Gwasanaethau Digidol
Hysbysu
Bydd ein gwasanaeth Hysbysu yn sicrhau na fyddwch yn methu taliad, casgliad, na’r newyddion diweddaraf byth eto!
Hysbysiad |
E-bost |
Testun (SMS) |
---|---|---|
Rhybuddion Cau Ysgolion | - | |
e-Filiau'r Dreth Gyngor | ||
Statws Pont Cleddau | - | |
Datganiadau i'r Wasg | - | |
Negeseuon Atgoffa Gwastraff ac Ailgylchu | ||
Negeseuon Atgoffa Gwastraff Gardd | |
|
Rhestr Tai Cartrefi Dewisedig | - | |
Eiddo Ar Werth/I’w Osod | - | |
Negeseuon Atgoffa’r Dreth Gyngor | ||
Rhybuddion Balans Isel ‘Arlwyo heb Arian’ | ||
Cyrsiau Dysgu Oedolion - Beth sydd ymlaen yn eich ardal? | ||
Ymgynghoriad Cyngor | ||
Gwasnaethau ar-lein newydd | ||
Atgoffa Etholiad Sir Benfro |
I dderbyn hysbysiadau e-bost a neges destun, cwblhewch y camau isod
- Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
- Cliciwch ar ''Fy manylion' (mae'r gwymplen wrth eich enw defnyddiwr), cyn dewis 'Fy Hysbysiadau'
- Dewiswch yr hysbysiadau yr hoffech eu derbyn o'r rhestr.
Peidiwch ag anghofio gwirio eich rhif ffôn ac e-bost
- Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif
- Cliciwch y 'Fy manylion' (mae'r gwymplen wrth eich enw defnyddiwr)
- Cliciwch 'Golygu Manylion Cyswllt'
- Gwiriwch/Golygwch/Ychwanegwch eich cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol
- Cliciwch 'Cadw'r Newidiadau’ ar waelod y dudalen
* Ychwanegwch rif eich ffôn poced i ddeffro ein gwasanaeth hysbysu SMS.
Cwestiynau Cyffredin
Pwy fydd yn danfon yr e-bost?
Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan noreply@pembrokeshire.gov.uk felly ychwanegwch y cyfeiriad hwn i’ch rhestr o gyfeiriadau diogel
Oes modd i mi ymateb i’r e-bost?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i’r cyfeiriad yma. Os byddwch angen cysylltu â ni, anfonwch neges i: enquiries@pembrokeshire.gov.uk
Oes modd i mi beidio â derbyn yr hysbysiadau?
Oes. Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif a chlicio ar ‘Fy Ngwasanaethau’. Yna dewiswch ‘Fy Hysbysiadau’, gan ddiffodd yr hysbysiadau nad ydych am eu derbyn.
Oes rhaid talu am y gwasanaeth neges destun?
Na, mae’n wasanaeth rhad ac am ddim i’n cwsmeriaid dderbyn negeseuon, er bydd y neges gychwynnol a ddanfonwch at ‘Hysbysu’ yn cael ei godi ar gyfradd safonol eich rhwydwaith.
Pwy fydd yn danfon yr e-bost?
Bydd yr e-bost yn cael ei ddanfon gan PembsCC.
Oes modd i mi ymateb i'r e-bost?
Na, ni fyddwn yn derbyn ymatebion sy'n cael eu hanfon i PembsCC.
Fyddwch chi'n defnyddio fy manylion ar gyfer unrhyw ddibenion eraill?
Na! Byddwn ond yn defnyddio’ch cyfeiriad e-bost ac/neu eich rhif ffôn symudol i anfon yr hysbysiadau yr ydych wedi’u dewis. Ni fyddwn byth yn rhoi eich manylion i eraill.
Pam fy mod i’n derbyn negeseuon testun ynglŷn â’m hadroddiad atgyweiriadau tai?
Fel rhan o’n gwelliannau i’r gwasanaeth, rydym am wneud yn siŵr ein bod ni’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi bob cam o’r ffordd. Drwy ddanfon neges destun gallwn roi gwybod i chi
- Ein bod wedi derbyn eich adroddiad
- Eich rhif cyfeirnod
- Yr amser a’r dyddiad y byddwn ni neu un o’n contractwyr yn galw yn yr eiddo
Byddwn hefyd yn danfon neges ddiwrnod cyn eich apwyntiad er mwyn eich atgoffa y byddwn ni’n galw, a ffurflen adborth unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau fel y gallwch ddweud wrthym sut y gwnaethom
Sut mae defnyddio negeseuon testun i dderbyn gwybodaeth am fy nghasgliadau ysbwriel?
Tecstiwch BIN DAY i 07860064551 er mwyn derbyn gwybodaeth ynglŷn â’ch casgliad nesaf (byddwch yn derbyn dyddiad y casgliad nesaf yn ogystal â’r hyn sy’n cael ei gasglu)
Danfonwch CHRISTMAS WASTE COLLECTIONS i 07860064551 er mwyn gwirio os byddwch chi’n cael eich effeithio gan newidiadau i gasgliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd (byddwch yn derbyn rhestr o newidiadau i ddyddiadau’r casgliadau, ond ni fydd rhestr o’r eitemau a gesglir)