Gwasanaethau Gofal Cartref

Gwasanaethau Gofal Cartref

Mae yna eithriadau, ond mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’n cynnig ‘pecynnau’ gofal yn hytrach na gwasanaethau gofal ar wahân. Efallai y bydd yr Yellow Pages neu’r mân hysbysebion yn y papur lleol yn ddefnyddiol er mwyn dod o hyd i wasanaethau penodol fel gwasanaethau glanhau, gwasanaethau garddio, cludiant neu brydau bwyd.

Pwy all ddarparu cymorth yn eich cartref?

Mathau o Ofal

Gwasanaethau Eraill

Safonau gofal

Cymdeithasau cyflogwyr

Dewis gwasanaeth gofal cartref  


Pwy all ddarparu cymorth yn eich cartref?

Cymorth gan sefydliadau preifat a gwirfoddol

Mae llawer o ddarparwyr gwasanaethau gofal yn Sir Benfro y gallwch brynu gofal ganddynt.

Cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt am restr o ddarparwyr sy’n cyflawni’r fframwaith. Ffôn: 01437 764551

Gallwch hefyd gysylltu â AGC (yn agor mewn tab newydd) am restr o ddarparwyr cofrestredig.  
Ffôn: 0300 7900 126

I gael manylion am fudiadau gwirfoddol a all eich helpu, cysylltwch â PAVS (yn agor mewn tab newydd).
Ffôn: 01437 769422

Cymorth gan Wasanaethau Oedolion Cyngor Sir Penfro

Bydd yr adran Gwasanaethau Oedolion yn helpu pobl, sy’n gymwys i gael cymorth ganddi, i nodi pa adnoddau a chefnogaeth y gallant eu cael er mwyn eu galluogi i gadw neu gynnal eu hannibyniaeth lle bo modd. Dim ond i bobl sydd angen llawer iawn o gymorth y bydd cymorth yn y cartref yn cael ei drefnu; er enghraiff, pobl sydd angen cymorth â’u gofal personol a phobl sydd newydd ddod o’r ysbyty.


Ail-alluogi

Cefnogaeth tymor byr yw ailalluogi sy’n cyflawni anghenion unigol ac sy’n helpu adfer annibyniaeth yn y gymuned ar ôl cyfnod byr o salwch, cyfnod yn yr ysbyty neu ar ôl colli hyder, er mwyn rhwystro cleifion rhag gorfod mynd yn ôl i’r ysbyty yn ddiangen. Y nod yw sicrhau bod y sgiliau a’r hyder angenrheidiol gennych i fyw’n ddiogel yn eich cartref eich hun, heb fod angen gofal tymor hir. Mae cefnogaeth ailalluogi yn gallu cynnwys defnyddio cyfarpar a chymhorthion sy’n eich galluogi i wneud pethau eich hunan. Gallai’r cymorth cychwynnol ddod gan y Gwasanaethau Oedolion, â gofal hirdymor parhaus yn cael ei ddarparu gan ddarparwyr gwasanaethau eraill. 

Ffôn: 01437 764551  

E-bost: ymholiadau@sir-benfro.gov.uk

Taliadau Uniongyrchol

Mae Taliadau Uniongyrchol wedi cael eu cynllunio gyda’r bwriad o roi mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth i chi, er mwyn eich helpu i reoli eich bywyd eich hun yn eich cartref eich hun. Gallent fod yn berthnasol os ydych yn:

  • unigolyn anabl 16 a throsodd (gydag anghenion tymor byr neu dymor hir)  
  • rhieni anabl ar gyfer gwasanaethau plant
  • gofalwyr 16 a throsodd (gan gynnwys pobl â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn anabl)
  • unigolyn hŷn sydd angen gwasanaethau gofal cymunedol  

Mathau o Ofal

Gofal personol 

Yn golygu help â phethau fel codi yn y bore, mynd i’r gwely, gwisgo, dadwisgo, ymolchi, mynd i’r bath, glendid personol, bwyta ac yfed, defnyddio’r tŷ bach, rheoli anymataledd, gofal dannedd a dannedd gosod. Mae hefyd yn cynnwys help âthasgau sy’n gysylltiedig ag iechyd sy’n cael eu gwneud dan gyfarwyddyd meddyg neu nyrs gymunedol. Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n cynnig gofal personol gofrestru gydag AGGCC.

Gofal nyrsio 

Gan nyrsys cymwysedig, a gall gynnwys tasgau fel newid gorchudd briw neu roi pigiadau yn ogystal â gofal nyrsio cyffredinol. Rhaid i bob sefydliad sy’n cynnig gofal nyrsio fod wedi ei gofrestru gydag AGGCC.

