Gwasanaethau i Blant

Maethu a Mabwysiadu

Maethu

Maethu Cymru Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) yw gwasanaeth maethu eich Awdurdod Lleol. Rydym yn credu, gyda gwaith tîm, angerdd ac ymroddiad, y gallwn helpu plant i ffynnu yn eu cymunedau lleol.

Rydym yn rhan o rwydwaith dielw cenedlaethol o 22 o wasanaethau maethu Awdurdodau Lleol Cymru yn cydweithio i feithrin dyfodol gwell i blant lleol.

Rydym yn ymroddedig i weithio fel tîm gyda gofalwyr maeth i helpu i feithrin dyfodol mwy disglair i blant lleol yn Sir Benfro a’u helpu i aros yn lleol pan fydd hynny yn ateb y diben.

Rydym yn ymdrechu i ddarparu lle diogel i’n holl blant maeth fel y gallant fwynhau bywyd, profi pethau newydd a chael cefnogaeth. Gyda’ch help chi, fe allwn ni wneud hynny.

Drwy ddod yn ofalwr maeth, gallwch wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd plentyn neu berson ifanc. Mae llawer o wahanol fathau o ofal maeth i weddu i’ch anghenion a’ch amgylchiadau unigol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i Maethu Cymru Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd)

Fel arall, efallai yr hoffech chi ystyried cynnig llety â chymorth sy’n darparu camfa i bobl ifanc sy’n symud ymlaen o ofal maeth i fyw’n annibynnol. 

Mabwysiadu

Mae gan Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru dimoedd mabwysiadu sy'n gweithio ar draws pedwar awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro a Phowys. Rydym yn awyddus i sicrhau bod plant yn tyfu i fyny yn rhan o deulu parhaol a chariadus nes y byddant yn oedolion. Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ac adnoddau i helpu teuluoedd i ofalu am eu plant ond, os nad yw hyn yn bosibl, mae ein Gwasanaeth Mabwysiadu yn dod o hyd i deuluoedd eraill parhaol.

Does dim gwahaniaeth os oes gennych blant yn barod, os ydych yn sengl neu'n gwpl, yn briod, yn ddi-briod neu mewn partneriaeth sifil.

Dysgwch fwy am fabwysiadu yma thramor. Rydym hefyd yn cynnig cefnogaeth I bobl a fabwysiadwyd a rhieni mabwysiadol / geni.

Croeso i Wasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru - Gwasanaeth Mabwysiadu Canolbarth a Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) 

ID: 10964, adolygwyd 20/10/2023