Gwasanaethau Digidol

Track-it

Mae ein gwasanaeth Track-it yn eich galluogi i olrhain cynnydd eich ceisiadau ac adroddiadau ar-lein, sy'n golygu eich bod yn cael eich hysbysu bob cam o'r ffordd.

 

Fideo: Gan gyflwyno… Track-iT (yn agor mewn tab newydd)

 

Rydym yn treialu'r gwasanaeth ar hyn o bryd gan ddefnyddio ein swyddogaeth 'adrodd am olau stryd wedi torri', a'r bwriad wedyn yw cyflwyno hyn ar draws ein gwasanaethau eraill.

Gwasanaethau sy'n defnyddio Track-it

Adrodd am olau stryd wedi torri

Os oes angen adrodd am olau stryd wedi torri (yn agor mewn tab newydd), gallwch roi cynnig ar ein gwasanaeth Track-it.

 

Fideo: Track-iT - Sut i roi gwybod am olau stryd sydd wedi torri (yn agor mewn tab newydd)

 

Cyflwyno'ch adroddiad am olau stryd, a derbyn diweddariadau cynnydd trwy e-bost, a'r teclyn ‘Fy Ngheisiadau Gweithredol’ ar ddangosfwrdd Fy Nghyfrif.

Mae ‘Fy Ngheisiadau Gweithredol’ yn eich galluogi i fonitro cynnydd eich adroddiad mewn amser real.

I actifadu'r teclyn, dilynwch ein canllaw syml cam wrth gam:

 

Fideo: Track-iT- Sut i ychwanegu’r teclyn Fy Ngheisiadau Gweithredol (yn agor mewn tab newydd)

 

Gadewch i ni wybod beth yw eich barn

Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiad o ddefnyddio Track-it.

Cwblhewch ein arolwg adborth byr (yn agor mewn tab newydd). Dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd.

Cymorth pellach

Am gymorth a chefnogaeth ynglŷn â'ch 'Fy Nghyfrif' neu i ddarparu adborth, cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk

 

Os ydych yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ddefnyddio 'Track-it', defnyddiwch y ffurflen ‘rhoi gwybod am broblem (yn agor mewn tab newydd)’.

 

ID: 8988, adolygwyd 24/05/2024

Ein sgil Alexa - Pembrokeshire Council

Felly, beth yw sgìl Alexa?

Alexa yw gwasanaeth llais Amazon, y gellir ei gyrchu trwy'ch dyfais Amazon neu ap Alexa. Dim ond i chi ddweud y gair ‘Alexa’ a bydd Alexa yn ymateb. Gallwch eisoes ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer chwarae cerddoriaeth, llunio rhestrau o bethau i'w gwneud a gosod larymau, yn ogystal â chyrchu gwybodaeth am y tywydd a’r traffig a gwybodaeth amser real.

Mae sgìl Alexa yn debyg i ap. Gallwch alluogi ac analluogi sgiliau yn yr un ffordd ag y byddwch yn gosod a dadosod apiau ar eich ffôn clyfar neu lechen, gan ddod â'n cynhyrchion a'n gwasanaethau yn fyw.

Rydym wedi lansio sgìl Alexa ar gyfer y canlynol:

  • Cau Pont Cleddau
  • Casgliadau gwastraff
  • Cau ysgolion
  • Bwydlenni prydau ysgolion cynradd

I ddechrau defnyddio'r sgìl hwn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:

Cam un: Agorwch ap Alexa ar eich dyfais glyfar

Cam dau: Llywiwch i'r opsiwn 'More' yn y bar offer ar y gwaelod

Cam tri: Dewiswch yr opsiwn “Skills & Games” yn y rhestr. Dyma ble y gallwch chi reoli'r sgiliau sydd wedi'u gosod ar eich dyfais Alexa, a gosod sgiliau newydd

Cam pedwar: Dewiswch yr eicon ar gyfer 'Chwilio' yng nghornel dde uchaf eich sgrin. Gall hwn ymddangos yn wahanol yn dibynnu ar eich dyfais.

