Gwasanaethau i Blant

Pontio Symud o Wasanaethau Plant i Oedolion

Cyflwyniad

'Pontio' yw’r term a ddefnyddir am bobl sydd yn y cyfnod pan fônt yn nesáu at neu wedi cyrraedd yr amser pan fo pobl ifanc ag anableddau neu anghenion dysgu ychwanegol yn gadael ysgol ac yn dod yn oedolyn. Efallai nad ydych yn siŵr o beth i’w ddisgwyl a pha gymorth sydd ar gael I gynllunio ar gyfer y dyfodol. Efallai eich bod yn ansicr o rôl gwahanol asiantaethau a’r gefnogaeth y gellir ei rhoi.

Beth yw’r Tîm Pontio?

Mae’r tîm yn cynnwys staff sy’n deal anghenion pobl ag anghenion dysgu ychwanegol.

  • Maen nhw’n gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 25 oed sydd wedi’u pennu gan wasanaethau plant neu addysg fel rhai y mae arnynt angen addysg, gofal a chefnogaeth barhaus wrth iddynt bontio i oedolaeth
  • Mae’r Tîm Pontio yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i gynllunio ar gyfer y dyfodol
  • Maen nhw hefyd yn gweithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill. Mae’r gwasanaeth Pontio yn cynnwys:

Y Tîm Pontio

  • Gwasanaethau Plant
  • Gwasanaethau Addysg
  • Partneriaeth â Rhieni
  • Gwasanaethau Iechyd
  • Gyrfa Cymru
  • Gwasanaethau oedolion eraill
  • Asiantaethau trydydd sector
  • Eiriolaeth

Sut allwn ni eich helpu chi?

Mae pontio yn gweithio gyda phobl ifanc y mae arnynt angen help i bontio o wasanaethau plant i wasanaethau oedolion, gan gynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae hyn yn cynnwys

  • Addysg
  • Cyflogaeth
  • Sgiliau byw’n annibynnol 
  • Llety
  • Cyfleoedd cymdeithasol

Gofalwyr

Caiff gofalwyr gynnig asesiad.

Pryd byddwn ni’n cwrdd â chi?

Yn dibynnu ar ba bryd y byddwn yn derbyn eich atgyfeiriad, byddwn yn anelu at gwrdd â chi o leiaf unwaith y flwyddyn yn eich adolygiad ysgol blynyddol o Flwyddyn 9 (14 oed). Fodd bynnag, gallwch gysylltu â ni i drafod newidiadau yn ystod y flwyddyn. Yn 17 oed byddwn mewn cysylltiad yn amlach i sicrhau bod eich asesiad yn cael ei gwblhau cyn eich pen-blwydd yn 18 oed.  Nid ydym yn derbyn unrhyw atgyfeiriadau ôl-18, ond efallai y bydd cymorth ar gael trwy ein gwasanaethau oedolion.

Gyda phwy rydyn ni’n gweithio

Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â nifer o wahanol asiantaethau:

  • Iechyd, yn darparu gwasanaethau priodol trwy dimau iechyd cymunedol arbenigol fel: Therapi galwedigaethol Ffisiotherapi Seicoleg Seiciatreg Therapi iaith a lleferdydd
  • Addysg, yn cynnwys ysgolion, colegau arbenigol a chyfleoedd dydd.
  • Cysylltwyr Cymunedol, yn cefnogi pobl trwy arwain a chyfeirio. Trwy sgyrsiau ystyrlon, mae Cysylltwyr Cymunedol yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a gweithgareddau lleol a fyddai’n addas i ddiddordebau’r unigolyn ac yn ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol. 
  • Asiantaethau cyflogaeth, yn eich cynorthwyo i ddod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth â thâl neu wirfoddol
  • Opsiynau Tai gallwn eich helpu i archwilio eich opsiynau llety
  • Gwasanaethau Eiriolaeth bydd eiriolwr yn sicrhau y caiff eich llais ei glywed. Gall siarad gyda chi neu ar eich rhan.

Pontio - pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed

ID: 2564, adolygwyd 20/10/2023