Gwasanaethau i Blant
Ty Holly
Mae Tŷ Holly yn darparu seibiannau byr i blant a phobl ifanc - o 8 hyd at 18 oed - sydd ag anableddau ac sy’n byw yn Sir Benfro.
Bydd plant yn cael eu hatgyfeirio at y gwasanaeth trwy gyfrwng y tîm Plant ag Anableddau, ar ôl asesiad.
Ynglŷn â’r darparwr
Darparwr gwasanaeth: Cyngor Sir Penfro
Endid cyfreithiol Awdurdod Lleol
Unigolyn cyfrifol: Darren Mutter, Pennaeth Gwasanaeth Plant, Cyngor Sir Penfro
Rheolwr y gwasanaeth: Gail Pawlett
Enw'r gwasanaeth: Uned ar gyfer Seibiannau Byr
Cyfeiriad y gwasanaeth: Holly House, Portfield, Hwlffordd, Sir Benfro SA61 1BS tel: 01437 769858
Disgrifiad o leoliad y gwasanaeth
O flaen yr adeilad y tu allan ceir nifer o fannau parcio gyda system unffordd sy’n gysylltiedig â thu blaen Ysgol Portfield, gan sicrhau bod traffig yn llifo mewn un cyfeiriad heibio Tŷ Holly. Mae agosrwydd yr ysgol yn golygu bod y plant hynny sy’n mynychu’r ysgol ac sydd hefyd yn defnyddio gwasanaethau Holly House yn gallu gorffen ysgol a chael eu hebrwng yn uniongyrchol i Tŷ Holly heb yr angen am gludiant yn y rhan fwyaf o achosion. Mae hefyd yn golygu, gyda chaniatâd Pennaeth yr ysgol, bod staff yn gallu defnyddio peth o’r lle awyr agored a’r pwll hydrotherapi yn yr ysgol, pan nad oes disgyblion yn bresennol (e.e. yn ystod gwyliau ysgol).
Mae Tŷ Holly yn agos at nifer o gyfleusterau cymunedol megis nifer o barciau hygyrch lleol, y mae gan lawer ohonynt lwybrau i feicio/reidio sgwteri arnynt; sawl archfarchnad fawr; ysgolion cynradd ac uwchradd lleol eraill; canolfan hamdden Hwlffordd; sinema’r dref; cyrtiau tennis; yn ogystal â’r canol tref lleol gyda’r cyfleusterau y mae’n eu darparu megis caffis, ardaloedd siopa a llyfrgell sydd newydd gael ei hadeiladu. Mae gan Hwlffordd ganolfan ieuenctid hefyd yn The Hive yn Goshawk Road sydd 1 filltir i ffwrdd.
Mae Hwlffordd fwy neu lai’n ganolog yn Sir Benfro sy’n golygu ei bod yr un mor hygyrch o ran amser teithio o’r rhan fwyaf o ardaloedd yn y sir. Er bod Tŷ Holly yn agos at nifer o feddygfeydd teulu a deintyddfeydd, mae pobl ifanc yn dal i fod wedi’u cofrestru gyda’u meddygon teulu/deintyddion eu hunain, ac mae rhieni/gofalwyr yn rhoi cydsyniad ysgrifenedig iddynt gael eu trin mewn meddygfa leol os bydd achos brys. Mae Tŷ Holly hefyd oddeutu 1 filltir yn unig o Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg. Gan nad yw Ysbyty Llwynhelyg yn darparu gofal pediatrig dros nos, yr ysbyty agosaf sy’n gwneud hynny, os bydd ar blentyn sy’n aros yn Tŷ Holly angen triniaeth neu ymyrraeth frys yn yr ysbyty, yw Ysbyty Cyffredinol Gorllewin Cymru yng Nghaerfyrddin, sydd 32 milltir i ffwrdd.
Mae Tŷ Holly yn agos at gysylltiadau cludiant cyhoeddus gyda’r orsaf drenau wedi’i lleoli yn y dref a gorsaf fysiau’n agos hefyd gydag arosfannau mewn amryw fannau yn yr ardal o gwmpas Tŷ Holly. Mae Hwlffordd o fewn pellter gyrru byr yn unig i nifer o draethau lleol a nifer o’r safleoedd o ddiddordeb yn Sir Benfro. Er enghraifft, mae Traeth Aberllydan 6 milltir i ffwrdd ac mae Tyddewi 15 milltir i ffwrdd. Mae’r cyfleuster hefyd yn agos at brif swyddfeydd y Cyngor lle mae’r Tîm Plant ag Anableddau yn y gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant wedi’i leoli.
