Gwasanaethau Digidol
Eisiau ymuno â'n tîm TG?
A ydych am ddatblygu eich gyrfa ym maes TG?
Mae gennym amrywiaeth o gyfleoedd gwaith gwych ar gael yn harddwch Sir Benfro.
Mae gyrfa yng Nghyngor Sir Penfro yn golygu y gallwch gael effaith uniongyrchol nid yn unig ar y gwasanaethau yr ydym yn eu cynnig, ond hefyd ar y gymuned ehangach. Mae ein hadran TG yn wasanaeth hanfodol yn yr Awdurdod, sy'n cynnig cymorth dyddiol i staff ym mhob maes.Gydag ymddangosiad newyddbethau ym maes technoleg, a thueddiadau newidiol o ran gweithio o bell, ni fu erioed gwell amser i ymuno â'r tîm dynamig hwn.
Rydym yn ymrwymedig yng Nghyngor Sir Penfro i ddarparu cydbwysedd gwych rhwng bywyd a gwaith. Gwnawn hyn trwy ddarparu hyblygrwydd, yn ogystal â sicrhau eich bod yn teimlo'n gysylltiedig ac yn rhan o dîm cydlynol.
Gyda'i golygfeydd syfrdanol, ei ffordd o fyw arfordirol, ac ystod o weithgareddau hamdden, mae gan Sir Benfro lawer i'w gynnig; ac felly hefyd yn ein hachos ni. Dim ond rhagflas yn unig yw'r canlynol o'r amrywiaeth o fuddion sy'n deillio o ymuno â thîm Cyngor Sir Penfro:
- Gwyliau Blynyddol hael o hyd at 30 diwrnod
- Aelodaeth o'r cynllun pensiwn Llywodraeth Leol â buddion 'cyfartaledd gyrfa' wedi'u diffinio
- Gweithio hyblyg ac ystwyth
- Mynediad at ostyngiadau ar amrywiaeth o gynhyrchion, gwasanaethau ac atyniadau
- Amrywiaeth eang o adnoddau i gefnogi eich iechyd a'ch llesiant, gan gynnwys gwasanaeth iechyd galwedigaethol mewnol proffesiynol a mynediad at wasanaethau cwnsela
- Cynllun tâl mamolaeth galwedigaethol hael, ar ben buddion statudol
- Buddion eraill sy'n ystyriol o deuluoedd, megis talebau gofal plant
Os byddwch yn cyrraedd y rhestr fer ar gyfer cyfweliad, nodwch y byddwch yn cael eich cyf-weld o bell trwy alwad fideo.