Gwasanaethau Digidol

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Ar-lein

Ymwelwyr â'n gwefan

Pan fyddwch chi'n mynd at www.sir-benfro.gov.uk byddwn yn casglu gwybodaeth safonol cofnodydd y rhyngrwyd a manylion ynghylch eich patrymau ymddygiad pan ydych yn defnyddio ein gwefan. Byddwn yn gwneud hyn er mwyn cael gwybod pethau fel faint o ymwelwyr sydd wedi bwrw golwg ar amryw rannau o'n safle. Byddwn yn casglu'r wybodaeth hon mewn modd sy'n golygu na fyddwch chi'n cael eich enwi. Ni fyddwn yn ceisio cael gwybod pwy yw'r bobl hynny sy'n ymweld â'n safle. Ni fyddwn yn cysylltu unrhyw ddata y byddwn yn eu casglu oddi ar y safle hwn, ag unrhyw wybodaeth sy'n enwi unigolion o unrhyw ffynhonnell. Os byddwn ni'n dymuno casglu gwybodaeth bersonol-adnabyddadwy trwy gyfrwng ein gwefan, yna byddwn yn rhoi gwybod ichi am hyn. Byddwn yn egluro hynny'n bendant pan fyddwn ni'n casglu gwybodaeth bersonol a byddwn hefyd yn egluro beth y bwriadwn ei wneud â hi.

Cyngor Sir Penfro yn defnyddio cwcis

Ffeiliau testun bychan yw cwcis sy'n cael eu dodi ar y teclyn y byddwn yn ei ddefnyddio i gyrchu'r wefan. Maent yn cael eu defnyddio gan lawer o bobl er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio'n fwy effeithlon, yn ogystal ag er mwyn darparu gwybodaeth ar gyfer perchnogion y safle.

Fe allwch ddileu ac atal pob cwci oddi ar ein safleoedd ni, ond bydd hyn yn golygu na fydd rhannau o'r safle yn gweithio.

Cwcis Angenrheidiol

  • Derbyn
  • Gwrthod

Mae'r tabl isod yn esbonio'r cwcis rydym yn defnyddio a phaham:

 

Cwci

Enw

Pwrpas

 - ASP.NET_SessionId Mae'r cwci hwn yn hanfodol ac fe gaiff ei ddileu pan fyddwch chi'n cau eich porydd.

COMS System Rheoli Cynnwys

COMS_COOKIE
Gwerthoedd:
"Browser" ("Porydd") = y math o borydd a ddefnyddiwyd gennych ar yr ymweliad diwethaf"
Connection” ("Cysylltiad") y math o gysylltiad data a ddefnyddiwyd ddiwethaf
"Language” ("Iaith") yr iaith a osodwyd ar eich porydd ar yr ymweliad diwethaf
"IPAddress" ("Cyfeiriad IP") cyfeiriad rhyngrwyd eich ymweliad diwethaf.

Fe’i defnyddir i gynorthwyo’r cyngor i gyfrif nifer yr ymwelwyr â phob rhan o’r safle ac i weld a yw pobl yn dychwelyd i’r safle ai peidio.  Fe’i defnyddir i gynorthwyo i gynllunio’r safle ac i ganolbwyntio o ddifrif ar y meysydd sy’n boblogaidd.
Mae’r cwci hwn yn cael ei ddileu ar ôl 24 awr.