Ynglŷn â’r gwasanaeth a ddarperir
Yr ystod o anghenion y gallwn eu cefnogi
Mae Holly House yn darparu gwasanaethau seibiant, ac yn rhoi cymorth a gofal i blant a phobl ifanc ag ystod eang o anableddau ac anghenion o ran cymorth sy’n byw yn Sir Benfro. Mae hyn yn cynnwys plant a phobl ifanc ag ystod o anableddau dysgu a chorfforol, plant a phobl ifanc ag anabledd dysgu ysgafn y mae arnynt angen y cymorth lleiaf, a phlant a phobl ifanc ag anableddau dysgu dwys a lluosog y mae arnynt angen lefel uchel o gymorth. Bydd gan bob person ifanc gynllun gofal a chymorth i ddangos beth yw eu hanghenion o ran cymorth a sut y bydd eu hanghenion yn cael eu diwallu i sicrhau y rhoddir cymorth ar yr adeg iawn, yn y lle iawn, ar y cyflymder iawn ac ar y lefel ofynnol. Bydd atgyfeiriad ar gyfer seibiant ac asesiad parhaus o anghenion yn canolbwyntio ar ddeilliannau, gyda Tŷ Holly yn amlwg yn cael ei nodi fel y ffordd orau o ddiwallu anghenion penodol. Bydd cynllun y plentyn neu’r person ifanc yn dangos sut y bydd gweithgarwch penodol yn Tŷ Holly yn dwyn deilliannau dynodedig penodol, megis sgiliau annibyniaeth, cymorth teuluol neu ddatblygu hobi neu ddiddordeb penodol. Gellir defnyddio technoleg gynorthwyol i gynorthwyo rhai unigolion i fod yn annibynnol. Mae gan Tŷ Holly hefyd ddarpariaeth i ofalu am blant ag anghenion iechyd penodol sy’n gysylltiedig â’u hanableddau dysgu a chorfforol, a lle y bo’n ofynnol gellir darparu hyfforddiant penodol ar gyfer staff, fel arfer trwy gydweithwyr ym maes iechyd, i roi gofal dros nos diogel i bobl ifanc y mae arnynt angen meddyginiaeth reolaidd.
Ystod oedran pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth
8-18 oed
Gwasanaethau Seiliedig ar Lety
Uchafswm Capasiti - Pedwar plentyn ar gyfer arosiadau dros nos
Sut y darperir y gwasanaeth
Trefniadau ar gyfer derbyn, asesu, cynllunio ac adolygu gofal pobl
Y weithdrefn Asesu a Derbyn
Cyn ystyried bod plentyn/pobl ifanc yn cael gwasanaethau Holly House, bydd asesiad yn cael ei gwblhau gan aelod o’r ‘Tîm Plant ag Anableddau’ yn Adran Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro. Os bydd yr asesiad yn argymell y gallai anghenion plentyn gael eu diwallu’n rhannol trwy ddarparu gwasanaethau seibiant Holly House, yna gwneir atgyfeiriad trwy’r system Carefirst, ac fe'i ystyrir gan y Panel Paru Anghenion ag Adnoddau, a gaiff ei fynychu gan reolwr Holly House ynghyd â rheolwr tîm gweithredol Plant ag Anableddau.
Bydd angen i’r atgyfeiriad (ffurflen ‘Paru Anghenion ag Adnoddau’) ei gwneud yn glir beth yw anghenion y plentyn/person ifanc, sut y cânt eu diwallu fel arfer, ynghyd â’r deilliannau y bydd presenoldeb yn Holly House yn eu dwyn. Rhaid bod cyswllt eglur rhwng yr angen asesedig a sut y bydd presenoldeb yn Tŷ Holly yn diwallu’r angen hwnnw. Bydd yr atgyfeiriad hwn yn cael ei ddarllen a'i ystyried ar y cyd â’r asesiad gwreiddiol ac unrhyw asesiadau risg perthnasol, gan reolwr Tŷ Holly. Rhaid mai’r rheswm dros ddyrannu lle yn Tŷ Holly yw er mwyn diwallu angen neu anghenion dynodedig, lle gellir mesur neu ddangos y deilliant, i sicrhau dros amser bod y ddarpariaeth yn dal i fod yn briodol ac yn gymesur.
Ymweliad â’r Cartref
Unwaith y bydd y Panel Paru Anghenion ag Adnoddau wedi cymeradwyo’r cais am le yn Holly House, bydd naill ai Rheolwr y Cartref neu Uwch Ofalwr yn trefnu ymweliad â chartref y person ifanc a atgyfeiriwyd, ynghyd â rhiant neu ofalwr, a’r gweithiwr cymdeithasol sy’n atgyfeirio, cyn derbyn y person ifanc. Mae hyn yn rhoi’r cyfle i rannu gwybodaeth a chynllunio arhosiad y person ifanc yn Tŷ Holly. Wedyn bydd Rheolwr y Cartref yn gallu ateb unrhyw gwestiynau a all fod gan y person ifanc a’i deulu/gofalwr a gall y person ifanc roi syniad o’i ddisgwyliadau a’i ddymuniadau.
