Gwasanaethau Digidol
Track-it
Mae ein gwasanaeth Track-it yn eich galluogi i olrhain cynnydd eich ceisiadau ac adroddiadau ar-lein, sy'n golygu eich bod yn cael eich hysbysu bob cam o'r ffordd.
Rydym yn treialu'r gwasanaeth ar hyn o bryd gan ddefnyddio'n swyddogaeth ‘adrodd am olau stryd wedi torri’, a'r bwriad wedyn yw cyflwyno hyn ar draws ein gwasanaethau eraill.
Prosiect Peilot: Adrodd am olau stryd wedi torri
Os oes angen adrodd am olau stryd wedi torri, gallwch roi cynnig ar ein gwasanaeth Track-it.
Cyflwyno'ch adroddiad am olau stryd, a derbyn diweddariadau cynnydd trwy e-bost, a'r teclyn ‘Fy Ngheisiadau Gweithredol’ ar ddangosfwrdd Fy Nghyfrif.
Mae ‘Fy Ngheisiadau Gweithredol’ yn eich galluogi i fonitro cynnydd eich adroddiad mewn amser real.
I actifadu'r teclyn, dilynwch ein canllaw syml cam wrth gam:
Byddem wrth ein bodd yn clywed am eich profiad o ddefnyddio Track-it.
Cwblhewch ein arolwg adborth byr. Dim ond ychydig funudau y bydd yn ei gymryd.
Dolen i'r arolwg: Arolwg adborth
Am gymorth a chefnogaeth ynglŷn â'ch 'Fy Nghyfrif' neu i ddarparu adborth, cysylltwch â: digital@pembrokeshire.gov.uk
Os ydych yn profi unrhyw broblemau technegol, defnyddiwch y ffurflen 'hysbysu problem'