Cam pump: Chwiliwch am 'Pembrokeshire Council' yn y ddewislen hon. Dylai'r sgìl ymddangos ar ôl chwiliad byr

Cam chwech: Dylai'r sgìl ymddangos fel yr opsiwn cyntaf yn y rhestr, fel y gwelir yn y llun. Pwyswch enw'r sgìl, sef 'Pembrokeshire County Council'

Cam saith: Dewiswch yr opsiwn 'Launch' ar y sgrin hon. Dylai hyn gysylltu'r sgìl â'ch cyfrif Amazon, a chaniatáu iddo fod yn hygyrch o ddyfeisiau Alexa sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif

Cam wyth: Dylai'r sgìl ofyn am ganiatâd. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i swyddogaethau'r sgìl i gyd weithredu'n gywir, ac fe'i defnyddir i adnabod y cyfeiriad ar gyfer yr wybodaeth am wastraff a lleoliad a ddarperir gan y sgìl

Cam naw: Os hoffech chi lansio'r sgìl nawr, gallwch ddewis y ddyfais yr hoffech chi ei defnyddio a phwyso'r botwm 'Launch'

Cam deg : Mewngofnodwch i ap Alexa, a rhowch gynnig ar ddweud:

“Alexa, ask Pembrokeshire council, when is my next waste and recycling collection?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, what items are due for my next collection?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, which waste containers can I leave out for collection this week?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, is the Cleddau Bridge open?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, which schools are closed today?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, what’s on the primary school lunch menu today?”

“Alexa, ask Pembrokeshire council, what’s for school dinners tomorrow?”

"What is the festive lunch menu in schools?"

"When are schools having Christmas lunch/dinner?"

"Can I put more rubbish out at Christmas?"

"Will my bin day change at Christmas?"

"What date will my waste and recycling collection take place this Christmas?"

Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r gosodiad i gychwyn, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm yn: iot@sir-penfro.gov.uk

 

Ydych chi wedi symud tŷ neu newid y cyfeiriad lle mae eich dyfais Alexa wedi'i lleoli? 

Os felly, dylech wirio bod lleoliad pob un o'ch dyfeisiau yn gywir. Os yw'n anghywir, bydd yn rhoi gwybodaeth anghywir i chi, e.e. y dyddiadau casglu ymyl y ffordd anghywir.

Sut i newid y gosodiad lleoliad ar Alexa:

Cam 1: Agorwch ap Alexa ar eich ffôn clyfar neu lechen, ac ewch i ‘More’.

Cam 2: Ewch i ‘Settings’ ac yna ‘Device Settings’.

Cam 3: Fe welwch restr o'ch holl ddyfeisiau – cliciwch ar y ddyfais rydych chi am wirio’r lleoliad sydd wedi’i osod ar ei chyfer.

Cam 4: Byddwch naill ai'n gweld cyfeiriad o dan ‘Device location’ neu, os yw'n dweud dim byd o dan ‘Device location’, nid yw'n gysylltiedig â chyfeiriad.

Cam 5: Os oes angen i chi ychwanegu neu newid cyfeiriad, dylech glicio ar ‘Device location’ ac yna'r botwm ‘Change’. Ewch drwy'r broses o fewnbynnu'r cyfeiriad cywir a chadw’r wybodaeth hon.

Cam 6: Ailadroddwch y broses hon ar gyfer pob dyfais.

ID: 8945, adolygwyd 18/12/2025

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Cychwynnwch eich siwrne ar-lein newydd gyda ni drwy gofrestru ar gyfer ein 'Fy Nghyfrif' newydd.

Ar dudalen hon:

Beth yw Fy Nghyfrif?

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif

Mewngofnodi i Fy Nghyfrif

Am help a chymorth pellach ewch i: Cwestiynau Cyffredin am Fy Nghyfrif



Beth yw Fy Nghyfrif?

Fy Nghyfrif yw ein cyfrif cyngor ar-lein. Dyma ein platfform ar gyfer ein holl wasanaethau ar-lein.

Mae:

  • Yn hawdd ei ddefnyddio
  • Wedi’i deilwra i’w ddefnyddio ar ffonau symudol
  • Yn ddiogel
  • Yn gallu cynnig ystod eang o wasanaethau y gellir eu cyrchu ar-lein megis
    • gwneud taliadau
    • adrodd problemau
    • cyflwyno ceisiadau
    • a gwirio gwasanaethau yn eich ardal leol (e.e. ceisiadau cynllunio a dyddiadau casglu sbwriel)

 

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif



Sut i gofrestru

 

Gallwch greu cyfrif drwy ddarparu cyfeiriad e-bost a chyfrinair

  1. Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
  2. Dewiswch ‘Cofrestru’.
  3. Gofynnir i chi roi eich enw cyntaf, eich cyfenw, eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.