Cyflwyniadau
Bydd trefniadau’n cael eu gwneud i gyflwyno’r person ifanc i Tŷ Holly – gall hyn fod yn broses raddol a gall fod dros gyfnod o amser sy’n arwain at arhosiad dros nos i sicrhau bod y person ifanc yn hapus ac yn cael amser wrth ei bwysau ei hun i ymgyfarwyddo â Tŷ Holly. Bydd y ffocws ar sicrhau bod y plentyn yn ymgyfarwyddo â’i amgylchoedd a’r gorchwylion er mwyn i’r gofal seibiant beidio â chreu cynnwrf. Bydd cyflwyniadau’n symud ar gyflymder a reolir gan y plentyn. Bydd y grŵp staff cyfan a fydd yn gofalu am unrhyw berson ifanc yn cael eu briffio ynghylch unrhyw berson ifanc newydd a fydd yn dod i’r cartref ar gyfer seibiant, er mwyn sicrhau dull cydgysylltiedig a gwybodus o roi gofal. Hefyd, bydd unrhyw newidiadau i gynllun person ifanc a sut y bydd ei anghenion yn cael eu diwallu yn Holly House yn cael eu cyfleu i’r holl staff, eto er mwyn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu’n barhaus ac yn briodol.
Cynllun Gofal a Chymorth
Bydd Cynllun Gofal a Chymorth yn cael ei baratoi gyda’r person ifanc a’i deulu/gofalwr cyn rhoi’r gofal seibiant ar waith. Bydd y cynllun yn cynnwys gwybodaeth ystyrlon am y person ifanc yn seiliedig ar offeryn sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac sy’n hawdd i’w ddarllen a bydd yn cwmpasu:
- gwybodaeth am y person ifanc
- beth fydd y person ifanc yn ei wneud yn Holly House
- pa help a chymorth y bydd ar y person eu hangen
- beth yw’r deilliannau y bwriedir i’r person eu cael o ganlyniad i aros yn Holly House.
Adolygu’r Cynllun Gofal a Chymorth
Er mwyn sicrhau bod y modd y darperir seibiant yn parhau i ddiwallu angen dynodedig, bydd angen rhoi ystyriaeth reolaidd i’r modd y darperir y gwasanaeth. Bydd yr adolygiad o’r gwasanaeth yn ystyried a oes angen gwneud newidiadau i’r cynllun seibiant a’r cymorth a roddir, yn enwedig os canfyddir nad yw’n diwallu angen dynodedig. Bydd yr adolygiad yn cael ei drefnu a’i gydlynu gan y gweithiwr cymdeithasol o’r tîm Plant ag Anableddau, a bydd y rheolwr o Holly House yn bresennol ynddo, neu lle nad yw’n gallu bod yn bresennol, bydd rhywun addas o blith staff Tŷ Holly yn bresennol yn ei le.
Lleoliadau Brys
Nid yw Tŷ Holly yn darparu gofal seibiant brys
Safon gofal a chymorth
Mae dull staff Holly House yn seiliedig ar y syniad y bydd plant, pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael eu trin â pharch bob amser. Yn benodol, bydd hyn yn cael ei ddangos trwy’r canlynol:
- trin yr holl bobl ifanc ag urddas, gan ymgorffori egwyddorion cynhwysiant a chydraddoldeb, a chan gynnal cyfrinachedd bob amser.
- rhoi gofal a chymorth i bobl yn seiliedig ar ddull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn fel a nodir yng ‘Nghynllun Gofal a Chymorth Amlasiantaeth’ y plentyn/person ifanc. Bydd hwn yn amrywio i bob person ifanc ac yn ymdrin yn benodol â’u hanghenion asesedig penodol.
- cefnogi a chynorthwyo pobl ifanc gyda’u hanghenion o ran cymorth gyda gofal personol lle y bo angen, a gwneud hynny gyda gofal, amynedd a chan gynnal urddas.
- annog unigolion i fod mor annibynnol â phosibl trwy gyfranogiad gweithredol mewn tasgau cartref beunyddiol, a thrwy roi sylw â ffocws i’r meysydd hynny y mae angen iddynt eu datblygu fel a nodwyd yn eu hasesiad o angen.
- galluogi pobl ifanc i fod â llais o ran pa weithgareddau yr hoffent eu gwneud, gan ganolbwyntio ar iechyd a lles cyffredinol, sgiliau bywyd a sgiliau byw’n annibynnol a chynhwysiant ym mhob agwedd ar eu harhosiad yn Holly House.
- cynorthwyo pobl ifanc i gael mynediad at y gymuned leol, gan ymweld â siopau, clybiau, gweithgareddau a grwpiau cymunedol.
- Helpu i ddiwallu anghenion ysbrydol plant/pobl ifanc yn ystod eu harhosiad trwy eu cynorthwyo i addoli yn y ffordd fwyaf addas.
