Gwasanaethau Cymunedol
Cyfeillio
Mae’r sawl sy’n cyfeillio yn gallu eich helpu i gymdeithasu a chadw’n fywiog trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau, hobïau a dysgu sgiliau newydd gyda chi. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig gwasanaethau cyfeillio yn Sir Benfro:
Mind Sir Benfro
Yn darparu nifer o grwpiau a gweithgareddau i rai sy’n profi effeithiau unigrwydd gan gynnwys gofalwyr.
Ffôn: 01437 769982
(Ar gyfer cyfeillio) Age Cymru Dyfed
Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl 50+ oed, gan gynnwys cyfeillio personol a grwpiau cymdeithasol/gweithgareddau.
Ffôn: 01437 723370
E-bost: reception@agecymrudyfed.org.uk
(Ar gyfer budd-daliadau) Age Cymru Dyfed
Yn cynnig cymorth a chyngor ar amrediad o bynciau, gan gynnwys budd-daliadau i bobl hŷn. Gall Age Cymru Dyfed eich helpu i nodi'r budd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt a gall eich helpu hefyd i gwblhau ffurflenni a cheisiadau.
Ffôn: 01437 723370
E-bost: reception@agecymrudyfed.org.uk
Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol
Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl hŷn. Ffôn: 01437 807336
Cymdeithas Clefyd Alzheimer
Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl gyda dementia.
Ffôn: 01646 692329
Mae Gwirfoddoli’n Cyfri
Yn cydlynu ystod eang o grwpiau cyfeillgarwch a rhwydwaith cyfeillio.
Ffôn: 01437 769422