 - COMS_POLL
Gwerthoedd:
"PollID" - cyfeir-rifau'r polau piniwn y gwnaethoch chi bleidleisio ynddynt
"Haskeys" - baner sy'n dangos bod y cwmni yn ddilys.  Nid yw'n cofnodi sut y byddwch yn pleidleisio ar unrhyw fater
Fe'i defnyddir i gofnodi eich bod chi, neu rywun sy'n defnyddio eich teclyn, wedi pleidleisio mewn pôl piniwn ar-lein ar y wefan.  Yna caiff ei wirio pan fyddwch chi'n cyrchu’r wefan ac ni fydd y safle'n cynnig y cyfle ichi bleidleisio eto.
Mae'r cwci hwn yn cael ei ddileu ar ôl 30 diwrnod.
Nid yw'n cofnodi sut y byddwch yn pleidleisio ar unrhyw fater.
 - COOKIEASSENT Er mwyn cofnodi os yw defnyddiwr wedi rhoi’r hawl i roi cwcis ar waith trwy wefan Cyngor Sir Penfro.
 - pcc_styleContrast
pcc_styleSize
Defnyddir rhain i newid cyferbyniad i gyferbyiad uchel neu gyferbyniad tawelach; neu maint y testyn am resymau hygyrchedd.
Google Analytics  _utma
 _utmb
 _utmc
 _utmz
Defnyddir y cwcis hyn i gasglu gwybodaeth ynghylch sut mae ymwelwyr yn defnyddio ein safle.  Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i lunio adroddiadau ac i’n cynorthwyo i wella’r safle.  Mae’r cwcis yn casglu gwybodaeth ar ffurf anhysbys, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r safle, o ble mae’r ymwelwyr wedi dod at y safle hwn a’r tudalennau y gwnaethant fwrw golwg arnynt.
Tribal: System Gwybodaeth Teulu PESearchCookie Defnyddir i storio Dynodyddion y Darparwyr sy’n cael eu dychwelyd yn sgil chwiliadau ac fe gânt dewis ar gyfer eu cynnwys mewn Basged / Argraffu.  Ni phennir unrhyw derfyn.
 - PECompareCookie Defnyddir i storio Dynodyddion y Darparwyr at ddibenion ymarferoldeb cymharu. Ni phennir unrhyw derfyn.
 - PELanguageCookie Mae'n storio'r iaith a ddewisir gan y defnyddiwr. Mae'n terfynu ar ôl 12 awr.
 - PETestCookie Defnyddir i roi prawf ar a yw'r cwcis wedi eu galluogi yn y porydd.  Cânt eu creu a'u dileu ar unwaith.
WebOpac
System Llyfgelloedd
CardId (Dynodydd Cerdyn)
Pin (Rhif Adnabod)
Name (Enw)
Institution (Sefydliad)
SITE (SAFLE)
Defnyddir y cwci hwn i fewngofnodi'n awtomatig pan fydd y sesiwn WebOpac yn dechrau.
Arolwg ar fodlonrwydd cwsmeriaid Socitm_include_me[x]
Socitm_exclude_me[x]
Socitm_include_alt[x]
Defnyddir y cwcis hyn i sicrhau na fydd cwsmeriaid yn cael eu gwahodd i gymryd rhan sawl gwaith yn yr un arolwg. Nid ydynt yn cynnwys unrhyw ddata sy'n bersonol-adnabyddadwy.
Os byddwch chi'n gwrthod y cwcis hyn, ni fyddwch yn cael eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn.

Mae'r rhan fwyaf o boryddion Gwe yn gadael i'r cwcis gael eu rheoli i ryw raddau trwy osodiadau'r porydd. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am cwcis, gan gynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod a sut i'w rheoli a'u dileu, ewch at: All about cookies (yn agor mewn tab newydd) 

Os ydych chi'n dewis peidio â chael eich llwybro gan Google Analytics ledled yr holl wefannau ewch at: Google Tools (yn agor mewn tab newydd) 

Cwcis YouTube

Byddwn yn mewnblannu fideos oddi ar ein sianel YouTube swyddogol, gan ddefnyddio modd uwch-breifatrwydd YouTube. Fe all y modd hwn osod cwcis ar y teclyn y byddwch yn ei ddefnyddio i gyrchu ein gwefannau unwaith y byddwch chi'n clicio ar chwaraewr fideos YouTube. Fodd bynnag ni fydd YouTube yn storio gwybodaeth cwcis sy'n bersonol-adnabyddadwy, ar gyfer chwarae'n ôl fideos gan ddefnyddio'r modd uwch-breifatrwydd. I gael rhagor o wybodaeth, ewch at dudalen gwybodaeth mewnblannu fideos YouTube

Pobl sy'n ffonio ein Canolfan Galw

Pan fyddwch chi'n ffonio Canolfan Gyswllt Cyngor Sir Penfro byddwn yn gofyn ichi roi gwybodaeth hanfodol inni. Byddwn yn defnyddio'r wybodaeth hon er mwyn sicrhau bod ein gwasanaeth yn fwy effeithlon ac effeithiol.
Sylwer: bydd y galwadau i'n Canolfan Gyswllt yn cael eu recordio ar gyfer dibenion hyfforddiant.

Dolenni â gwefannau eraill

Nid yw'r hysbysiad preifatrwydd hwn yn cynnwys y dolenni, o fewn y safle hwn, â gwefannau eraill. Rydym yn eich cynghori i ddarllen y datganiadau preifatrwydd sydd ar y gwefannau eraill y byddwch chi'n bwrw golwg arnynt.

Newidiadau yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn

Byddwn yn adolygu ein hysbysiad preifatrwydd yn rheolaidd. Cafodd yr hysbysiad preifatrwydd hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ym mis Medi 2018.

Rhybudd Preifatrwydd Adrannol

ID: 2532, adolygwyd 08/11/2023