- gwarantu preifatrwydd pan ydynt yn eu hystafelloedd gwely, wrth ddefnyddio’r ffôn ac wrth gyfathrebu gyda pherthnasau, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol. Lle y bo’n briodol, trefnir bod lle preifat amgen ar gael ar gyfer trafodaethau o’r fath
Anghenion iaith a chyfathrebu pobl sy’n defnyddio’r gwasanaeth
Mae Tŷ Holly yn arddangos ei werthoedd o ran ei ddull o gyfathrebu trwy gydnabod a dangos y canlynol:
- Mae pobl yn cyfathrebu mewn llawer o wahanol ffyrdd: mae hyn yn cynnwys cyfathrebu geiriol a di-eiriau.
- Defnyddio gwybodaeth hawdd i’w darllen ar ffurf symbolau, lluniau a ffotograffau fydd y ffordd orau o gyfathrebu gyda rhai pobl ifanc.
- Bydd Arwyddo Geiriau Allweddol (ynghyd â siarad) yn cael ei ddefnyddio lle y bo’n ofynnol, i helpu pobl ifanc i ddeall a chyfathrebu.
- Mae staff yn deall sut i gefnogi rhywun gan ddefnyddio’u llyfr cyfathrebu / llechen a Chymhorthion Gweledol eraill e.e. bwydlenni, amserlenni, rotas staff hawdd i’w darllen.
- Bydd pobl ifanc yn gwybod pa staff sy’n bresennol pan fyddant yn cyrraedd gan y bydd lluniau staff yn cael eu gosod yn nerbynfa Tŷ Holly.
- Bydd pobl ifanc yn gallu adnabod eu hystafelloedd eu hunain a’i gilydd gan y bydd eu ffotograff wedi’i osod y tu allan i’r ystafell a neilltuwyd iddynt (gyda chytundeb eu rhieni)
- Sicrhau bod cymhorthion hanfodol yn cael eu defnyddio’n gyson ac nad ydynt yn cael eu rhoi heibio.
- Ymateb i bobl sy’n defnyddio Gwrthrychau Cyfeirio i gyfathrebu.
- Defnyddio Arwyddion y Corff (os argymhellir).
- Pwysigrwydd dull Rhyngweithio Dwys (os yn briodol).
- Dilyn unrhyw Gynllun Therapi Iaith a Lleferydd Unigol fel a amlygir yn y Cynllun Gofal
- Mae gan Gyngor Sir Penfro Bolisi ‘Safonau, Gwasanaethau ac Adnoddau Cyfathrebu’ dyddiedig Tachwedd 2020, sy’n nodi dull yr Awdurdod o ddefnyddio’r Gymraeg ac sy’n gysylltiedig â’i gynllun gweithredu ei hun ar gyfer rhoi Fframwaith ‘Mwy Na Geiriau (yn agor mewn tab newydd)’ Llywodraeth Cymru ar waith. Mae Cyngor Sir Penfro’n ymlynu wrth Reoliadau Safonau’r Gymraeg 2016.
Mae’r holl arwyddion ysgrifenedig yn y cartref yn ddwyieithog ac mae hyn hefyd yn berthnasol i’r arwyddion â lluniau sydd â geiriau oddi tanodd. Mae’r dderbynfa y mae gan y cyhoedd fynediad iddi yn cynnwys arwydd i ddweud y gellir cynnig Cymraeg; er, cyn unrhyw ymwneud â Tŷ Holly, byddwn wedi gofyn yn rhagweithiol i deuluoedd a phobl ifanc am eu dewis ddulliau a dewis iaith ar gyfer cyfathrebu – yn ysgrifenedig ac ar lafar
Trefniadau staffio
Niferoedd a chymwysterau staff
- x1 Unigolyn Cyfrifol Cofrestredig: MSc Rheoli; MSc Astudiaethau Cymdeithasol Cymhwysol; Diploma mewn Gwaith Cymdeithasol
- x1 Rheolwr y Cartref: Diploma Lefel 5 / NVQ 4 mewn Rheoli
- x1 Dirprwy Reolwr y Cartref: NVQ 3, Diploma Lefel 5 ac yn cynnal yr holl hyfforddiant gorfodol
- x2 Uwch Weithiwr Cymorth: NVQ 3 Gofalu am Blant a Phobl Ifanc ac yn cynnal yr holl hyfforddiant gorfodol ac un aelod o staff sy’n gweithio tuag at NVQ 3 (sydd eisoes â gradd mewn Astudiaethau Cymdeithasol gyda chymhwyster atodol mewn anghenion ychwanegol)
- x5 Gweithiwr Cymorth: NVQ 3 Gofalu am Blant a Phobl Ifanc ac yn cynnal yr holl hyfforddiant gorfodol. Mae tri o’r gweithwyr yn meddu ar yr hyfforddiant NVQ 3 perthnasol. Mae’r ddau aelod arall o staff ar gyfnod prawf, ac os byddant yn llwyddiannus, byddant yn derbyn yr hyfforddiant perthnasol
NODER – mae'n ofynnol i bob aelod o staff gwblhau hyfforddiant Diogelu gorfodol ar-lein ac adnewyddu hwn bob tair blynedd.
