw rhyddhau cleifion sy’n addas yn feddygol i adael yr ysbyty yn gyflym i ofal cymunedol er mwyn lliniaru’r rhwystrau sy’n effeithio ar ein hysbytai a’n gwasanaeth ambiwlans.
Y nod yw cyflawni’r uchod yn ddiogel a gwella deilliannau iechyd a lles i gleifion.
Y nod tymor hwy yw cynnal llif gwell o gleifion drwy ysbytai ac i leoliadau gofal priodol lle gall y cyflenwad ateb y galw’n gyson.
Mae Cyngor Sir Penfro yn archwilio amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys symud staff yn y tymor byr i rolau cymorth cymunedol, capasiti gwaith cymdeithasol ychwanegol a dargyfeirio capasiti gwaith cymdeithasol presennol i flaenoriaethu asesiadau mewn ysbyty.
Yn ogystal, bydd hyn yn cynnwys sicrhau ymrwymiad grwpiau cymunedol a gwirfoddolwyr er mwyn caniatáu i bobl adael yr ysbyty’n ddiogel a mynd adref.
Mae’r Awdurdod yn troi at ei bartneriaid a’i gymunedau am gymorth ar draws amrywiaeth o weithgareddau cyfrannol sydd â’r potensial i gael effaith ar unwaith.
Hefyd, mae’r Cyngor yn parhau i hyrwyddo ei ymgyrch ‘Gofalwn am Sir Benfro’ sy’n anelu at recriwtio staff i’r sector gofal.
Nodwedd allweddol Ymgyrch Nightingale 23 yw galw ar ei bartneriaid, grwpiau cymunedol, cymunedau lleol a gwirfoddolwyr i helpu cleifion addas yn feddygol sy’n barod i gael eu rhyddhau i adael yr ysbyty’n ddiogel a mynd adref.
Mae enghreifftiau o’r hyn y gall pobl ei wneud i helpu yn cynnwys:
Os ydych yn meddwl y gallwch gynnig eich help i Ymgyrch Nightingale 23, cysylltwch PAVS/ Hwb Cymunedol Sir Benfro trwy
I gefnogi Ymgyrch Nightingale 23, gall aelodau’r gymuned ddysgu rhagor am swyddi a chyfleoedd gofal cymdeithasol yn Sir Benfro ar wefan Gofalwn am Sir Benfro am neu, ffoniwch ni ar 01437 775197.
Unrhyw un sy'n dymuno trafod swyddi gwag presennol y Cyngor ym maes gofal cymdeithasol cysylltwch â'n tîm Recriwtio ar recruit@pembrokeshire.gov.uk