Gwasanaethau Digidol

Galluogi TLS ar Hen Borwyr

Mae ein gwefan bellach yn gofyn eich bod wedi galluogi TLS yn eich porwr gwe. Os ydych yn cael problemau gyda’r wefan efallai bod angen i chi alluogi TLS.

Y ffordd orau o sicrhau galluogi TLS yw diweddaru eich porwr. Ar borwyr cyfredol yn gyffredinol mae’r gosodiad hwn wedi’i alluogi’n ddiofyn. Os ydych yn defnyddio Windows XP, bydd angen porwr yn lle Internet Explorer i ddefnyddio ein gwefan. 

Os nad ydych yn sicr pa borwr sydd gennych, gallwch wirio ac archwilio gwahanol ddewisiadau yn What Browser 


I weld a yw hyn wedi’i alluogi ar Internet Explorer:

  • Dewiswch ‘Settings’, sy’n cael ei gynrychioli gyda chocsyn ar y dde uchaf
  • Dewiswch y tab ‘Advanced’
  • Rholiwch i lawr y rhestr ac fe welwch pa fersiynau o SSL a TLS sydd wedi’u galluogi.

 TLS Internet Explorer

ID: 2612, adolygwyd 17/01/2023