Lefelau staff
Trefnir rotas staffio yn seiliedig ar anghenion cymorth pobl ifanc. Caiff anghenion cymorth pob person ifanc eu mapio ar gynllun sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn i sicrhau bod y lefelau cywir o gymorth yn cael eu rhoi i ddiwallu anghenion. Lle y bo’n bosibl, a lle y gallai angen person ifanc gael ei ddiwallu’n well gan aelod penodol o staff, yn seiliedig ar ei sgiliau a phrofiad, yna bydd rotas yn cael eu trefnu er mwyn hybu’r arfer o baru staff â phobl ifanc/grwpiau ar y sail hon. Mae lefelau staffio’n hyblyg ac yn newid i ddiwallu anghenion ac ymateb i nifer y plant/y bobl ifanc sy’n aros yn Tŷ Holly. Mae hyn yn golygu bod staff wastad ar gael ar fyr rybudd i ymateb i newidiadau mewn sefyllfaoedd. Bydd Rheolwr y Cartref yn edrych ar gynlluniau gofal a chymorth pob person ifanc gan ystyried cydnawsedd pobl ifanc o ran eu bod yn aros gyda’i gilydd, o safbwynt y gofynion i ymateb i’w hanghenion o ran cymorth a gofal.
Er enghraifft: Yn seiliedig ar 6 o bobl ifanc yn aros yn Holly House ar yr un pryd; caiff anghenion pob person ifanc eu mapio i ddangos rhythm y diwrnod o ddechrau’r diwrnod pan fo pobl yn dihuno, yn cael brecwast drwy’r bore, amser cinio, y prynhawn, amser te, gyda’r nos ac yn ystod y nos. Mae’r ymarfer mapio’n dangos lefel y cymorth y mae ar rywun ei angen ar adegau amrywiol yn ystod y dydd gan ddibynnu ar y dasg. Wedyn mae’r offeryn hwn yn darparu darlun o lefelau staffio sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion cymorth unigolyn; e.e. pan all fod ar rywun angen cymorth 2:1 gyda’i anghenion gofal personol, yna cymorth 1:1 i fwyta’i ginio ond y bydd wedyn yn ymuno â phobl ifanc eraill i gymryd rhan mewn gweithgaredd.
Staff arbenigol
Pan fo angen unrhyw sgiliau arbenigol i roi gofal, naill ai bydd staff yn cael eu hyfforddi i safon fel eu bod yn gallu rhoi’r gofal hwn yn ddiogel, neu byddai gweithiwr proffesiynol penodol yn dod i’r cartref i roi elfennau o’r gofal hwn yn ystod unrhyw arhosiad yn Tŷ Holly: er enghraifft, gofal meddygol penodol. Os oes angen unrhyw fewnbwn arbenigol, yn fwy eang i ddiwallu anghenion plentyn, bydd hyn yn rhywbeth a nodwyd yn ei ‘Gynllun Gofal a Chymorth Amlasiantaeth’ a bydd yn cael ei drefnu a’i gaffael gan y Tîm Plant ag Anableddau.
Lleoli staff yn y gwasanaeth (ar gyfer gwasanaethau seiliedig ar lety yn unig)
Mae staff yn gweithio ar sail rota ac mae cymorth yn hyblyg i ddiwallu anghenion unigol pobl sy’n defnyddio Holly House. Mae staff ychwanegol ar gael os bydd anghenion gofal yn gofyn hynny neu os bydd argaeledd staff yn broblem. Ni fydd Tŷ Holly yn gweithredu â llai o staff nag y mae eu hangen a bydd seibiant yn cael ei ohirio os na ellir gofalu’n ddiogel am nifer y plant a fydd yn aros.
Trefniadau ar gyfer tasgau wedi’u dirprwyo
Rheolwr y Cartref sydd â chyfrifoldeb gweithredol am Holly House. Mae’r Dirprwy Reolwr a’r Uwch Ofalwr yn ysgwyddo’r cyfrifoldeb hwn ar gyfer pob sifft pan nad yw’r rheolwr ar ddyletswydd. Ceir system ar alw ar gyfer adegau pan fo Rheolwr y Cartref ar wyliau blynyddol i sicrhau bod pwynt cyswllt yn y tîm rheoli wastad ar gael.
Trefniadau goruchwylio
Polisi Goruchwylio
Mae’r holl staff yn cael sesiwn oruchwylio bob deufis gyda rheolwr y cartref neu ddirprwy reolwr y cartref. Bydd un o'r rheolwyr yn cael ei bennu'n brif oruchwyliwr penodol ar gyfer aelodau unigol o staff.
