Gwasanaethau i Blant
Haen 1 Diogelu Plant
Hyfforddiant Haen 1 Amddiffyn Plant: Erbyn hyn mae hyfforddiant Diogelu Plant yn cael ei gyflwyno fel modiwl e-ddysgu ar lwyfan e-ddysgu Cyngor Sir Penfro, POD. Mae POD yn agored i gyflogeion Cyngor Sir Penfro (CSP) a defnyddwyr eraill ac mae ar gael yn y gwaith a gartref ar eich cyfrifiadur, gliniadur, llechen neu ffôn clyfar.
e-Ddysgu
Ar ôl derbyn eich cais, bydd cyfrif e-ddysgu'n cael ei sefydlu i chi a byddwch yn cael 14 diwrnod i gwblhau'r modiwl. Ar ôl 14 diwrnod, bydd y cyfrif yn cael ei ddadactifadu. Ni fydd nodyn atgoffa yn cael ei anfon felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau'r cwrs o fewn y cyfod amser penodol.
Hysbysiad ynglŷn â chwblhau'r Modiwl e-ddysgu
Er mwyn sicrhau eich bod wedi cwblhau'r modiwl, caiff tystysgrif ei greu ar ddiwedd y cwrs. Os nad ydych yn derbyn tystysgrif, efallai fod hynny'n arwydd nad yw holl adrannau'r cwrs wedi'u cwblhau. Os oes gennych unrhyw ymholiad am y cwblhau, cysylltwch â Thîm Pod os gwelwch yn dda.
Ar gyfer pob ymholiad e-ddysgu Haen 1, cysylltwch â POD, os gwelwch yn dda: pod@pembrokeshire.gov.uk
Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd hwn yn egluro pam ein bod yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio a beth y byddwn yn ei wneud gyda'r wybodaeth a gasglwn