Cofiwch y canlynol:

Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:

    • o leiaf wyth nod
    • o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
    • o leiaf un llythyren fawr
    • o leiaf un rhif
  1. Cytunwch â’r telerau defnyddio a chliciwch ar ‘Cofrestru’.
  2. Cwblhewch y sgriniau cyfarwyddiadau cofrestru.
  3. Byddwch yn cael e-bost gyda dolen actifadu. Er eich diogelwch, bydd y ddolen actifadu yn yr e-bost yn dod i ben ar ôl 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
  4. I orffen sefydlu eich cyfrif cliciwch ar y ddolen actifadu.
  5. Byddwch yn gweld sgrin yn cadarnhau bod eich cyfeiriad e-bost wedi’i gadarnhau ar gyfer eich cyfrif, a gallwch nawr fewngofnodi.

Neu

Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses ‘Cofrestru’ a mewngofnodi gan ddefnyddio eich cyfrif Google.

Sylwer:

Wrth ichi fynd trwy’r camau cadarnhau yn Fy Nghyfrif, gwiriwch fod eich holl fanylion wedi’u trosglwyddo’n gywir o’ch cyfrif Google.

 

Yn cael trafferth cofrestru?

 

Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:

 

  1. Nid yw’r cyfrinair rydych chi’n ceisio ei osod yn bodloni’r meini prawf diogelwch.

Rhaid i gyfrineiriau fod:

  • yn wyth nod neu ragor o hyd

a chynnwys:

  • priflythrennau a llythrennau bach
  • o leiaf un rhif
  • nod arbennig, e.e. *!#

 

  1. Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi.
  2. Mae gennych chi gyfrif eisoes. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair .

Neu

Os ydych chi’n siŵr nad oes gennych chi gyfrif wedi’i gofrestru ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.

 



Mewngofnodi i Fy Nghyfrif



Mewngofnodi gydag e-bost a chyfrinair

  1. Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi gydag e-bost’.
  3. Rhowch eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
  4. Cliciwch ‘Mewngofnodi’.

 

Sylwer:

Os ydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen gan ddefnyddio ‘Mewngofnodi gyda Google’ ar gyfer Fy Nghyfrif, efallai y bydd hynny’n golygu mai dim ond manylion mewngofnodi eich cyfrif Google sydd wedi’u cysylltu â’ch cyfrif.

Os ydych chi eisiau gosod cyfrinair ar gyfer ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ yn y dyfodol, bydd angen i chi osod cyfrinair.



Yn cael trafferth mewngofnodi gydag e-bost a chyfrinair?

 

Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:

 

  1. Rydych chi wedi anghofio’r cyfrinair a osodwyd gennych yn ystod y broses gofrestru. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair.
  2. Ni ellid dod o hyd i gyfrif yn gysylltiedig â’ch cyfeiriad e-bost.

Efallai y bydd angen i chi gofrestru am gyfrif.

Neu

Os ydych chi’n siŵr bod gennych chi gyfrif eisoes wedi’i greu ar gyfer y cyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

 

Mewngofnodi heb gyfrinair

  •  Byddwn yn anfon dolen arbennig atoch i’ch cyfeiriad e-bost.
  • Cliciwch arni, a chewch eich mewngofnodi ar unwaith.

Mae hyn yn helpu i gadw’ch cyfrif yn ddiogel, oherwydd ei fod yn atal pobl rhag gallu dyfalu neu ddwyn eich cyfrinair.

Does dim rhaid cofio nac ailosod unrhyw gyfrineiriau.

 

Sylwer:

Bydd angen i chi gael Fy Nghyfrif sy’n bodoli eisoes i ddefnyddio’r opsiwn hwn.

Os nad oes gennych Fy Nghyfrif ar hyn o bryd:Cofrestrwch am gyfrif.

 

  1. Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi heb gyfrinair’.
  3. Rhowch eich cyfeiriad e-bost.
  4. Caiff dolen ei hanfon i’ch e-bost. Bydd y ddolen yn y neges e-bost yn dod i ben ar ôl 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach a sbam.
  5. Cliciwch ar y ddolen yn eich e-bost i fewngofnodi yn awtomatig i’ch cyfrif.

