Gwasanaethau Cymorth Teuluol
Gwasanaethau Cenedlaethol Cam-drin Domestig
Yng Nghymru a Lloegr, mae 29% o fenywod ac 16% o ddynion, wedi dioddef cam-drin domestig ar ryw adeg yn eu bywyd. Ond, oherwydd ei fod yn digwydd yn y dirgel, caiff y broblem ei hanwybyddu’n aml. Fe all effeithiau artaith gorfforol ac emosiynol fod yn bellgyrhaeddol, a chael effaith aruthrol ar iechyd y dioddefwr ac unrhyw blant sy’n byw yn y cartref. Dyma rai gwasanaethau cenedlaethol sy’n gallu helpu:
Byw Heb Ofn (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r wefan hon yn sefyll yn erbyn cam-drin domestig a’r sy’n ei gwneud. Mae’n cynnig y cymorth a chyngor sydd arnynt ei angen i ddioddefwyr ddechrau byw bywyd heb ofn ac mae’n rhoi gwybodaeth werthfawr i’r cyfeillion a pherthnasau sy’n eu cynorthwyo.
Cymorth i Fenywod yng Nghymru
WWA yw’r sefydliad ambarél cenedlaethol sy’n cynrychioli Grwpiau Cymorth i Fenywod lleol ledled Cymru. Mae ein grwpiau aelodau’n darparu gwasanaethau uniongyrchol i ferched a phlant sydd wedi dioddef neu sydd yn dioddef cam-drin domestig.
Prosiect Dyn
Mae prosiect Dyn yn cefnogi dynion sy’n dioddef cam-drin domestig gan bartner.
Mae llinell gymorth Dyn Cymru’n gadael i chi siarad yn gydgyfrinachol â rhywun sy’n gallu gwrando arnoch heb feirniadu eich sefyllfa. Gallwn roi cymorth i chi ddelio â’r problemau a wynebwch a dweud wrthych a oes unrhyw wasanaethau ar gael yn eich ardal eisoes.
Llinell Gymorth Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol Cymru Gyfan (yn agor mewn tab newydd) yn wasanaeth dwyieithog cyfeirio at wybodaeth, i helpu a thywys pobl gyda phrofiad o gam-drin domestig neu drais rhywiol, sydd angen gwybodaeth neu fynediad at wasanaethau cymorth. Ar agor 24 awr.
Bawso (yn agor mewn tab newydd)
Yn darparu llety diogel a chymorth i ferched a phlant duon ac o’r lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru sydd mewn perygl o neu sy’n dioddef cam-drin domestig. Cysylltu: Ffôn: 029 20644 633; llinell gymorth 24 awr: 08007318147; e-bost: Info@bawso.org.uk