Gwasanaethau i Blant

Timau

Gwasanaeth Plant

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut i gael i gysylltiad â ni.

Ein nod yw darparu cefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn angen. Rydym ni yma i helpu a, lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn ceisio darparu gwasanaethau i alluogi plant a phobl ifanc i aros gyda'u teuluoedd. Y timau yw:

Tîm Asesu Gofal Plant

Mae'r tîm hwn yn delio ag atgyfeiriadau ac mae'n cynnal asesiadau ac ymchwiliadau amddiffyn plant. 

Tîm Plant mewn Angen

Mae'r tîm hwn yn gweithio gyda phlant mewn angen a phlant sydd angen cael eu hamddiffyn, plant sy'n destun achos llys, a'r plant a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal a heb gynllun parhad - fel arfer, plant a phobl ifanc sydd heb ddod i dderbyn gofal tan yn ddiweddar.

Tîm Rhianta Corfforaethol 

Mae'r tîm yma'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd â chynllun parhad a phobl ifanc sy'n gadael gofal.

Tîm Ymyriadau Teuluol 

Mae'r tîm hwn yn darparu adnodd cefnogaeth deuluol i blant mewn angen a phlant sydd angen cael eu hamddiffyn ac mae'n cynnal adnoddau cefnogi eraill megis Canolfan ar gyfer Cyswllt dan Oruchwyliaeth.

Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd 

Mae'r tîm hwn yn darparu gwasanaeth cymorth dwys i deuluoedd lle mae'r rhieni'n camddefnyddio sylweddau a hynny'n effeithio ar eu gallu i fagu'r plant ac ar berthynas o fewn y teulu.

Tîm o amgylch y Teulu 

Mae'r tîm yma'n darparu cymorth i blant, pobl ifanc a theuluoedd

Tîm Lleoliadau Teuluol 

Mae'r tîm hwn yn recriwtio ac yn cefnogi gofalwyr maeth, ac yn dod o hyd i leoliadau priodol ar gyfer plant sy'n derbyn gofal

Tîm Plant ag Anableddau 

Mae'r tîm yma'n darparu gwasanaeth asesu a rheoli gofal ar gyfer plant ag anableddau 

Tŷ Holly 

Uned Seibiant Byr ar gyfer plant ag anableddau    

Am fwy o wybodaeth:

e-bost:enquiries@pembrokeshire.gov.uk

rhif ffon: (01437) 764551

Dewis Cymru y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 1804, adolygwyd 22/02/2023