 

Sylwer:

Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio.

Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘mewngofnodi heb gyfrinair’ eto.

 

Yn cael trafferth mewngofnodi heb gyfrinair?

 

Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:

 

  1. Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘mewngofnodi heb gyfrinair’ eto.

 

Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

 

Mewngofnodi gyda chyfrinair cymdeithasol, e.e. Google

 

Os oes gennych gyfrif Google, gallwch hepgor y broses mewngofnodi ar gyfer Fy Nghyfrif.

 

  1. Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi gyda Google’.
  3. Dewiswch y cyfrif Google rydych chi am fewngofnodi ag ef.
  4. Byddwch yn cael eich ailgyfeirio i’ch dangosfwrdd Fy Nghyfrif.

 



Yn cael trafferth mewngofnodi gyda Google?

 

Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:

 

  1. Rydych chi’n ceisio ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ ond dim ond gan ddefnyddio ‘Mewngofnodi gyda Google’ rydych chi wedi mewngofnodi o’r blaen ar gyfer Fy Nghyfrif, sy’n golygu mai dim gyda’ch cyfrif Google y mae eich cyfrif wedi’i gysylltu at ddibenion mewngofnodi.

 

Os ydych chi eisiau gosod cyfrinair ar gyfer ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ yn y dyfodol, bydd angen i chi osod cyfrinair.

 

  1.  Mae eich cyfrif eisoes wedi’i gysylltu i chi gael ‘Mewngofnodi gydag e-bost’ gan ddefnyddio’ch cyfeiriad e-bost dewisol, ond rydych chi wedi anghofio’r cyfrinair a osodwyd gennych. Bydd angen i chi ailosod eich cyfrinair.

Neu

Os ydych chi’n siŵr nad yw eich cyfrif wedi’i gysylltu â’rcyfeiriad e-bost hwn, cysylltwch â ni ar digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

 

Wedi anghofio cyfrinair / ailosod cyfrinair

 

  1. Ewch i dudalen hafan Fy Nghyfrif.
  2. Dewiswch ‘Mewngofnodi gydag e-bost’.
  3. Dewiswch ‘Wedi anghofio cyfrinair’.
  4. Rhowch eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn anfon dolen atoch i ailosod eich cyfrinair.
  5. Byddwch yn cael e-bost gyda dolen i ailosod cyfrinair. Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn ddilys am 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach / sbam.
  6. Gosod eich cyfrinair …

Cofiwch y canlynol:

Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:

  • o leiaf wyth nod
  • o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
  • o leiaf un llythyren fawr
  • o leiaf un rhif

 

Newid y cyfrinair presennol

Gallwch newid eich cyfrinair yn Fy Nghyfrif ar unrhyw adeg.

 

  1. Pwyswch ar Mewngofnodi i Fy Nghyfrif.
  2. Yn eich dangosfwrdd Fy Nghyfrif ...
  3. Cliciwch ar eich proffil yng nghornel dde uchaf y sgrin.
  4. Dewiswch ‘Fy manylion’.
  5. Dewiswch ‘Dewisiadau diogelwch’.
  6. Cliciwch ar ‘Newid cyfrinair’.
  7. Rhowch eich cyfeiriad e-bost fel y gallwn anfon dolen atoch i ailosod eich cyfrinair.
  8. Byddwch yn cael e-bost gyda dolen i ailosod cyfrinair. Er eich diogelwch, mae’r ddolen yn ddilys am 15 munud. Cofiwch wirio eich ffolderi sothach / sbam.
  9. Gosod eich cyfrinair …

 

 

Cofiwch y canlynol:

Rhaid i’ch cyfrinair gynnwys y canlynol:

  • o leiaf wyth nod
  • o leiaf un symbol, e.e. ?!£%
  • o leiaf un llythyren fawr
  • o leiaf un rhif

 

 

Yn cael trafferth ailosod / newid eich cyfrinair?