Polisi Arfarnu Perfformiad
Mae’r holl staff yn cael Arfarniadau o Berfformiad yn flynyddol ac adolygiad dilynol o’u harfarniadau ymhen 6 mis.
Cyfarfodydd staff misol
Mae’r holl staff yn cael y cyfle i fynychu cyfarfodydd staff misol, sydd ar ffurf agenda, trafodaeth a chofnodion. Caiff y cyfarfodydd hyn eu cadeirio gan reolwr y cartref a bydd yr Unigolyn Cyfrifol yn bresennol o leiaf 3 gwaith y flwyddyn.
Goruchwylio’r Rheolwr
Mae rheolwr y cartref yn cael goruchwyliaeth uniongyrchol 1 i 1 gan yr Unigolyn Cyfrifol yn fisol. Bydd arfarniad blynyddol o berfformiad yn cael ei gwblhau hefyd
Hyfforddi staff
- Mae holl anghenion hyfforddi, dysgu a datblygu’r staff yn cael eu hadnabod trwy’r prosesau goruchwylio ac adolygu perfformiad.
- Mae’r holl staff wedi ennill gwybodaeth briodol trwy beth wmbredd o hyfforddiant sy’n eu galluogi i roi cymorth gydag anghenion pob unigolyn.
- Mae’r holl staff parhaol wedi ennill cymhwyster NVQ/FfCaCh mewn gofal, a’r rheiny’n amrywio o lefel 3 i lefel 5. Mae gweddill y staff yn gweithio tuag at ennill y rhain ar hyn o bryd.
- Mae’r holl staff yn cwblhau hyfforddiant gorfodol ac yn cael diweddariadau rheolaidd; Pasbort Codi a Chario Cymru Gyfan, Rheoli Heintiau, Amddiffyn Plant, Diogelwch Tân, Hylendid Bwyd Sylfaenol, Cadw Cofnodion, Dementia, Rhoi Meddyginiaethau’n Ddiogel, Hyfforddiant Cwynion, a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith, Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid.
- Mae gan staff fynediad at ddysgu a datblygu gorfodol ar-lein Cyngor Sir Penfro a adwaenir fel Datblygu Ar-lein Sir Benfro POD i gwblhau’r holl hyfforddiant gorfodol. Lle nad oes gan staff ddefnydd o liniadur neu gyfrifiadur ar gyfer eu gwaith fel arfer, yna byddant yn cael dolen i’w defnyddio i gael mynediad at eu cyfrif POD ar-lein gan ddefnyddio eu dyfais eu hunain gartref. Fel arall, byddant yn cael mynediad trwy gyfrifiadur swyddfa ac yn cael amser yn ystod eu sifft i gwblhau’r cwrs gorfodol.
Cyfleusterau a gwasanaethau
Byngalo pwrpasol i ddiwallu anghenion pobl ifanc ag anableddau yw Holly House.
Nifer yr ystafelloedd sengl a’r ystafelloedd a rennir
4 ystafell sengl y mae pob un ohonynt yn cynnwys proffilio/cist ddroriau/pwynt teledu/bwrdd wrth ochr gwely y gellir ei gloi
Nifer yr ystafelloedd ag ystafell ymolchi gysylltiedig
2 ystafell wely - y mae gan 1 ohonynt ystafell wlyb/toiled ac y mae’r llall yn ystafell gawod arbenigol gyda thrac uwchben a gwely newid
Nifer yr ardaloedd bwyta - Ystafell fawr â chynllun agored sy’n cynnwys ardal fwyta ac ystafell eistedd gyda soffas mawr a theledu, peiriant DVD a chonsolau gemau. Mae’r ystafell hon yn arwain allan trwy ddrysau at ardd gaeëdig. Ceir ystafell synhwyraidd ag offer synhwyraidd ac ystafell adnoddau, sydd ag ardal ddesg, i wneud gweithgareddau celf a chrefft/chwarae gemau/gwneud gwaith cartref.
Nifer yr ardaloedd cymunol
Cyfleusterau bathio arbenigol
1 ystafell ymolchi gyda thrac uwchben a gwely newid. Hefyd, toiled generig yn yr ystafell ymolchi, sy’n galluogi pobl ifanc i fod mor annibynnol â phosibl trwy olchi a sychu’r defnyddiwr gan ddefnyddio pad synhwyro/rheoli
Offer arbenigol - 2 ystafell wely â thrac wedi’i osod ar y nenfwd; mae’r trac yn un siâp ‘h’ sy’n galluogi’r person ifanc i fynd i unrhyw le yn yr ystafell honno.
Offer synhwyraidd - Cegin fawr ag arwyneb gwaith/sinc/hob codi a gostwng a phopty ar lefel y llygaid â drws sy’n plygu allan o’r ffordd.
