Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Diwydiannau Norman
Mae Diwydiannau Norman yn fusnes â chymorthsy'n cyflogi dros 60 o bobl ag anabledd neu gyflwr iechyd sy'n cyfyngu ar waith. Yn ogystal â chynnig cyflogaeth â chymorth a thâl, mae Diwydiannau Norman hefyd yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant a gwasanaeth dydd yn y gwaith i bobl ag anabledd neu gyflwr sy'n cyfyngu ar waith.
Mae Diwydiannau Norman yn gweithio gyda phobl ag ystod eang o anableddau gan gynnwys:
Rydym yn cynorthwyo pobl i ennill mwy o annibyniaeth a hunan-barch mewn lleoliadau gwaith â chymorth, sy'n cynnwys ein ffatri, gweithdy crefftau, siop fferm a chaffi a'r prosesau gweinyddu, dylunio a chyfathrebu cysylltiedig ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynigir gwaith â thâl o dan gynllun cyflogaeth â chymorthsy'n darparu cyflogaeth sy'n gysylltiedig â chefnogaeth a hyfforddiant swyddi yn dibynnu ar anghenion yr unigolyn. Gallai cymorth gynnwys offer ychwanegol neu arbenigol, gweithiwr cymorth, hyfforddwr swyddi, cynorthwyydd swydd neu gymorth cyfathrebu. Ariennir y cymorth fel arfer trwy grant gan Fynediad at Waith.
Mae Profiad Gwaith yn cynnig cyfle i bobl sy'n meddwl am gael gwaith i ennill sgiliau ar gyfer gwaith, cwblhau hyfforddiant perthnasol, gwella eu CV a chael geirda ar gyfer cyflogwyr y dyfodol.
Darperir hyfforddiant mewn partneriaeth â Choleg Sir Benfro a Dysgu Sir Benfro a gall pobl ennill cymhwyster Agored mewn ystod o bynciau gan gynnwys iechyd a diogelwch, gwaith coed, crefftau, sgiliau hanfodol, megis rhifedd a llythrennedd, a chyflogadwyedd.
Mae gwasanaeth dydd yn y gwaith yn cefnogi pobl â lefelau uwch o anabledd i gymryd rhan mewn dylunio gweithgareddau yn y gwaith i gynyddu eu sgiliau, eu hyder a'u hannibyniaeth a'u cael yn barod ar gyfer gwaith os yw hynny'n rhywbeth y maent yn anelu ato.
I atgyfeirio rhywun at Ddiwydiannau Norman, cysylltwch â, neu dychwelwch y Ffurflen Atgyfeirio Cyflogadwyedd Sir Benfro i employability@pembrokeshire.gov.uk
Ffôn: 01437 763650
E-bost: normanindustries@pembrokeshire.gov.uk
Cyfeiriad: Snowdrop Lane, Hwlffordd, SA61 1JB
Cyswllt Allweddol:
Rheolwr Rhaglen Gwasanaethau Cyflogadwyedd: Karen Davies
Anrhegion Unigryw - Hydref 2020
Gwybodaeth ychwanegol am y gweithgareddau y mae Diwydiannau Norman yn eu cefnogi
Videos : Wythnos Waith Anabledd Dysgu 2020
|
|
|
||
Mae Cyngor Sir Penfro yn Arweinydd Hyderus i Bobl Anabl |
Mae Diwydiannau Norman yn aelod o Gymdeithas Cyflogaeth â Chymorth Prydain |