Gwasanaethau i Blant anabl
Gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc anabl
Mae gan blentyn neu berson ifanc anghenion addysgol arbennig os oes ganddo anhawster dysgu sy'n gofyn am ddarpariaeth addysg arbennig.
Mae gan blentyn neu berson ifanc anghenion addysgol arbennig:
- os yw'n cael tipyn mwy o anhawster i ddysgu na'r mwyafrif o blant o'r un oed
- os oes ganddo anabledd sy'n effeithio ar ei allu i ddefnyddio'r ddarpariaeth addysgol a gynigir fel rheol i blant o'r un oed
Bydd plentyn neu berson ifanc a chanddo anawsterau dysgu o bosibl ag anghenion addysgol arbennig (AAA) os yw'n cael anhawster gydag un neu ragor o'r canlynol:
- rhan o'r gwaith neu'r holl waith yn yr ysgol
- darllen, ysgrifennu, gwaith rhifedd neu ddeall gwybodaeth
- mynegi ei hun neu ddeall yr hyn y mae eraill yn ei ddweud
- gwneud ffrindiau neu ymwneud ag oedolion
- ymddwyn yn briodol yn yr ysgol
- y golwg, y clyw neu gyflwr corfforol
Os ydych o'r farn bod gan eich plentyn anawsterau mae'n bwysig eich bod yn siarad â'r gweithwyr proffesiynol priodol ynghylch eich pryderon.
Os yw eich plentyn dan oed ysgol, efallai y byddwch yn siarad â'r canlynol:
- Ymwelydd Iechyd
- Meddyg
- Arweinydd Grŵp Chwarae / Athro Meithrin
Os yw eich plentyn yn yr ysgol, efallai y byddwch yn siarad â'r canlynol:
- Athro Dosbarth
- Pennaeth
- Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yr Ysgol
Efallai y bydd modd i'r bobl hyn roi gwybod i chi a oes gan eich plentyn anghenion ychwanegol a sôn wrthych am yr help sydd ar gael i gefnogi eich plentyn.