Gwasanaethau Cymunedol

Cysylltu a Gwaith - cyflogaeth a chymorth

Mae cyflogaeth â chymorth yn canolbwyntio ar leoli pobl mewn swydd ar y cyfle cynharaf a darparu cefnogaeth barhaus i'w helpu i lwyddo.

Mae cyflogaeth â chymorth yn cyfuno chwilio am swyddi a chefnogaeth cyflogaeth, gan sicrhau y gallwch ddechrau gweithio'n gyflym wrth dderbyn y gefnogaeth angenrheidiol i oresgyn rhwystrau. Bydd hyn yn eich helpu i ddod o hyd i waith ac yn eich grymuso i gadw'ch swydd a ffynnu yn y gweithle.

Sut mae'n gweithio

  1. Ymgysylltu - rhowch wybod i ni eich bod am gymryd rhan a byddwn yn trefnu cyfarfod gyda chi i weld a fydd cyflogaeth â chymorth yn gweithio i chi
  2. Proffilio galwedigaethol - darganfod sgiliau a galluoedd, beth rydych chi am ei gyflawni a chynllunio sut i gyrraedd y nod
  3. Chwilio am swydd - byddwch yn eich cefnogi i chwilio am swydd sy'n addas i chi ac sy'n cyflawni'ch nodau
  4. Ymgysylltu â chyflogwyr - byddwch yn creu cynllun gyda'r cyflogwr sy'n nodi sut y bydd yn eich cefnogi yn y gweithle
  5. Cefnogaeth yn y swydd a'r tu allan iddi - byddwch yn dysgu am y swydd newydd, ac os oes angen, byddwch yn cymryd rhan mewn unrhyw hyfforddiant y gall fod ei angen arnoch ynghyd ag adolygiadau parhaus yn y gweithle i'ch cefnogi

 

Pa gefnogaeth y byddwch chi'n ei derbyn

  1. Dysgu mwy am gyflogaeth â chymorth i benderfynu a yw'n iawn i chi
  2. Cael cymorth i adnabod beth rydych chi am ei gyflawni a chreu cynllun i gyrraedd y nod
  3. Derbyn cymorth i ddod o hyd i swyddi gwag sy'n cyd-fynd â'ch sgiliau i ennill swydd sy'n cyflawni'ch nodau o ran cyflogaeth
  4. Dysgu am y swydd a chreu cynllun gyda'r cyflogwr er mwyn eich cefnogi orau trwy recriwtio ac yn y gweithle
  5. Derbyn cefnogaeth wrth i chi ddysgu am y swydd a chefnogaeth barhaus i'ch cadw mewn swydd - gall hyn gynnwys hyfforddiant yn y swydd, hyfforddiant a chefnogaeth gan arbenigwr cyflogaeth ac adolygiadau yn y gweithle

 

Pwy sy'n gallu gwneud cais

  • Pobl sydd ag anabledd fel y'i diffinnir yn adran 6 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 neu'r Model Cymdeithasol o Anabledd
  • Pobl sy'n bodloni'r diffiniad o un o'r grwpiau difreintiedig penodedig gyda rhwystrau lluosog a chymhleth ychwanegol a fyddai'n elwa o dderbyn cefnogaeth
  • Troseddwr (rhywun sy'n cwblhau gwasanaeth cymunedol) neu gyn-droseddwr (rhywun sydd wedi cwblhau dedfryd o garchar neu wasanaeth cymunedol)
  • Gofalwr
  • Cyn-ofalwr
  • Person digartref
  • Cyn-aelod o Luoedd Arfog Ei Fawrhydi, aelod o filwyr wrth gefn Lluoedd Arfog Ei Fawrhydi neu bartner personél presennol neu gyn-bersonél y Lluoedd Arfog
  • Person y mae dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol, gan gynnwys hanes o ddibyniaeth, yn rhwystr sylweddol i gyflogaeth
  • Person ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal neu berson sy'n gadael gofal
  • Ffoadur, person o Affganistan sydd wedi'i adsefydlu
  • Person ar y Cynllun Cartrefi i Wcráin
  • Dioddefwr/goroeswr cam-drin domestig
  • Pobl ifanc sydd wedi'u nodi fel rhai sy'n ymwneud â thrais difrifol neu mewn perygl o ymwneud â thrais difrifol
  • Dioddefwr caethwasiaeth fodern