 

Gallai fod oherwydd y rhesymau canlynol:

 

  1. Nid yw’r cyfrinair rydych chi’n ceisio ei osod yn bodloni’r meini prawf diogelwch.

Rhaid i gyfrineiriau fod:

  • yn wyth nod neu ragor o hyd

a chynnwys:

  • priflythrennau a llythrennau bach
  • o leiaf un rhif
  • nod arbennig, e.e. *!#

 

  1. Mae’n bosibl bod y ddolen ddiogelwch arbennig a anfonwyd at eich e-bost wedi dod i ben. Mae’r ddolen yn dod i ben ar ôl 15 munud, a dim ond unwaith y gellir ei defnyddio. Bydd angen dolen newydd arnoch chi, felly bydd angen i chi fynd trwy’r broses ‘wedi anghofio cyfrinair / ailosod cyfrinair / newid cyfrinair’ eto.

 

Am help a chymorth pellach cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk.

 

 

Am help a chymorth pellach ewch i: Cwestiynau Cyffredin am Fy Nghyfrif

 

I ddarparu adborth i ni, cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk

Os ydych yn cael unrhyw broblemau technegol wrth ddefnyddio 'Fy Nghyfrif', defnyddiwch y ffurflen ‘rhoi gwybod am broblem’.

 

 

 

ID: 7496, adolygwyd 29/01/2026

Polisi Cwcis

Defnyddio cwcis gan Gyngor Sir Penfro

Ffeiliau testun bychain yw cwcis sy’n cael eu gosod ar y ddyfais a ddefnyddiwch i gael at y wefan. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchenogion y safle.           

Cewch ddileu a rhwystro pob cwci o’n safleoedd, ond bydd hyn yn golygu na fydd rhannau o’r safle’n gweithio.

Cwcis sy’n Gwbl Angenrheidiol

DERBYN GWRTHOD

1. Yn y tabl isod, eglurir y cwcis a ddefnyddiwn a pham

Cwci 

Enw 

Diben 

 

ASP.NET_SessionId

Mae’r cwci hwn yn hanfodol a chaiff ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr.

COMS Content Management System

COMS_COOKIE
Gwerthoedd:
"Browser" = y math o borwr a ddefnyddioch ar eich ymweliad diwethaf
"Connection" = y math o gysylltiad data a ddefnyddiwyd ddiwethaf              
"Language” = yr iaith a osodwyd ar eich porwr ar yr ymweliad diwethaf
"IP address" = cyfeiriad rhyngrwyd eich ymweliad diwethaf.

Defnyddir hwn i helpu’r cyngor i gyfrif nifer yr ymwelwyr â phob rhan o’r safle, a deall a ydy pobl yn dychwelyd i’r safle. Fe’i defnyddir i helpu i gynllunio’r safle a chyfeirio’r ymdrech tuag at y rhannau sy’n boblogaidd.            
Caiff y cwci hwn ei ddileu ar ôl 24 awr.

 

COMS_POLL
Gwerthoedd:
"PollID" – rhifau cyfeirnod yr arolygon y pleidleisioch ynddynt
Haskeys” – baner i nodi bod y cwci’n ddilys          

Defnyddir hwn i gofnodi eich bod chi, neu rywun sy’n defnyddio eich dyfais, wedi pleidleisio mewn arolwg barn ar-lein ar y wefan. Caiff ei wirio wedyn pan ymwelwch â’r safle ac ni fydd y safle’n cynnig y cyfle ichi bleidleisio eto.                     
Caiff y cwci hwn ei ddileu ar ôl 30 diwrnod.
Nid yw’n cofnodi sut y byddwch yn pleidleisio ar unrhyw fater.

 

COOKIEASSENT

I gofnodi a ydy defnyddiwr wedi derbyn bod cwcis yn cael eu defnyddio ar wefan Cyngor Sir Penfro.

 

pcc_styleContrast 
pcc_styleSize

Defnyddir y rhain i newid cyferbynnedd i welededd uchel neu gyferbynnedd wedi pylu; neu i newid maint y ffont am resymau hygyrchedd.                      

Google Analytics

 _utma
 _utmb
 _utmc
 _utmz

Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y bydd ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn yr wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble ddaeth ymwelwyr i’r safle, a’r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy.                              

Tribal Family Information System

PESearchCookie

Defnyddir hwn i storio manylion adnabod Darparwyr a ddychwelwyd wrth chwilio ac a ddewiswyd i’w cynnwys mewn Basged / i’w Hargraffu. Dim dyddiad dod i ben wedi’i osod.

 

PECompareCookie

Defnyddir hwn i storio manylion adnabod Darparwyr ar gyfer y pwrpas cymharu. Dim dyddiad dod i ben wedi’i osod.           

