Gwasanaethau Digidol
Polisi Cwcis
Defnyddio cwcis gan Gyngor Sir Penfro
Ffeiliau testun bychain yw cwcis sy’n cael eu gosod ar y ddyfais a ddefnyddiwch i gael at y wefan. Fe’u defnyddir yn helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â rhoi gwybodaeth i berchenogion y safle.
Cewch ddileu a rhwystro pob cwci o’n safleoedd, ond bydd hyn yn golygu na fydd rhannau o’r safle’n gweithio.
Cwcis sy’n Gwbl Angenrheidiol
DERBYN GWRTHOD
1. Yn y tabl isod, eglurir y cwcis a ddefnyddiwn a pham
|
Cwci |
Enw |
Diben |
|
|
ASP.NET_SessionId |
Mae’r cwci hwn yn hanfodol a chaiff ei ddileu pan fyddwch yn cau eich porwr. |
|
COMS Content Management System |
COMS_COOKIE |
Defnyddir hwn i helpu’r cyngor i gyfrif nifer yr ymwelwyr â phob rhan o’r safle, a deall a ydy pobl yn dychwelyd i’r safle. Fe’i defnyddir i helpu i gynllunio’r safle a chyfeirio’r ymdrech tuag at y rhannau sy’n boblogaidd. |
|
|
COMS_POLL |
Defnyddir hwn i gofnodi eich bod chi, neu rywun sy’n defnyddio eich dyfais, wedi pleidleisio mewn arolwg barn ar-lein ar y wefan. Caiff ei wirio wedyn pan ymwelwch â’r safle ac ni fydd y safle’n cynnig y cyfle ichi bleidleisio eto. |
|
|
COOKIEASSENT |
I gofnodi a ydy defnyddiwr wedi derbyn bod cwcis yn cael eu defnyddio ar wefan Cyngor Sir Penfro. |
|
|
pcc_styleContrast |
Defnyddir y rhain i newid cyferbynnedd i welededd uchel neu gyferbynnedd wedi pylu; neu i newid maint y ffont am resymau hygyrchedd. |
|
Google Analytics |
_utma |
Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth am y ffordd y bydd ymwelwyr yn defnyddio ein safle. Defnyddiwn yr wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n helpu i wella’r safle. Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf ddienw, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble ddaeth ymwelwyr i’r safle, a’r tudalennau y maent wedi ymweld â hwy. |
|
Tribal Family Information System |
PESearchCookie |
Defnyddir hwn i storio manylion adnabod Darparwyr a ddychwelwyd wrth chwilio ac a ddewiswyd i’w cynnwys mewn Basged / i’w Hargraffu. Dim dyddiad dod i ben wedi’i osod. |
|
|
PECompareCookie |
Defnyddir hwn i storio manylion adnabod Darparwyr ar gyfer y pwrpas cymharu. Dim dyddiad dod i ben wedi’i osod. |
|
|
PELanguageCookie |
Storio’r iaith a ddewiswyd gan y defnyddiwr. Dod i ben ar ôl 12 awr. |
|
|
PETestCookie |
Defnyddir hwn i brofi a oes cwcis wedi’u galluogi yn y porwr. Caiff ei greu a’i ddileu ar unwaith. |
|
WebOpac |
CardId SAFLE |
Defnyddir y cwci hwn i fewngofnodi’n awtomatig pan ddechreuir sesiwn WebOpac. |
|
Arolwg boddhad cwsmeriaid |
Socitm_include_me[x] |
Defnyddir y cwcis hyn i atal cwsmeriaid rhag cael eu gwahodd i gyfranogi nifer o weithiau yn yr un arolwg. Nid ydynt yn cynnwys data o gwbl sy’n gallu adnabod pobl yn bersonol. Os byddwch yn rhwystro’r cwcis hyn, ni chewch eich gwahodd i gyfranogi yn yr arolwg hwn. |
Bydd y rhan fwyaf o borwyr gwe yn caniatáu rhywfaint o reolaeth ar y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. I gael gwybod rhagor am gwcis, gan gynnwys sut mae gweld pa gwcis sydd wedi’u gosod a sut mae eu rheoli a’u dileu, ewch i www.allaboutcookies.org (yn agor mewn tab newydd)
I ddewis peidio â chael eich olrhain gan Google Analytics ar draws pob gwefan, ewch i Google Optout (yn agor mewn tab newydd)
Cwcis YouTube
Byddwn yn mewnosod fideos o’n sianel YouTube swyddogol gan ddefnyddio modd preifatrwydd uwch YouTube. Efallai bydd y modd hwn yn gosod cwcis ar y ddyfais a ddefnyddiwch i gael at ein gwefannau pan fyddwch yn clicio ar chwaraewr fideo YouTube; serch hynny, ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth gwcis sy’n fodd o’ch adnabod yn bersonol ar gyfer chwarae fideos a fewnosodwyd yn ôl gan ddefnyddio’r modd preifatrwydd uwch. I gael gwybod rhagor, ewch i dudalen wybodaeth YouTube am fewnosod fideos (yn agor mewn tab newydd)