 

Sut i wneud cais

Cyflwyno cais am gyflogaeth â chymorth (Cysylltu â Gwaith) 

Ar ôl i chi lenwi'r ffurflen ar-lein, byddwn yn cysylltu â chi o fewn 3 diwrnod gwaith i drefnu cyfarfod gyda chi.

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth

Os hoffech gael mwy o wybodaeth neu gymorth, cysylltwch â ni:

01437 776609

connect2work@pembrokeshire.gov.uk

 

logo Cyngor sir a logo cysylltu a gwaith

ID: 14924, adolygwyd 23/04/2026

Gwybodaeth am Gyflogwyr Cysylltu â Gwaith

Mae Cysylltu â Gwaith yn gyfle i gyflogwyr ddechrau neu adeiladu ar eu strategaethau anabledd a chynhwysiant ehangach drwy fynediad at arbenigwyr Cyflogaeth â Chymorth a fydd yn eich arwain i gael gweithle mwy hygyrch drwy gefnogi pobl anabl, y rheini sydd â chyflyrau iechyd a'r rheini sydd â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.

Yr hyn y byddwch chi'n ei dderbyn fel cyflogwr Cysylltu â Gwaith

  1. Cefnogaeth gwmpasog

    Cefnogir unigolion a gyflogir drwy Cysylltu â Gwaith gan Arbenigwr Cyflogaeth a fydd yn cydweithio â'r cyflogwr ar sefydlu, hyfforddiant, cynllunio gyrfa a nodi addasiadau rhesymol.

  2. Cysylltiadau cryfach i rwydweithiau cymorth

    Gall Arbenigwyr Cyflogaeth gyfeirio cyflogwyr at wasanaethau defnyddiol, os ydych chi'n newydd i hyn neu'n Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd.

  3. Recriwtio

    Bydd Arbenigwr Cyflogaeth Cysylltu â Gwaith yn gweithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i ddeall anghenion eich busnes a chydweddu'r person cywir a swydd sy'n cyd-fynd â'i sgiliau a'i nodau, gan arbed amser a chostau recriwtio.

  4. Arferion cynhwysol

    Gall yr Arbenigwr Cyflogaeth gefnogi cyflogwyr gydag arferion fel denu talent gynhwysol, prosesau cynefino ac adeiladu gyrfa i hwyluso'r trawsnewidiad i weithle mwy cynhwysol.

Buddion i chi fel y cyflogwr

  1. Cynnydd posib mewn cynhyrchedd

  2. Cynnydd mewn amrywiaeth cwsmeriaid

  3. Llai o drosiant staff

  4. Amgylchedd gwaith gwell

  5. Gwella eich enw da

Chwalu mythau

Prinder amser

Un o fanteision allweddol Cysylltu â Gwaith yw bod gennych fynediad at Arbenigwyr Cyflogaeth a all weithio mewn partneriaeth â chi a'r cyfranogwr i ddeall gofynion eich busnes wrth weithio i wella hyder a gallu'r gweithlu ehangach, gan dynnu'r pwysau oddi ar y busnes.

Maint y busnes

Mae cyflogwyr o bob maint eisoes yn defnyddio cynlluniau Cyflogaeth â Chymorth; gall yr Arbenigwr Cyflogaeth nodi anghenion penodol eich gweithle a darparu ar ei gyfer.

