Gwasanaethau Digidol

Telerau ac Amodau'r Partner Sianel Nominet

Mae Adran TGCh Cyngor Sir Penfro yn darparu gwasanaeth cofrestru enw parth ar gyfer meysydd gwasanaeth mewnol, prosiectau a ariennir gan y cyngor a thrydydd partïon cysylltiedig. Fel Partner Sianel Nominet, mae'n ofynnol i ni gyhoeddi'r manylion cyswllt, dulliau cwyno a'r telerau ac amodau canlynol ar gyfer cwsmeriaid.

Manylion cyswllt ar gyfer cofrestru'r enw parth

Cyfeiriad post:  Neuadd y Sir, Hwlffordd, Sir Benfro, SA61 1TP

Rhif ffôn: 01437 764551

E-bost:  digital@pembrokeshire.gov.uk

Y Weithdrefn Gwyno

Os ydych yn dymuno codi cwyn am y gwasanaeth cofrestru enw parth, cysylltwch â'r gwasanaethau TGCh gan ddefnyddio un o'r dulliau cyswllt uchod. Anfonwch e-bost at digital@pembrokeshire.gov.uk y tu allan i oriau swyddfa. Byddwn yn ymateb i bob pwynt cyswllt o fewn tri diwrnod gwaith gan anelu at ddatrys unrhyw faterion sydd gennych o fewn pum diwrnod gwaith.

Adrodd Camdriniaeth

Os ydych yn dymuno codi cwyn ynghylch unrhyw gamdriniaeth rydych wedi’i derbyn (sgamiau gwe-rwydo, e-byst sbam ac ati), cysylltwch â ni trwy e-bostio cyber.security@pembrokeshire.gov.uk gan nodi cymaint o fanylion ag y gallwch am y gamdriniaeth. Byddwn yn archwilio'ch cwyn o fewn dau ddiwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon â chanlyniad cychwynnol eich cwyn, mae croeso i chi uwchgyfeirio eich cwyn i Nominet (cofrestr .uk) 

Telerau ac amodau ar gyfer cwsmeriaid

Dylech fod yn ymwybodol o’r telerau ac amodau canlynol sy'n berthnasol i wefannau sydd wedi'u cofrestru gan Gyngor Sir Penfro ar ran yr unigolion sydd wedi cofrestru.

Gwefan: Nominet (yn agor mewn ffenestr newydd)

Mae'r holl barthau yn cael eu hadnewyddu ddwywaith y flwyddyn. Bydd Gwasanaethau TGCh yn cyhoeddi cadarnhad o adnewyddiad y porth i'r cyswllt cofrestredig o leiaf 60 diwrnod cyn y dyddiad darfod. Bydd y parth yn cael ei adnewyddu ar eich rhan oni bai eich bod yn derbyn hysbysiad ar ffurf ysgrifenedig neu drwy'r e-bost a nodwyd uchod. Bydd Gwasanaethau TGCh yn sicrhau bod yr holl fanylion cyswllt ar gyfer y cofrestriad yn cael eu diweddaru ac yn gywir. Os nad ydych yn dymuno adnewyddu eich parth, sicrhewch eich bod yn cysylltu â ni o leiaf 45 diwrnod cyn dyddiad darfod eich parth trwy anfon e-bost atom i'r cyfeiriad e-bost uchod. Bydd pob parth yn cael ei adnewyddu o leiaf 30 diwrnod cyn i'r enw'r parth ddarfod.

Mae'r Gwasanaethau TGCh yn cadw'r hawl i ailgodi cost cofrestru ac adnewyddu'r parth. Y gost sy'n gysylltiedig â phob enw parth yw £5 ddwywaith y flwyddyn.

Os bydd unrhyw gwsmer yn dymuno trosglwyddo enw eu parth i ddarparwr gwasanaeth arall, bydd TGCh yn adennill unrhyw gostau gan y cwsmer.

 

ID: 8006, adolygwyd 17/01/2023