2 gwpwrdd wedi’u gosod ar y wal sy’n gostwng i lefel yr arwyneb gwaith; gan gynnwys bwrdd a chadeiriau i bawb eistedd a pharatoi bwyd.
Trefniadau diogelwch
sydd ar waith a’r defnydd o deledu cylch cyfyng
- Allwedd â chod ar gyfer mynd i mewn/allan i sicrhau diogelwch pobl ifanc sy’n aros yn y cartref.
- Mae 3 Allanfa Dân wedi’u cloi â magnet a gellir eu hagor ag allwedd neu cânt eu hagor yn awtomatig pan fo’r larymau tân yn seinio.
- Mae synhwyrydd drws Tunstall wedi’i osod ar bob drws allanol a drws ystafell wely sydd, pan gaiff ei sbarduno, yn hysbysu’r staff sydd ar ddyletswydd pa ystafell/drws a agorwyd.
- Mae gan Tŷ Holly deledu cylch cyfyng ond ni chaiff ei ddefnyddio pan fo pobl ifanc yn aros yn Tŷ Holly a dim ond pan fo’r uned ar gau y mae’n weithredol.
Mynediad at fannau a chyfleusterau awyr agored yn y gwasanaeth hwn
- Gardd gaeëdig yng nghefn yr eiddo, y ceir mynediad iddi trwy’r allanfa dân yn y lolfa.
- Mae’r ardd yn cynnwys ardal chwarae meddal lle gall pobl ifanc gael gadael ar deganau a gemau gardd.
- Offer chwarae – llithren a thrampolîn
Trefniadau llywodraethu a monitro ansawdd
Mae’r Cartref yn gweithredu fel gwasanaeth mewnol gan Adran Gofal Cymdeithasol a Thai Cyngor Sir Penfro, gyda’r cyfrifoldeb amdano’n perthyn yn benodol i’r adran Gwasanaethau Plant. Mae’r cartref yn cydymffurfio â pholisïau, arferion a gweithdrefnau Cyngor Sir Penfro.
Ymweliadau dan Reoliad 73
Bydd yr Unigolyn Cyfrifol yn ymweld â’r cartref ac yn cwblhau gwaith papur i gofnodi ei ymweliad o leiaf bob tri mis. Ni fydd y dasg hon yn cael ei dirprwyo. Yn ystod yr ymweliad hwn bydd yr Unigolyn Cyfrifol yn monitro perfformiad y gwasanaeth mewn perthynas â’i ddatganiad o ddiben ac i oleuo’r adolygiad goruchwylio ac ‘ansawdd gofal’. Yn ystod pob ymweliad, lle y bo’n bosibl ac yn ymarferol, bydd yr Unigolyn Cyfrifol yn gwneud y canlynol:
- Cwrdd ag aelodau o staff yn breifat a chyda’u cydsyniad.
- Siarad gyda phobl ifanc a’u cynrychiolwyr (os yn berthnasol) sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn breifat a chyda’u cydsyniad.
- Gweld yr ystafelloedd a neilltuwyd i bobl ifanc gyda’u cydsyniad ac yn eu cwmni lle y bo’n briodol a lle y bo’r person ifanc hwnnw wedi cytuno.
- Archwilio pob ardal ar y safle o safbwynt glendid cyffredinol, diogelwch a chyfforddusrwydd.
- Cyflwyno argymhellion i’r rheolwr (neu'r dirprwy) ynglŷn â chyflwr y cartref a’r offer ynddo, yn ogystal â’r arferion gweithredu yr arsylwyd arnynt yn ystod yr ymweliad.
- Yn flynyddol, ei argyhoeddi ei hun bod gwiriadau i offer trydanol, diogelwch tân, diogelwch nwy a gwiriadau eraill mewn perthynas â’r adeilad a’i offer a chyflenwadau ynni wedi cael eu cwblhau ac yn dynodi bod y cartref yn dal i fod yn ddiogel i weithredu Mae’r trefniadau Llywodraethu a monitro ansawdd fel a ganlyn:
Gorchwylio ac Adolygu Perfformiad
- Caiff sesiwn oruchwylio’r Rheolwr ei chwblhau gan yr Unigolyn Cyfrifol yn fisol gydag Arfarniad o Berfformiad yn cael eu gwblhau’n flynyddol.
- Mae’r holl staff yn cael Arfarniadau o Berfformiad yn flynyddol ac adolygiad dilynol o’u harfarniadau ymhen 6 mis.
Trosglwyddo Beunyddiol
- Cwblheir diweddariad trosglwyddo beunyddiol ar ddiwedd pob sifft wrth newid drosodd.
Rheolaeth Llinell
- Mae system ar alw’n weithredol i sicrhau y gellir cysylltu â rheolwr bob amser.