Absenoldeb salwch

Mae astudiaethau'n dangos bod ychydig neu ddim gwahaniaeth rhwng faint o absenoldeb salwch a gymerir gan weithwyr ar raglenni cyflogaeth â chymorth o'u cymharu â'r rheini nad ydynt ar y rhaglenni hynny. Gellir rhannu unrhyw bryderon gyda'r Arbenigwr Cyflogaeth a dod o hyd i ddatrysiadau.

Addasiadau rhesymol

Mae addasiadau rhesymol yn newidiadau y mae cyflogwr yn eu gwneud i gael gwared ar anfantais sy'n gysylltiedig ag anabledd rhywun neu ei lleihau.

Maent yn ofyniad cyfreithiol i bob cyflogwr, mae'r gost fel arfer yn fach iawn a gall wella effeithlonrwydd. Er enghraifft, gall darparu patrymau gweithio hyblyg ganiatáu i unigolyn weithio yn ystod ei oriau mwyaf cynhyrchiol.

Maent yn:

  • benodol ar gyfer yr unigolyn

  • gallu bod yn addas ar gyfer unrhyw anabledd (iechyd corfforol neu feddyliol) gan gynnwys cyflyrau iechyd tymor hir

  • gallu cynnwys unrhyw faes gwaith

Mae'r hyn sy'n rhesymol yn dibynnu ar bob sefyllfa. Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth yn helpu cyflogwyr a gweithwyr i nodi unrhyw addasiadau a'u gweithredu. Mae'r rhain fel arfer am ddim neu'n isel o ran cost neu am ddim a gall fod yn hawdd i'w sefydlu.

Enghreifftiau o addasiadau rhesymol:

  1. Darparu offer, gwasanaethau neu gefnogaeth

    Darparu offer ychwanegol neu wedi'i addasu fel cadair neu gynnig cefnogaeth 1-i-1 i helpu i reoli llwythi gwaith.

  2. Newid trefniadau gweithio rhywun

    Galluogi rhywun i weithio gartref neu newid ei batrwm gwaith.

  3. Dod o hyd i ffordd wahanol o wneud rhywbeth

    Cyflwyno gwahanol ddulliau hyfforddi ar gyfer gwahanol ffyrdd o ddysgu neu ddosbarthu tasgau'n wahanol mewn tîm.

  4. Gwneud newidiadau i'r gweithle

    Darparu lle parcio hygyrch neu newid cynllun swyddfa.

Cofrestrwch eich diddordeb

Pan fyddwch wedi cofrestru'ch diddordeb gyda ni, bydd Arbenigwr Cyflogaeth yn cwblhau dadansoddiad swydd i ddeall y tasgau a'r priodoleddau sy'n gysylltiedig â'r rôl er mwyn ei chydweddu â chyfranogwr Cysylltu â Gwaith.

Gall ein Harbenigwr Cyflogaeth eich tywys drwy'r broses recriwtio, cefnogi gydag addasiadau ac arwain eich rheolwyr recriwtio.

Bydd yr Arbenigwr Cyflogaeth hefyd yn darparu cymorth wedi'i deilwra i'ch gweithiwr, yn cefnogi diwylliant yn y gweithle ac yn grymuso aelodau'r tîm i ddarparu cefnogaeth naturiol.

Cofrestrwch eich diddordeb i ddod yn gyflogwr Cysylltu â Gwaith (yn agor mewn tab newydd)

Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth

Os hoffech gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â ni:

01437 776609

connect2work@pembrokeshire.gov.uk

 

logo Cyngor Sir a logo cysylltu a gwaith

ID: 14928, adolygwyd 23/04/2026

Cyfleoedd Dydd

Cyfleoedd Dydd

ID: 9932, adolygwyd 30/06/2026

Cefnogi Cyflogadwyedd

Cefnogi Cyflogadwyedd yw'r pwynt mynediad unigol ar gyfer y prosiectau cyflogadwyedd sy'n gweithio ochr yn ochr â'r Portffolio Cyflogaeth â Chymorth:

  • Gweithffyrdd+
  • Taclo Tlodi yn y Gwaith Sir Benfro
  • Menter Cyflogaeth â Chymorth Lleol
  • Gallwn
  • Gwasanaeth Cymorth Mewn Gwaith
  • UKSPF Cefnogi Cyflogadwyedd

Chwilio am waith?