 

PELanguageCookie

Storio’r iaith a ddewiswyd gan y defnyddiwr. Dod i ben ar ôl 12 awr.

 

PETestCookie

Defnyddir hwn i brofi a oes cwcis wedi’u galluogi yn y porwr. Caiff ei greu a’i ddileu ar unwaith.

WebOpac
Libraries System

CardId
Pin
Name
Institution

SAFLE

Defnyddir y cwci hwn i fewngofnodi’n awtomatig pan ddechreuir sesiwn WebOpac.

Arolwg boddhad cwsmeriaid

Socitm_include_me[x]
Socitm_exclude_me[x]
Socitm_include_alt[x]

Defnyddir y cwcis hyn i atal cwsmeriaid rhag cael eu gwahodd i gyfranogi nifer o weithiau yn yr un arolwg. Nid ydynt yn cynnwys data o gwbl sy’n gallu adnabod pobl yn bersonol. Os byddwch yn rhwystro’r cwcis hyn, ni chewch eich gwahodd i gyfranogi yn yr arolwg hwn.

Bydd y rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. I gael gwybod rhagor am gwcis, gan gynnwys sut mae gweld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut mae eu rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org (yn agor mewn tab newydd)

I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i Google Optout (yn agor mewn tab newydd)

 

Cwcis YouTube

Byddwn yn mewnosod fideos o’n sianel YouTube swyddogol gan ddefnyddio modd preifatrwydd uwch YouTube. Efallai bydd y modd hwn yn gosod cwcis ar y ddyfais a ddefnyddiwch i gael at ein gwefannau pan fyddwch yn clicio ar chwaraewr fideo YouTube; serch hynny, ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth gwcis sy’n fodd o’ch adnabod yn bersonol ar gyfer chwarae fideos a fewnosodwyd yn ôl gan ddefnyddio’r modd preifatrwydd uwch. I gael gwybod rhagor, ewch i dudalen wybodaeth YouTube am fewnosod fideos (yn agor mewn tab newydd) 

 

ID: 3443, adolygwyd 08/11/2023

Beth allwch ei ddisgwyl wrth ymweld an gwefan?

Pan fyddwch yn ymweld â www.sir-benfro.gov.uk byddwn yn casglu gwybodaeth gofnodi rhyngrwyd safonol a manylion eich patrymau ymddygiad wrth ddefnyddio ein gwefan. Gwnawn hyn i gael gwybod pethau fel nifer yr ymwelwyr â rhannau amrywiol o’r safle.       

Casglwn yr wybodaeth hon mewn ffordd nad yw’n eich adnabod chi. Nid ydym yn ymdrechu o gwbl i gael gwybod pwy yw’r rheini sy’n ymweld â’n gwefan. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata a gasglwyd o’r safle ag unrhyw wybodaeth sy’n fodd o adnabod pobl yn bersonol o unrhyw ffynhonnell.

Os ydym am gasglu gwybodaeth sy’n fodd o’ch adnabod yn bersonol drwy ein gwefan, byddwn yn dweud wrthych am hyn. Byddwn yn ei gwneud yn glir pan gasglwn wybodaeth bersonol a byddwn yn egluro’r hyn y bwriadwn ei wneud â hi. 

ID: 3450, adolygwyd 12/07/2021

Hysbysiadau

Trwy gofrestru ar gyfer hysbysiadau, mae'n golygu y gallwch dderbyn ystod o rybuddion a nodiadau atgoffa.

Hysbysiad

Testun (SMS)

E-bost

Cyrsiau addysg i oedolion yn eich ardal - tick icon
Rhybuddion balans isel arlwyo heb arian tick tick icon

Hysbyseb Wythnosol Cartrefi Dewisedig Sir Benfro

- tick icon

Cau Pont Cleddau

- tick icon
Eiddo ar werth  - tick icon
Eiddo i'w osod - tick icon
Ymgynghoriadau gan y cyngor - tick icon

Casgliadau gwastraff gardd

- tick icon
Gwasanaethau ar-lein newydd tick icon tick icon
Nodiadau atgoffa etholiadol Sir Benfro tick icon tick icon

Ystafell Newyddion

- tick icon
Nodiadau atgoffa ar gyfer casglu gwastraff ac ailgylchu -
Cau ysgolion - tick icon 

 

I dderbyn hysbysiadau e-bost a neges destun, cwblhewch y camau isod

  1. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
  2. Cliciwch ar ''Fy manylion' (mae'r gwymplen wrth eich enw defnyddiwr), cyn dewis 'Fy Newisiadau Hysbysiadau'
    '
  3. Dewiswch yr hysbysiadau yr hoffech eu derbyn o'r rhestr.

