Gwasanaethau Digidol

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Cychwynnwch eich siwrne ar-lein newydd gyda ni drwy gofrestru ar gyfer ein 'Fy Nghyfrif' newydd.

 Beth yw Fy Nghyfrif?

Fy Nghyfrif yw ein cyfrif cyngor ar-lein. Dyma ein platfform ar gyfer ein holl wasanaethau ar-lein.

Mae:

  • Yn hawdd ei ddefnyddio
  • Wedi’i deilwra i’w ddefnyddio ar ffonau symudol
  • Yn ddiogel
  • Yn gallu cynnig ystod eang o wasanaethau y gellir eu cyrchu ar-lein megis
    • gwneud taliadau
    • adrodd problemau
    • cyflwyno ceisiadau
    • a gwirio gwasanaethau yn eich ardal leol (e.e. ceisiadau cynllunio a dyddiadau casglu sbwriel)

 

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Pam dylwn i gofrestru?

Drwy gofrestru, bydd gennych fynediad i’r canlynol:

  • Dangosfwrdd personol – lle y gallwch weld eich hoff wasanaethau / y gwasanaethau yr ydych yn eu defnyddio amlaf
  • Mwy o wybodaeth ddaearyddol (am eich ardal leol ac ar draws y sir)
  • Fersiwn o'n gwasanaethau ar-lein sy'n gweithio ar ffôn symudol
  • Ffyrdd haws o reoli eich taliadau, eich adroddiadau a’ch ceisiadau

 

Sut wyf yn cofrestru?

Gallwch naill ai greu cyfrif trwy glicio 'Cofrestru' a darparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

neu

Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses gofrestru a mewngofnodi gyda Google

*Wrth ichi fynd trwy'r camau cadarnhau yn Fy Nghyfrif , gwiriwch fod eich holl fanylion wedi'u trosglwyddo'n gywir o'ch cyfrif Google.

Dyma ein canllaw fideo defnyddiol: Fy Nghyfrif  – Sut i gofrestru (yn agor mewn tab newydd)

Am help a chymorth pellach gyda Fy Nghyfrif: Cwestiynau cyffredin ynghylch 'Fy Nghyfrif'

 

I ddarparu adborth i ni, cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk

Os ydych yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ddefnyddio 'Fy Nghyfrif', defnyddiwch y ffurflen ‘rhoi gwybod am broblem’.

 

 

 

ID: 7496, adolygwyd 18/09/2024