Gwasanaethau Digidol
Ein sgil Alexa - Pembrokeshire Council
Felly, beth yw sgìl Alexa?
Alexa yw gwasanaeth llais Amazon, y gellir ei gyrchu trwy'ch dyfais Amazon neu ap Alexa. Dim ond i chi ddweud y gair ‘Alexa’ a bydd Alexa yn ymateb. Gallwch eisoes ddefnyddio'r gwasanaeth hwn ar gyfer chwarae cerddoriaeth, llunio rhestrau o bethau i'w gwneud a gosod larymau, yn ogystal â chyrchu gwybodaeth am y tywydd a’r traffig a gwybodaeth amser real.
Mae sgìl Alexa yn debyg i ap. Gallwch alluogi ac analluogi sgiliau yn yr un ffordd ag y byddwch yn gosod a dadosod apiau ar eich ffôn clyfar neu lechen, gan ddod â'n cynhyrchion a'n gwasanaethau yn fyw.
Rydym wedi lansio sgìl Alexa ar gyfer y canlynol:
- Cau Pont Cleddau
- Casgliadau gwastraff
- Cau ysgolion
- Bwydlenni prydau ysgolion cynradd
I ddechrau defnyddio'r sgìl hwn, y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw:
Cam un: Agorwch ap Alexa ar eich dyfais glyfar
Cam dau: Llywiwch i'r opsiwn 'More' yn y bar offer ar y gwaelod
Cam tri: Dewiswch yr opsiwn “Skills & Games” yn y rhestr. Dyma ble y gallwch chi reoli'r sgiliau sydd wedi'u gosod ar eich dyfais Alexa, a gosod sgiliau newydd
Cam pedwar: Dewiswch yr eicon ar gyfer 'Chwilio' yng nghornel dde uchaf eich sgrin. Gall hwn ymddangos yn wahanol yn dibynnu ar eich dyfais.
Cam pump: Chwiliwch am 'Pembrokeshire Council' yn y ddewislen hon. Dylai'r sgìl ymddangos ar ôl chwiliad byr
Cam chwech: Dylai'r sgìl ymddangos fel yr opsiwn cyntaf yn y rhestr, fel y gwelir yn y llun. Pwyswch enw'r sgìl, sef 'Pembrokeshire County Council'
Cam saith: Dewiswch yr opsiwn 'Launch' ar y sgrin hon. Dylai hyn gysylltu'r sgìl â'ch cyfrif Amazon, a chaniatáu iddo fod yn hygyrch o ddyfeisiau Alexa sy'n gysylltiedig â'ch cyfrif
Cam wyth: Dylai'r sgìl ofyn am ganiatâd. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i swyddogaethau'r sgìl i gyd weithredu'n gywir, ac fe'i defnyddir i adnabod y cyfeiriad ar gyfer yr wybodaeth am wastraff a lleoliad a ddarperir gan y sgìl
Cam naw: Os hoffech chi lansio'r sgìl nawr, gallwch ddewis y ddyfais yr hoffech chi ei defnyddio a phwyso'r botwm 'Launch'
Cam deg : Mewngofnodwch i ap Alexa, a rhowch gynnig ar ddweud:
“Alexa, ask Pembrokeshire council, when is my next waste and recycling collection?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, what items are due for my next collection?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, which waste containers can I leave out for collection this week?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, is the Cleddau Bridge open?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, which schools are closed today?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, what’s on the primary school lunch menu today?”
“Alexa, ask Pembrokeshire council, what’s for school dinners tomorrow?”
"What is the festive lunch menu in schools?"
"When are schools having Christmas lunch/dinner?"
"Can I put more rubbish out at Christmas?"
"Will my bin day change at Christmas?"
"What date will my waste and recycling collection take place this Christmas?"
Os oes gennych unrhyw broblemau gyda'r gosodiad i gychwyn, mae croeso i chi gysylltu â'r tîm yn: iot@sir-penfro.gov.uk
Ydych chi wedi symud tŷ neu newid y cyfeiriad lle mae eich dyfais Alexa wedi'i lleoli?
Os felly, dylech wirio bod lleoliad pob un o'ch dyfeisiau yn gywir. Os yw'n anghywir, bydd yn rhoi gwybodaeth anghywir i chi, e.e. y dyddiadau casglu ymyl y ffordd anghywir.
Sut i newid y gosodiad lleoliad ar Alexa:
Cam 1: Agorwch ap Alexa ar eich ffôn clyfar neu lechen, ac ewch i ‘More’.
Cam 2: Ewch i ‘Settings’ ac yna ‘Device Settings’.
Cam 3: Fe welwch restr o'ch holl ddyfeisiau – cliciwch ar y ddyfais rydych chi am wirio’r lleoliad sydd wedi’i osod ar ei chyfer.
Cam 4: Byddwch naill ai'n gweld cyfeiriad o dan ‘Device location’ neu, os yw'n dweud dim byd o dan ‘Device location’, nid yw'n gysylltiedig â chyfeiriad.
Cam 5: Os oes angen i chi ychwanegu neu newid cyfeiriad, dylech glicio ar ‘Device location’ ac yna'r botwm ‘Change’. Ewch drwy'r broses o fewnbynnu'r cyfeiriad cywir a chadw’r wybodaeth hon.
Cam 6: Ailadroddwch y broses hon ar gyfer pob dyfais.