- Mae'r unigolyn cyfrifol ar gael 24 awr y dydd a 365 diwrnod y flwyddyn.
Sicrhau Ansawdd
- Rhoddir holiaduron i unigolion, gweithwyr proffesiynol, staff, teulu ac ymwelwyr i’w cwblhau pan fyddant yn ymweld. Caiff Holiaduron a Gwblhawyd eu coladu bob 6 mis ac mae’r wybodaeth yn bwydo i mewn i gynllun datblygu’r gwasanaeth a chynlluniau busnes.
- Mae Tŷ Holly yn gweithio tuag at ddatblygu grŵp eiriolaeth pobl ifanc wedi’i hwyluso’n annibynnol yn Holly House i alluogi pobl i fynegi eu barn am Holly House a bydd hyn yn bwydo i mewn i gynllun datblygu’r gwasanaeth.
Diogelu Data
- Mae’r holl wybodaeth a gynhelir gan y Cartref yn gyson â Pholisi Diogelu Data Cyngor Sir Penfro.
Iechyd a Diogelwch
- Mae’r Cartref yn dilyn Polisïau Iechyd a Diogelwch Cyngor Sir Penfro
- Hefyd, mae’r Gweithdrefnau yn gyson â rheoliadau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Arolygiadau AGC
- Arolygir y Cartref gan AGC ac mae copi o’r adroddiad diweddaraf ar gael ar-lein yn Arolygiaeth Gofal Cymru (yn agor mewn tab newydd) a chopi caled yn y Cartref.
Diogelwch yr adeilad, offer a Diogelwch Tân
- Mae staff ar ddyletswydd yn diogelu’r adeilad yn y nos ac yn dilyn gweithdrefnau os ceir argyfwng.
- Caiff gwiriadau rheolaidd o’r holl offer a ddefnyddir a’r amgylchedd eu cwblhau a’u dogfennu.
Caiff asesiadau risg eu cwblhau, eu monitro a’u hadolygu. Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant Iechyd a Diogelwch a chaiff hwn ei ddiweddaru.
- Mae gan y Cartref System Larwm Tân awtomatig, Cynllun Amddiffyn rhag Tân ac Asesiad Risg Tân ar gyfer yr holl unigolion a staff. Mae’r holl staff yn cael hyfforddiant diogelwch tân.
- Hyd y bo’n ymarferol, bydd y rheolwyr yn sicrhau iechyd, diogelwch a lles unigolion, gan gynnwys cydymffurfio â deddfwriaeth berthnasol.
- Mae’r adeilad a’i safle’n ardal dim ysmygu.
- Mae gan y Cartref Yswiriant Atebolrwydd Cyflogwr ond dylai unigolion ofyn am gyngor ynghylch eu heiddo personol fel y bo angen.
Damweiniau a Digwyddiadau
- Caiff y rhain eu gwneud yn hysbys i Uned Ddiogelwch CSP a hefyd Pennaeth y Gwasanaeth ac AGC fel y bo angen.
Canmoliaeth a Chwynion
- Mae gan Gyngor Sir Penfro Weithdrefn Canmoliaeth a Chwynion y gellir ei chyrchu yma
- Mae fersiynau hawdd i’w darllen ar gael i bobl ifanc a’u teulu/gofalwyr.
- Mae gan Bobl Ifanc a’u teulu/gofalwr fanylion cyswllt sefydliadau Eirioli a all roi cymorth annibynnol.
Eiriolaeth
- Caiff unigolion eu hannog yn weithredol i gyfranogi yn y broses o redeg y Cartref a chyfrannu ati. Mae eu barn yn bwysig a bydd yn cael ei chymryd i ystyriaeth gan Reolwr y Cartref a staff. Caiff teuluoedd a chynrychiolwyr unigolion nad ydynt yn gallu cyfleu eu barn eu hunain eu hannog i weithredu fel eiriolwr.
- Mae Cyngor Sir Penfro’n comisiynu 3CEPA (yn agor mewn tab newydd) i roi cymorth eirioli annibynnol i unigolion.
Rheoli Gwybodaeth
- Ni fydd y cartref yn darparu gwybodaeth ar gyfer perthnasau, gwŷr neu wragedd, ffrindiau nac eiriolwyr heb gydsyniad y preswylydd unigol a/neu ei riant/gwarcheidwad cyfreithiol â chyfrifoldeb rhiant. Dylai’r holl ymholiadau am wybodaeth, hyd yn oed os ydynt gan berthnasau agos, gael eu hatgyfeirio’n ôl at yr unigolyn neu riant er mwyn cael caniatâd cyn datgelu’r wybodaeth. Gellir cael gwybodaeth trwy swyddog y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yng Nghyngor Sir Penfro.
- Rhaid i’r holl staff gydymffurfio â’r darpariaethau a nodir yn y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
E-bost: CCAT@pembrokeshire.gov.uk