Os ydych yn byw neu'n gweithio yn Sir Benfro a bod gennych rwystr i gyflogaeth gan gynnwys anabledd, cyflwr iechyd hirdymor neu anghenion cymorth ychwanegol, yna byddwn yn eich helpu i gael cyngor ac ystod eang o gymorth wedi'i deilwra i'ch anghenion unigol i:

  • Gwella eich sgiliau a'ch gwybodaeth i ennill neu gadw gwaith
  • Eich helpu i gael gwaith
  • Eich helpu i aros mewn gwaith

Gobeithio recriwtio?

Gallwn weithio mewn partneriaeth â chyflogwyr i gefnogi recriwtio gan gynnwys mentrau cyn-gyflogaeth a chyfleoedd gwaith â thâl a ariennir sy'n paratoi pobl leol i fodloni eich sgiliau a'ch gofynion busnes. 

Rydym hefyd yn cefnogi busnesau bach a chanolig gyda rhaglenni iechyd a lles ar gyfer gweithwyr presennol a gwelliannau i gydraddoldeb ac amrywiaeth yn y gweithle.

Am fwy o wybodaeth:

Ffoniwch: 01437 776609

e-bost: getinvolved@pembrokeshire.gov.uk

  

Gallwch atgyfeirio eich hun neu rywun arall drwy gwblhau a dychwelyd ffurflen atgyfeirio, anfon e-bost neu drwy ein ffonio.            

Er mwyn atgyfeirio unrhyw brosiect, defnyddiwch ffurflen atgyfeirio Cyflogadwyedd Sir Benfro:

Mynnwch ragor o wybodaeth am rhai o'n prosiectau: 

Bydd y manylion y byddwch yn eu darparu yn cael eu hadolygu, cysylltir â chi i drafod eich anghenion a byddwch yn cael eich cyfeirio at y prosiect mwyaf priodol.

Gallwch ddod o hyd i'n datganiad preifatrwydd yn Rhybudd Prefatrwydd Adrannol

 

Prosiectau sydd wedi'u cynnwys yn y Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth

 

logo partneriaeth

ID: 7459, adolygwyd 18/10/2024

Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth

Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth 

Mae'r Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth yn grŵp o fentrau awdurdodau lleol sy'n cyflogi dros 75 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar waith. Yn ogystal â chynnig cyflogaeth â chymorth â thâl, mae hefyd yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant a chyfleoedd dydd yn y gwaith i oddeutu 75 o bobl bob wythnos.

Mae'r rhaglen yn gweithio gyda phobl ag ystod eang o anableddau, gan gynnwys:

  • Anableddau dysgu
  • Cyflyrau niwroamrywiol gan gynnwys awtistiaeth
  • Salwch iechyd meddwl
  • Anabledd corfforol
  • Anabledd synhwyraidd
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Cyflyrau iechyd sy'n cyfyngu ar waith fel epilepsi, canser ac arthritis.

Rydym yn cynorthwyo pobl i ennill mwy o annibyniaeth a hunan-barch mewn lleoliadau gwaith â chymorth, sy'n cynnwys ein ffatri (Diwydiannau Norman), gweithdy crefft, siop fferm (Siop yr Orsaf, Maenordy Scolton), melin weld (Talog Coed) a chaffis (Caffi Man Cwrdd - Aberdaugleddau, Caffi Cyfle @ No 5 ac Ystafell de Edies) a'r cyfathrebu gweinyddol, dylunio a chyfryngau cymdeithasol cysylltiedig. 

