Gwasanaethau Digidol

Penfro – Sgwrsfot Sir Benfro

Hoffem eich cyflwyno i Penfro, sgwrsfot Sir Benfro

Yw’r wybodaeth a roddaf i Penfro’n ddiogel?

Rydym wedi creu Hysbysiad Preifatrwydd i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw rheolaeth ar y modd y cesglir ac y cedwir eich gwybodaeth.

Felly pwy yw Penfro?

Rhyw fath o gynorthwyydd rhithwir y gallwch gyfathrebu ag ef drwy ein gwefan a’n gwasanaeth negeseuon Facebook Messenger yw Penfro. Gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial, mae Penfro’n dysgu o’r cwestiynau y bydd pobl yn eu gofyn amlaf er mwyn datblygu ymatebion gwell a chyflymach.

Rhesymau dros roi cynnig ar Penfro

  • Cael gwybodaeth yn gyflym ac mewn modd effeithlon
  • Cael atebion i’ch cwestiynau penodol yn hytrach na gorfod edrych drwy restr hir o wybodaeth
  • Dim aros mewn ciw i’ch galwad gael ei hateb
  • Ar gael 24/7
  • Drwy ddelio ag ymholiadau symlach e.e. sut ydw i’n adrodd am gasgliad bin a fethwyd? Bydd hyn yn rhyddhau peth o amser Tîm ein Canolfan Gyswllt, fel y gallan nhw ddelio â chwsmeriaid sydd ag ymholiadau a phroblemau mwy cymhleth.

Byddwch yn amyneddgar â Penfro

Mae Penfro’n dysgu drwy’r amser, ac mae wedi’i raglenni â pheth gwybodaeth allweddol i ddechrau, ond y mwyaf y byddwch yn defnyddio Penfro y mwyaf o gyfleoedd sydd gan Penfro i ddysgu ac ateb eich cwestiynau’n well.

Er mwyn helpu Penfro, meddyliwch am sut y byddwch yn geirio’ch cwestiwn. Ceisiwch ddefnyddio geiriau allweddol yn eich cwestiwn pan allwch chi, er mwyn helpu Penfro i wneud chwiliad newydd.

Os na fydd Penfro’n gallu ateb eich cwestiwn, caiff ei basio’n uniongyrchol i Dîm ein Canolfan Gwasanaeth Cwsmer.

 

 

ID: 5114, adolygwyd 17/01/2023