Gwasanaethau Cymorth Teuluol

Cymorth Rhianta Cenedlaethol

Gwybodaeth ar gyfer Rhianta Cadarnhaol

Magu Plant. Rhowch amser iddo (yn agor mewn tab newydd)

Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi lansio Magu Plant. Rhowch amser iddo, sy’n ymgyrch newydd magu plant cadarnhaol. Mae’n rhoi awgrymiadau a chyngor defnyddiol i rieni ar sut i annog ymddygiad cadarnhaol. 

Y Blynyddoedd Anhygoel (yn agor mewn tab newydd)

Nifer o bethau am ddim i’w lawrlwytho ac adnoddau i rieni ar wahanol agweddau ar fagu plant cadarnhaol

Agored Cymru (yn agor mewn tab newydd)

Mae Agored Cymru’n cynnig cyfle i rieni gael achrediad ar ôl cwblhau cwrs magu plant. Fe all ennill cymhwyster ffurfiol roi hwb i hunan-barch rhieni a’u hannog i barhau eu haddysg neu gael gwaith.

Gwybodaeth i Rhieni Rhai yn eu Harddegau

Mae Family Lives (yn agor mewn tab newydd) hefyd wedi lansio gwefan newydd ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni:

Relate Cymru (yn agor mewn tab newydd) Fel arfer nid yw gwasanaethau cymorth magu plant Relate Cymru’n cael eu harwyddo fel ‘cymorth magu plant’.

Serch hynny, mae Relate yn darparu llawer o wasanaethau sy’n cynorthwyo rhieni gyda magu plant, gan gynnwys y gwasanaethau canlynol:

Cwnsela Teuluol - Helpu teuluoedd gydweithio fel tîm, trwy gynorthwyo cyfathrebu a helpu iddynt ddeall ei gilydd a datrys gwahaniaethau. Fe all helpu aelodau o’r teulu gefnogi ei gilydd trwy amseroedd dyrys, lleihau gwrthdaro a dadleuon a thyfu’n gryfach o ganlyniad.

Cyfryngu rhwng parau sy’n gwahanu / wedi gwahanu – Mae gwasanaeth cyfryngu Relate yn helpu parau sy’n gwahanu ddatrys anghydfodau ynghylch cadw cyswllt a threfniadau byw; cynhaliaeth plant; eiddo ac arian; heb fynd i lys.

Cydweithio dros Blant (WT4C)Lluniwyd rhaglen WT4C i helpu rhieni ddysgu mwy am heriau magu plant ar ôl gwahanu, gan gynnwys yr effeithiau dal i frwydro ar blant. O ran rhieni a orchmynnwyd i fynychu gan y Llys, mae WT4C yn canolbwyntio ar sut i gyd-drafod trefniadau magu plant ar y cyd ar ôl gwahanu er lles y plant.

Cwnsela Cysylltiadau rhwng Oedolion – Gan amlaf mae wyneb yn wyneb ond mae modd ei wneud dros y ffôn a gwe-gamera hefyd. Tra nad yw’r gwasanaeth hwn yn anelu’n bendant at fagu plant, mae mwyafrif y cleientiaid yn rhieni rhai dan 18 ac, yn aml, byddant yn dweud bod mantais sylweddol i’w plant o gael cwnsela.

Gwybodaeth i rieni anabl a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda rhieni anabl

Rhwydwaith Rhieni Anabl (yn agor mewn tab newydd)

Rhieni byddar (yn agor mewn tab newydd)

Gwefannau defnyddiol i rieni

BBC Parenting (yn agor mewn tab newydd) - gwefan ddefnyddiol i rieni sy’n edrych ar amrywiaeth o faterion.

NSPCC (yn agor mewn tab newydd) - Ei nod yw gwarchod plant rhag creulondeb, cefnogi teuluoedd diamddiffyn, ymgyrchu dros newidiadau yn y gyfraith a chynyddu ymwybyddiaeth o gam-drin.

Wise Kids (yn agor mewn tab newydd) - Yn darparu rhaglenni hyfforddi ac ymgynghoriaeth i hyrwyddo defnyddio’r Rhyngrwyd yn arloesol, cadarnhaol a diogel, h.y. ymwybyddiaeth o raglenni a thechnolegau newydd symudol a chysylltiedig â’r Rhyngrwyd, rhuglder Rhyngrwyd, llythrennedd Rhyngrwyd a materion diogelwch.

Sefydliad Teuluoedd a Rhianta (yn agor mewn tab newydd)Mae’r Sefydliad Teuluoedd a Rhianta yn ymchwilio’r hyn sydd o bwys i deuluoedd a rhieni. Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth i ddylanwadu ar lunwyr polisïau ac yn meithrin trafodaeth gyhoeddus. Byddwn yn datblygu syniadau ar wella’r gwasanaethau a ddefnyddia teuluoedd a’r amgylchedd lle bydd plant yn tyfu.

Gweithredu dros Blant (yn agor mewn tab newydd) - Mae Gweithredu dros Blant (gynt yn dwyn yr enw NCH) yn cefnogi ac yn siarad dros y plant a phobl ifanc mwyaf diamddiffyn yn y DU

ID: 1869, adolygwyd 02/10/2023