Cylchlythyr y Rhaglen Cyflogaeth a Chymorth – dewislen (yn agor mewn tab newydd)


Gallwn. Mae'r prosiect newydd wedi'i gynllunio i gefnogi pobl ag anabledd mwy dwys a lluosog. Mae'r prosiect yn cefnogi pobl i ddatblygu annibyniaeth gan ddatblygu sgiliau cymdeithasol, cyllidebu a byw tra'n darparu lefel uwch o gefnogaeth. Mae'r prosiect yn defnyddio'r model Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol i ddylunio cefnogaeth i bobl ag ymddygiadau sy'n herio ar sail cynhwysiant, dewis, cyfranogiad a chyfle cyfartal. Y prif ffocws yw atal yr amgylchiadau sy'n arwain at ymddygiad heriol, addasu cefnogaeth os yw ymddygiad yn dechrau ymddangos a defnyddio ymatebion adweithiol cadarnhaol pan fyddant yn digwydd.

Cynigir gwaith â thâl o dan gynllun cyflogaeth â chymorthsy'n darparu cyflogaeth sy'n gysylltiedig â chefnogaeth a hyfforddiant swyddi yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn.  Gallai cymorth gynnwys offer ychwanegol neu arbenigol, gweithiwr cymorth, hyfforddwr swyddi, cynorthwyydd swydd neu gymorth cyfathrebu.  Ariennir y cymorth fel arfer trwy grant gan Fynediad at Waith. Cefnogir ein cynllun gwaith cyflogedig gan brosiectau cyflogadwyedd

Mae Profiad Gwaith yn cynnig cyfle i bobl sy'n meddwl am gael gwaith i ennill sgiliau ar gyfer gwaith, cwblhau hyfforddiant perthnasol, gwella eu CV a chael geirda ar gyfer cyflogwyr y dyfodol. 

I bobl sydd â phrofiad gwaith cyfyngedig, mae hefyd yn gyfle i roi cynnig ar wahanol swyddi i gyd-fynd â'r sgiliau a'r diddordebau presennol.

Darperir hyfforddiant mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro a Dysgu Sir Benfro a gall pobl ennill cymhwyster Agored mewn ystod o bynciau gan gynnwys iechyd a diogelwch, gwaith coed, crefftau, sgiliau hanfodol, megis rhifedd a llythrennedd, a chyflogadwyedd.

Mae'r prosiect We Can yn ganolfan ASDAN sy'n darparu hyfforddiant o dan raglen Fy Annibyniaeth i ddatblygu sgiliau byw'n annibynnol.

Mae gwasanaeth dydd yn y gwaith yn cefnogi pobl â lefelau uwch o anabledd i gymryd rhan mewn dylunio gweithgareddau yn y gwaith i gynyddu eu sgiliau, eu hyder a'u hannibyniaeth a'u cael yn barod ar gyfer gwaith os yw hynny'n rhywbeth y maent yn anelu ato.

Er mwyn atgyfeirio unrhyw brosiect, defnyddiwch ffurflen atgyfeirio Cyflogadwyedd Sir Benfro:

Ffôn:  01437 774641

E-bost: Getinvolved@pembrokeshire.gov.uk

Cyfeiriad:  Snowdrop Lane, Hwlffordd, SA61 1JB

Cyswllt allweddol

Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyflogadwyedd: Karen Davies: Karen.davies@pembrokeshire.gov.uk

Rheolwr Cyflogadwyedd: Eleanor Brick: Eleanor.brick@pembrokeshire.gov.uk

Rheolwr Hyfforddiant: Lee Adams: Lee.adams2@pembrokeshire.gov.uk

Hyderus o ran anabledd

British Association for Supported Employment

Access to work making work possible

Mae Cyngor Sir Penfro yn Arweinydd Hyderus i Bobl Anabl

  Mae Diwydiannau Norman yn aelod o Gymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain    Access to work
ID: 2709, adolygwyd 15/01/2026

Gwasanaethau Cymunedol

Beth rydym nin ei gynnig?

