Gwasanaethau Cymorth Teuluol
Gwasanaethau Cenedlaethol Tadau
I’r rhan fwyaf o ddynion, dod yn dad yw un o’r pethau mwyaf anodd, ond trawsnewidiol, yn eu bywydau. Erbyn hyn mae gwasanaethau, a gynlluniwyd yn draddodiadol i ymgysylltu â mamau, yn dechrau sylweddoli’r ffaith hon, a chydnabod nid yn unig ran newydd dynion mewn bywyd teuluol heddiw, ond cyfraniad pwysig yr unigolion hyn at fywydau eu plant.
Mae cyfranogiad cadarnhaol tadau’n cyfrannu at, ac yn darparu ar gyfer, amrywiaeth mawr o ganlyniadau gwell i blant a phobl ifanc. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Cyrhaeddiad addysgol uwch
- Llai o broblemau ymddygiad
- Gwell cysylltiadau cyfoedion
- Llai o debygolrwydd ymddwyn yn droseddol
- Llai o gamddefnyddio sylweddau
- Mwy o hunan-barch
- Mwy o symudedd galwedigaethol
Yn ogystal â thadau biolegol, fe all amrywiaeth eang o unigolion weithredu fel ffigur tadol i blentyn. Gallant gynnwys: llystadau, teidiau, brodyr hŷn, ewythrod, cefndryd, partner newydd mam ac ati. Y ffactor allweddol yw eu bod yn gweithredu fel patrwm ymddwyn cadarnhaol i blentyn.
Cymrwyd o gyhoeddiad Plant yng Nghymru ‘Cynnwys Tadau mewn Gwasanaethau Blynyddoedd Cynnar’
Sefydliadau cenedlaethol sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor i dadau:
Dad.info (yn agor mewn tab newydd)
Ar gyfer tadau – cyngor a chymorth arbenigol di-dâl o faterion cyfreithiol, datblygiad plant i gyngor ariannol a phopeth rhyngddynt.
Tadau Anweladwy: Pecyn Adnoddau Gweithio gyda Thadau Ifanc (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r pecyn hwn, a gynhyrchwyd gan y Sefydliad Tadolaeth, yn cynnwys arweiniad ‘ymchwil ac ymarfer’, DVD a thaflenni parod i’w llungopïo ar gyfer tadau.
Rhestr adolygu ar gyfer cynnwys tadau mewn rhaglenni magu plant (yn agor mewn tab newydd)
Mae gan y Sefydliad Tadolaeth arweiniad byr gydag awgrymiadau a rhestr adolygu ar gyfer cynnwys tadau mewn rhaglenni magu plant.
Mae Teuluoedd Angen Tadau (yn agor mewn tab newydd)
Bwriad ‘Mae Teuluoedd Angen Tadau’ yw cael y gymysgedd orau bosibl o’r ddau riant ym mywydau plant; digon i’r plant sylweddoli bod y ddau riant yn cyfranogi’n llawn yn eu bywydau. Yn gyfreithiol, dylai statws rhieni fod yn gyfartal.
Y Sefydliad Tadolaeth (yn agor mewn tab newydd)
Y Sefydliad Tadolaeth yw pwyllgor ystyried tadolaeth y DU.
Yr Asiantaeth Cynnal Plant (yn agor mewn tab newydd)
Ffôn: 0845 713 3133
Ffôn Testun: 0845 713 8924
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 8pm
Sadyrnau, 9am i 5pm
Cynhaliaeth Plant (yn agor mewn tab newydd)
Cynhaliaeth plant yw cymorth ariannol sy’n talu rhan o gostau byw bob dydd plentyn pan fo’r rhieni wedi gwahanu.