Gwasanaethau Cymunedol
Cyfleoedd Dydd sy’n cael eu darparu gan Ofal Oedolion
Fe all Canolfannau Dydd roi gofal yn ystod y dydd os ydych yn gaeth i’r tŷ neu’n byw ar eich pen eich hun. Gallant helpu cadw annibyniaeth a rhoi cefnogaeth, cwmnïaeth a chyfleoedd i ddysgu neu ailddysgu sgiliau a hobïau.
Nid yw’r gwasanaethau hyn ar gael cyn cael asesiad o angen. Efallai y byddwn yn codi arnoch am wasanaethau gofal dydd; bydd faint yn dibynnu ar eich gallu i dalu. Byddwn yn gofyn i chi gwblhau asesiad ariannol i benderfynu hyn.
- Rhaid talu am giniawau.
- Mae gan y Cyngor ganolfannau dydd yng Nghrymych, Abergwaun, Hwlffordd, Arberth, Aberdaugleddau, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
- Os yw’r asesiad yn dangos bod angen cludiant, caiff ei ddarparu’n ddi-dâl
ID: 2001, adolygwyd 05/07/2022