Gofal nos 

Gall sefydliadau ddarparu gofal nos lle mae rhywun yn cysgu neu’n aros yn effro. Pan fyddwch yn cysylltu â sefydliad dylech nodi’n glir pa fath o ofal sydd ei angen arnoch. Os yw’n cynnwys unrhyw ofal personol neu ofal nyrsio, yna bydd angen i’r sefydliad fod wedi ei gofrestru gydag AGGCC.

Cymorth byw i mewn

Olygu pob math o bethau, o help am ychydig ddiwrnodau mewn argyfwng i help hirdymor. Os yw gofal personol neu ofal nyrsio’n cael ei gynnwys, bydd angen i sefydliadau sy’n cynnig cymorth byw i mewn fod wedi eu cofrestru gydag AGGCC.

Gwasanaethau Eraill

Os nad oes arnoch angen gofal personol na gofal nyrsio, efallai y byddech yn hoffi cysylltu â sefydliadau sy’n cynnig gwasanaethau gofal cartref eraill. Nid yw’r gwasanaethau hyn yn gorfod cael eu cofrestru na’u harolygu ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys cymorth domestig, siopa, cludiant / gyrwyr, cwmni, gwasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau cadw cwmni, garddio a phrydau bwyd. Pan fyddwch yn cysylltu ag unrhyw sefydliad dylech holi beth yn union y gallant ei gynnig ac a allant ei ddarparu yn ardal eich cartref chi. Mae llawer o sefydliadau’n cynnig y gwasanaethau hyn fel rhan o becyn gofal, ond mae’n bosibl i chi hefyd gael gafael ar wasanaethau yn unigol – gweled Cynnal Annibyniaeth am ragor o fanylion. 

Safonau gofal

Pwy sy’n pennu’r safonau ar gyfer sefydliadau sy’n darparu gofal yn y cartref?

Mae’n rhaid i bob sefydliad sy’n darparu gwasanaethau gofal personol neu ofal nyrsio i bobl yn eu cartref eu hunain fod wedi eu cofrestru a chael eu harolygu er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni safonau gofal cenedlaethol.

Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (yn agor mewn tab newydd) sy’n gyfrifol am gofrestru ac arolygu Asiantaethau Gofal Cartref (sy’n cynnig gofal personol) ac Asiantaethau Nyrsio (sy’n cynnig gofal gan nyrsys cymwysedig). Ar ôl iddynt gael eu cofrestru bydd asiantaethau’n cael eu harolygu o leiaf unwaith y flyddyn er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn cydymffurfio â’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol a bennwyd gan y llywodraeth. 

Cymdeithasau cyflogwyr

Mae rhai sefydliadau gofal cartref yn perthyn i gymdeithasau lleol neu genedlaethol.

I gael manylion am eu safonau / codau ymarfer cysylltwch â:

Gofal Cymdeithasol Cymru (yn agor mewn tab newydd)   
 

Dewis gwasanaeth gofal cartref

Pan fyddwch yn cysylltu â sefydliad sy’n darparu gofal yn y cartref mae angen i chi fod yn sicr ei fod yn cynnig gwasanaeth o safon uchel, gyda staff sydd wedi'u hyfforddi sy'n gallu darparu’r gofal sydd ei angen arnoch. Dylech fod yn benodol ynglŷn â’r math o gymorth y mae arnoch ei eisiau, a pheidiwch â bod ag ofn gofyn cwestiynau.

Mae’n bwysig eich bod yn gwybod beth yn union i’w ddisgwyl, faint y byddwch yn ei dalu, ac am beth y byddwch yn talu, a’ch bod yn ffyddiog y bydd y rhai sy’n dod i’ch cartref yn gallu darparu’r hyn ymae arnoch ei angen.

Os oes gennych nam ar eich golwg neu eich clyw, gofynnwch a yw’r staff gofal wedi cael hyfforddiant mewn gofalu am bobl sydd â nam ar eu synhwyrau.

Os nad oes angen i’r sefydliad fod wedi ei gofrestru gallech ofyn i’r rheolwr am eirda gan gleientiaid bodlon.

Gofynnwch am gael gweld taflen y sefydliad a chopi o unrhyw god ymddygiad sydd ganddynt ar gyfer eu staff.  Efallai y byddwch yn canfod bod angen help gan fwy nag un sefydliad er mwyn darparu popeth sydd ei angen arnoch.

Mae angen i’r holl staff  sy’n rhoi gofal personol neu ofal nyrsio gael eu harchwilio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd a rhaid sicrhau nad yw eu henwau ar y gofrestr Diogelu Oedolion sy’n Agored i Niwed (POVA) (neu POCA os ydynt yn gweithio gyda phlant).

 

ID: 2145, adolygwyd 11/09/2023