Peidiwch ag anghofio gwirio eich rhif ffôn ac e-bost

  1. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
  2. Cliciwch y 'Fy manylion' (mae'r gwymplen wrth eich enw defnyddiwr)
  3. Cliciwch 'Golygu Manylion Cyswllt'
  4. Gwiriwch/Golygwch/Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol
  5. Cliciwch 'Cadw'r Newidiadau’ ar waelod y dudalen

* Ychwanegwch rif eich ffôn poced i ddeffro ein gwasanaeth hysbysu testun (SMS).

 

Cwestiynau Cyffredin

Pwy fydd yn danfon yr e-bost?

Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan noreply@pembrokeshire.gov.uk felly ychwanegwch y cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau diogel

Oes modd i mi ymateb i’r e-bost?

Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i’r cyfeiriad yma. Os byddwch angen cysylltu â ni, anfonwch neges i: enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Oes modd i mi beidio â derbyn yr hysbysiadau?

Oes. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif a chlicio ar ‘Fy Ngwasanaethau’. Yna dewiswch ‘Fy Newisiadau Hysbysiadau', gan ddiffodd yr hysbysiadau nad ydych am eu derbyn.

Oes rhaid talu am y gwasanaeth neges destun?

Na, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i’n cwsmeriaid dderbyn negeseuon, er bydd y neges gychwynnol a ddanfonwch at ‘Hysbysu’ yn cael ei godi ar gyfradd safonol eich rhwydwaith.

Pwy fydd yn danfon yr neges destun?

Bydd yr neges destun yn cael ei ddanfon gan PembsCC.

Oes modd i mi ymateb i'r neges destun?

Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i PembsCC.

Fyddwch chi'n defnyddio fy manylion ar gyfer unrhyw ddibenion eraill?

Na! Byddwn ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol i anfon yr hysbysiadau yr ydych wedi’u dewis. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion i eraill.

Pam fy mod i’n derbyn negeseuon testun ynglŷn â’m hadroddiad atgyweiriadau tai?

Fel rhan o’n gwelliannau i’r gwasanaeth, rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o’r ffordd. Drwy ddanfon neges destun gallwn roi gwybod i chi

  • Ein bod wedi derbyn eich adroddiad
  • Eich rhif cyfeirnod
  • Yr amser a’r dyddiad y byddwn ni neu un o’n contractwyr yn galw yn yr eiddo

Byddwn hefyd yn danfon neges ddiwrnod cyn eich apwyntiad er mwyn eich atgoffa y byddwn ni’n galw, a ffurflen adborth unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau fel y gallwch ddweud wrthym sut y gwnaethom

 

ID: 2753, revised 13/05/2024

Rhybudd Ymwadiad a Thelerau ac Amodau Defnyddio

Rhybudd Ymwadiad

Mae Cyngor Sir Penfro’n ymdrechu i gynnal cywirdeb a dibynadwyedd y wefan hon.  Fodd bynnag, nid yw’n gwneud unrhyw sylw ynghylch cywirdeb, dibynadwyedd, cyflawnder nac addasrwydd y wybodaeth, cynhyrchion, gwasanaethau a graffeg gysylltiedig sydd ar y wefan hon at unrhyw ddiben.  Ni fydd i Gyngor Sir Penfro, ei gyflogeion, ei gyflenwyr a phartïon eraill sy’n ymwneud â chreu a chyflwyno’r wefan hon fod yn atebol am unrhyw niwed, colled neu anghyfleuster uniongyrchol, anuniongyrchol, atodol, arbennig na chanlyniadol a achosir trwy ddibynnu ar gynnwys y wefan hon neu sy’n deillio o ddefnyddio’r wefan hon. 

