Gwasanaethau i Blant

Hyfforddiant Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion

Mae’r Hyfforddiant Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion bellach yn cael ei gyflwyno fel modiwl e-ddysgu ar lwyfan e-Ddysgu Cyngor Sir Penfro, POD. Mae POD yn agored i weithwyr Cyngor Sir Penfro (CSP), rhai sefydliadau allanol sy'n dod i gysylltiad â lleoliadau Gofal Cymdeithasol/Addysg neu staff sy'n gweithio yn adeiladau'r Cyngor Sir e.e. gwirfoddolwyr. 

E-ddysgu

I wneud cais am gyfrif 

Ar gyfer ymholiadau e-Ddysgu Diogelu Plant, Pobl Ifanc ac Oedolion, cysylltwch â POD:

pod@pembrokeshire.gov.uk

(01437) 77 6421

Mae’r hysbysiad hwn yn egluro pam rydym yn casglu ac yn cadw eich gwybodaeth bersonol, sut y defnyddir eich gwybodaeth a beth rydym yn ei wneud â’r wybodaeth a gasglwn. Gallwch ddarllen ein Hysbysiad Preifatrwydd

ID: 2393, adolygwyd 20/10/2023

Timau

Gwasanaeth Plant

Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud a sut i gael i gysylltiad â ni.

Ein nod yw darparu cefnogaeth i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd sydd mewn angen. Rydym ni yma i helpu a, lle bynnag y bo'n bosibl, rydym yn ceisio darparu gwasanaethau i alluogi plant a phobl ifanc i aros gyda'u teuluoedd. Y timau yw:

Tîm Asesu Gofal Plant

Mae'r tîm hwn yn delio ag atgyfeiriadau ac mae'n cynnal asesiadau ac ymchwiliadau amddiffyn plant. 

Timau Rheoli Gofal Plant 1-3

Maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd a phlant sydd angen gofal a chymorth ac yn darparu cymorth iddynt.  Mae timau hefyd yn gweithio gyda phlant sydd angen eu hamddiffyn ac sydd mewn perygl o niwed sylweddol, a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal.  Ar y cyd â chydweithwyr o’r tîm Cynghorwyr Personol, mae’r timau hefyd yn darparu cymorth i bobl ifanc rhwng 16 oed a 18 oed sy’n gadael gofal, gan gynnwys Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches.

Tîm Cynghorwyr Personol

Mae’r tîm hwn yn darparu cymorth, arweiniad ac eiriolaeth i bobl ifanc rhwng 16 oed a 25 oed sy’n gadael gofal.  Bydd hyn yn cynnwys cymorth ynghylch addysg, cyflogaeth, hyfforddiant, tai a sgiliau byw'n annibynnol. 

Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd yn cynnwys dau dîm, y Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd a'r Tîm Ar Ffiniau Gofal.

Mae'r Tîm Integredig Cymorth i Deuluoedd yn cefnogi teuluoedd mewn argyfwng lle mae problemau gyda'r defnydd o sylweddau ac alcohol sy'n effeithio ar ddiogelwch a lles plant.

Mae Tîm Ar Ffiniau Gofal yn darparu ymyriadau dwys sy’n seiliedig ar dystiolaeth i deuluoedd lle mae plant a phobl ifanc ar gyrion y system ofal ac y gallent ddod yn blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal gan yr awdurdod lleol. Nod y tîm yw cadw teuluoedd gyda'i gilydd neu alluogi plant a phobl ifanc sy'n dechrau derbyn gofal i ddychwelyd adref yn ddiogel.

Tîm Lleoliadau Teulu 

Mae'r tîm yn gyfrifol am farchnata a recriwtio gofalwyr maeth yn Sir Benfro.  Maent yn darparu hyfforddiant, goruchwyliaeth a chymorth ehangach i ofalwyr maeth fel rhan o'r tîm sy'n darparu gofal a chymorth i bobl ifanc sy'n derbyn gofal.  Maent yn darparu gwasanaethau i ofalwyr maeth prif ffrwd a gofalwyr maeth sy'n berthnasau / unigolion cysylltiedig.  O fewn y tîm mae gwasanaeth ar wahân hefyd sy'n darparu asesiadau a chymorth i Warcheidwaid Arbennig. 

Tîm Plant ag Anableddau

Mae’n gweithio gyda theuluoedd a phlant ag anableddau sydd angen gofal a chymorth ac yn darparu cymorth iddynt.   Mae timau hefyd yn gweithio gyda phlant sydd angen eu hamddiffyn ac sydd mewn perygl o niwed sylweddol, a'r bobl ifanc hynny sy'n derbyn gofal.  Ar y cyd â chydweithwyr o’r tîm Cynghorwyr Personol, mae’r timau hefyd yn darparu cymorth i bobl ifanc rhwng 16 oed a 18 oed sy’n gadael gofal, gan gynnwys Plant ar eu Pen eu Hunain sy’n Ceisio Lloches.

Tŷ Holly

Mae Tŷ Holly yn darparu seibiannau byr i blant a phobl ifanc - o 8 hyd at 18 oed - sydd ag anableddau ac sy’n byw yn Sir Benfro.

 

Am ragor o wybodaeth:

Tel: (01437) 764551

Email: enquiries@pembrokeshire.gov.uk

 

Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) y w’rlle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut allwch chi helpu rhywun arall

ID: 1804, adolygwyd 20/10/2023