Ymhob un o Ganghennau ein Llyfrgell fe gewch chi:

  • Gyfrifiaduron PC Mynediad Cyhoeddus â mynediad rhad ac am ddim i’r rhyngrwyd
  • Gwasanaethau Argraffu
  • Wi-fi rhad ac am ddim (Sylwer: mae rhai safleoedd yn gweithredu Wi-fi ar alw)
  • Staff cyfeillgar sy’n barod i’ch helpu
  • Dewis o: lyfrau ffuglen a ffeithiol, DVDau, llyfrau plant a llyfrau llafar


Gwasanaeth Llyfrgell Deithiol

Mae Llyfrgelloedd Sir Benfro’n rhedeg gwasanaeth llyfrgell deithiol sy’n ymweld â nifer o rannau o’r sir. Bydd pob man aros ar y gylchdaith yn derbyn ymweliad unwaith bob pedair wythnos, ar yr un amser.

Mae gan y fan fynediad lifft ar gyfer defnyddwyr sy’n cael trafferthion symud.


Gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref

Os nad ydych yn gallu cael mynediad i'r Gwasanaeth Llyfrgell naill ai mewn cangen neu trwy'r llyfrgell deithiol efallai y byddwch yn gymwys ar gyfer ein gwasanaeth Llyfrgell i’r Cartref.

 

I gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r uchod, ewch i Llyfrgelloedd a Diwylliant

ID: 1996, adolygwyd 15/09/2023

Caffis Dementia

Mae Cymdeithas Clefyd Alzheimer yn cynnal nifer o wasanaethau dementia ledled y Sir, fel Caffis Dementia, Singing for the Brain, grwpiau gweithgareddau, gwasanaeth cyfeilio, grwpiau cymorth, eiriolaeth a mwy. I gael rhagor o wybodaeth:

Cymdeithas Clefyd Alzheimer

Ffôn: 01646 692329

E-bost: pembrokeshire@alzheimers.org.uk

ID: 1998, adolygwyd 05/07/2022

Cyfeillio

Mae’r sawl sy’n cyfeillio yn gallu eich helpu i gymdeithasu a chadw’n fywiog trwy gymryd rhan mewn gweithgareddau, hobïau a dysgu sgiliau newydd gyda chi. Mae nifer o sefydliadau yn cynnig gwasanaethau cyfeillio yn Sir Benfro:

Mind Sir Benfro

Yn darparu nifer o grwpiau a gweithgareddau i rai sy’n profi effeithiau unigrwydd gan gynnwys gofalwyr.  

Ffôn: 01437 769982

hello@mindpembrokeshire.org.uk

Age Cymru Dyfed 

  • Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl 50+ oed, gan gynnwys cyfeillio personol a grwpiau cymdeithasol/gweithgareddau.
  • Yn cynnig cymorth a chyngor ar amrediad o bynciau, gan gynnwys budd-daliadau i bobl hŷn. Gall Age Cymru Dyfed eich helpu i nodi'r budd-daliadau y gallai fod gennych hawl iddynt a gall eich helpu hefyd i gwblhau ffurflenni a cheisiadau.

Ffôn03333 447874

Reception@agecymrudyfed.org.uk

Sir Benfro: jacqui.breese@agecymrudyfed.org.uk

Ceredigion: kim.bacon@agecymrudyfed.org.uk

Sir Gârrhiannon.williams@agecymrudyfed.org.uk

Y Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol

Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl hŷn.

Ffôn: 07585 997091

pembshub@royalvoluntaryservice.org.uk

Cymdeithas Clefyd Alzheimer

Yn cynnig gwasanaeth cyfeillio i bobl gyda dementia.

Ffôn: 01646 692329

Mae Gwirfoddoli’n Cyfri

Yn cydlynu ystod eang o grwpiau cyfeillgarwch a rhwydwaith cyfeillio.

Ffôn: 01437 769422

 

ID: 1999, adolygwyd 09/12/2024