Gwasanaethau Cymunedol
Cefnogi Cyflogadwyedd
Cefnogi Cyflogadwyedd yw'r pwynt mynediad unigol ar gyfer y prosiectau cyflogadwyedd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r Portffolio Cyflogaeth â Chymorth:
- Gweithffyrdd+
- Taclo Tlodi yn y Gwaith Sir Benfro
- Menter Cyflogaeth â Chymorth Lleol
- Gallwn
- Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith
- UKSPF Cefnogi Cyflogadwyedd
Chwilio am waith?
Os ydych yn byw neu'n gweithio yn Sir Benfro a bod gennych rwystr i gyflogaeth gan gynnwys anabledd, cyflwr iechyd hirdymor neu anghenion cymorth ychwanegol, yna byddwn yn eich helpu i gael cyngor ac ystod eang o gymorth wedi'i deilwra i'ch anghenion unigol i:
- Gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth i ennill neu gadw gwaith
- Eich helpu i gael gwaith
- Eich helpu i aros mewn gwaith
Gobeithio recriwtio?
Gallwn weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gefnogi recriwtio gan gynnwys mentrau cyn-gyflogaeth a chyfleoedd gwaith â thâl a ariennir sy'n paratoi pobl leol i fodloni eich sgiliau a'ch gofynion busnes.
Rydym hefyd yn cefnogi busnesau bach a chanolig gyda rhaglenni iechyd a lles ar gyfer gweithwyr presennol a gwelliannau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.
Am fwy o wybodaeth:
Ffoniwch: 01437 776609
e-bost: getinvolved@pembrokeshire.gov.uk
Gallwch atgyfeirio eich hun neu rywun arall drwy gwblhau a dychwelyd ffurflen atgyfeirio, anfon e-bost neu drwy ein ffonio.
Er mwyn atgyfeirio unrhyw brosiect, defnyddiwch ffurflen atgyfeirio Cyflogadwyedd Sir Benfro:
- Cwblhewch y Cefnogi ffurflen atgyfeirio hyfforddiant a chyflogadwyedd ar-lein
- Cysylltwch â getinvolved@pembrokeshire.gov.uk a byddwn yn anfon y ffurflen atoch
Mynnwch ragor o wybodaeth am rhai o'n prosiectau:
Bydd y manylion y byddwch yn eu darparu yn cael eu hadolygu, cysylltir â chi i drafod eich anghenion a byddwch yn cael eich cyfeirio at y prosiect mwyaf priodol.
Gallwch ddod o hyd i'n datganiad preifatrwydd yn Rhybudd Prefatrwydd Adrannol
Prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth