Gwasanaethau Cymorth Teuluol
Rhoi diwedd i Gosb Gorfforol – Cymorth i Rieni
O 21 Mawrth 2022 ymlaen, mae cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru yn anghyfreithlon, i helpu i amddiffyn plant a’u hawliau, er mwyn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd iddynt. Bydd unrhyw un sy'n cosbi plentyn yn gorfforol yn torri'r gyfraith.
Mae llawer math o gosb gorfforol. Gall olygu smacio, taro, slapio ac ysgwyd. Ond mae mathau eraill hefyd. Nid yw'n bosibl rhoi rhestr benodol o'r hyn yw cosb gorfforol oherwydd gall fod yn unrhyw beth pan fo plentyn yn cael ei gosbi drwy ddefnyddio grym corfforol. Mae ymchwil yn awgrymu y gallai unrhyw fath o gosb gorfforol fod yn niweidiol i blant.
Nid yw'r newid yn y gyfraith wedi'i fwriadu i atal rhieni rhag disgyblu eu plant. Fodd bynnag, os bydd unigolyn yn cosbi plentyn yn ei ofal yn gorfforol, gall gael ei gyhuddo o ymosodiad cyffredin. Gall gael cofnod troseddol, sydd yr un fath ag ar gyfer unrhyw drosedd.
Ledled Cymru, bydd cyngor a chymorth ar gael i annog pobl i roi'r gorau i ddefnyddio cosb gorfforol a dod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli ymddygiad plant.
Yn unol â’r ddeddfwriaeth gyfredol, bydd y gweithiwr cymorth rhianta yn cysylltu ag unigolion y mae’n ofynnol iddynt gael cymorth rhianta pwrpasol o ganlyniad i Ddatrysiadau y Tu Allan i’r Llys, i drafod eu hanghenion unigol a chreu pecyn cymorth wedi’i deilwra iddynt.
Mae gan Sir Penfro ystod o wasanaethau ar gael i gefnogi rhieni i ddatblygu eu gwytnwch a’u sgiliau rhianta cadarnhaol. Darperir y rhain wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac mae’n cynnwys cymorth un i un, grwpiau, gweithdai, a gwasanaethau cyngor a gwybodaeth.
I gael rhagor o fanylion am gynnig cymorth i deuluoedd Sir Penfro, ewch i: Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd
Magu Plant. Rhowch amser iddo | LLYW.CYMRU (yn agor mewn tab newydd)
Mae’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi wedi lansio Magu Plant. Rhowch amser iddo, sy’n ymgyrch newydd magu plant cadarnhaol. Mae’n rhoi awgrymiadau a chyngor defnyddiol i rieni ar sut i annog ymddygiad cadarnhaol.
Gwasanaethau Cenedlaethol Cymorth i Deuluoedd - Cyngor Sir Penfro
Cymorth Rhianta Cenedlaethol - Cyngor Sir Penfro
E-bost: oocp@Pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 776228