Telerau ac amodau defnyddio

Mae Cyngor Sir Penfro’n caniatáu mynediad at y wefan hon a’i defnyddio’n amodol ar y telerau ac amodau canlynol:

  1. Trwy ddefnyddio’r wefan hon rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn sy’n effeithiol o’r dyddiad cyntaf i chi ddefnyddio’r wefan.  Mae Cyngor Sir Penfro’n cadw’r hawl i newid y telerau ac amodau hyn ar unrhyw adeg trwy arddangos unrhyw newidiadau ar-lein.  Trwy ddal i ddefnyddio’r wefan hon ar ôl arddangos unrhyw newidiadau rydych yn derbyn y telerau ac amodau newydd.

  2. Cewch ddefnyddio’r wefan hon ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun.  Ni chewch gopïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, arddangos, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw fodd heblaw ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol cartref eich hun.  Mae unrhyw ddefnydd arall angen caniatâd ysgrifenedig blaenorol y Cyngor.

  3. Rydych yn cytuno i ddefnyddio’r wefan yn unig at ddibenion cyfreithlon ac mewn ffordd nad yw’n torri hawliau, nac yn cyfyngu ar neu rwystro neb arall rhag defnyddio a mwynhau’r wefan hon, nac achosi annifyrrwch, anhwylustod neu wewyr meddwl diachos i neb arall.  Mae cyfyngiad neu waharddiad o’r fath yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol neu amharchus neu sy’n gallu aflonyddu neu achosi gofid, anghyfleuster, niwsans neu fygythiad i unrhyw un a thrawsyrru cynnwys anllad, bygythiol neu sarhaus neu amharu ar lif deialog arferol ar y wefan hon.

  4. Mae’r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill, nad yw’r Cyngor yn eu rhedeg.  Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am gynnwys y gwefannau hyn ac nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb all godi trwy ddefnyddio gwefannau o’r fath.

  5. Mae’r Cyngor yn ceisio sicrhau bod holl wybodaeth a deunydd ar y wefan hon yn fanwl gywir ond nid yw’n derbyn unrhyw gyfrifoldeb am wallau neu ddiffygion, ac nid yw’r Cyngor chwaith yn gwarantu y bydd y wefan yn gweithredu’n ddi-dor.  Mae’r Cyngor yn darparu’r deunydd sydd ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu â holl warantau o ran deunydd o’r fath, boed yn bendant neu’n oblygedig.  Nid yw’r Cyngor, ei gyflogeion, ei gyflenwyr na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am golli unrhyw fusnes, cyllid neu elw uniongyrchol, anuniongyrchol, atodol neu ganlyniadol neu niwed arbennig yn deillio o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnyddio’r wefan hon.

  6. Rydych yn cydnabod bod holl hawliau eiddo deallusol gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata yng ngwefan y Cyngor a’i chynnwys yn perthyn i neu dan drwydded i’r Cyngor sydd fel arall yn cael ei ddefnyddio gan y Cyngor fel y caniateir dan ddeddf berthnasol.

  7. Mae gan y Cyngor hawl i olygu, wrthod arddangos neu ddileu unrhyw ddeunydd a gyflwynir neu a arddangosir ar y wefan hon. Nid yw’r Cyngor yn gyfrifol am nac yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw ddeunydd a arddangosir ar y wefan heblaw gan y Cyngor.  Unrhyw farn, cyngor, datganiad, cynnig neu wybodaeth arall a fynegir neu a ddarperir gan bobl eraill ar wefan y Cyngor yw rhai’r bobl eraill dan sylw. Nid yw’r Cyngor naill ai’n cadarnhau nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.

  8. Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy’n llywodraethu’r telerau ac amodau hyn.  Bydd i unrhyw anghydfod yn deillio o’r telerau ac amodau hyn dan awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig.

  9. Os dowch o hyd i unrhyw beth ar y wefan hon sy’n achosi pryder i chi yna cofiwch ddweud wrthym.

  10. Os ydych yn anfodlon ar unrhyw ran o’r wefan hon neu gydag unrhyw un o’r telerau ac amodau defnyddio hyn, dylech roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.

  11. Os penderfynir bod unrhyw un o’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon, yn annilys neu fel arall yn anorfodadwy yna, i’r graddau y bo’r telerau neu amodau hynny’n anghyfreithlon, yn annilys neu’n anorfodadwy, bydd iddynt gael eu torri a’u dileu o’r cymal hwn a bydd i weddill y telerau ac amodau oroesi, aros yn eu cyflawn rym a nerth a dal i fod yn gyfrwymol a gorfodadwy.
ID: 2531, adolygwyd 17/01/2023