Gwasanaethau i Gwsmeriaid

Ein Siarter Cwsmeriaid

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig ystod eang o wasanaethau i'w gwsmeriaid. Ychydig o'n gwasanaethau niferus yw ysgolion, gofal cymdeithasol, llyfrgelloedd, cynnal a chadw ffyrdd a chanolfannau. Un o'n hegwyddorion allweddol yw rhoi cwsmeriaid yn gyntaf, cwsmeriaid yw ffocws popeth yr ydym yn ei wneud a'r ffordd yr ydym yn gweithio.

Does dim gwahaniaeth pa wasanaeth neu adran o'r Cyngor yr ydych chi'n delio â hwy, gallwch ddisgwyl derbyn lefel gwasanaeth sy'n gyson uchel.

Bwriadwn sicrhau bod delio â'r Cyngor mor hawdd â phosibl, gan gyflwyno gwasanaethau sy'n gyfleus ac yn hygyrch i chi.

Byddwn yn: -

  • gwrtais, o gymorth, yn agored ac yn onest
  • gwrando arnoch chi ac yn cymryd sylw o'r hyn sydd gennych i'w ddweud
  • gwneud ein gorau i'ch cynghori chi
  • gwneud yr hyn yr ydym yn ei ddweud y byddwn yn ei wneud
  • parchu eich cyfrinachedd a'ch preifatrwydd
  • rhoi gwybodaeth glir, gan ddefnyddio iaith syml ac mewn fformat sy'n addas i chi
  • trin cwsmeriaid yn deg ac yn gyfartal

Mae pobl yn hoffi cysylltu â ni mewn sawl ffordd, ar y ffôn, yn bersonol, yn ysgrifenedig neu ar-lein. Mae'r adran hon yn esbonio'r hyn y gallwch ei ddisgwyl gan holl wasanaethau'r Cyngor bob amser.

Ar y ffôn

Mae ein Canolfan Gyswllt yn cynnig y pwynt cyswllt cyntaf i'n cwsmeriaid 01437 764551

9am - 5pm

Dydd Llun - Dydd Gwener

Y Tu Allan i Oriau mewn Argyfwng 0345 601 5522

Pan fyddwch chi’n ffonio, byddwn yn ateb eich galwad cyn gynted ag sy’n bosibl, gan drin ymholiadau syml a cheisiadau am wasanaeth yn chwim.

Efallai y bydd angen i ni eich trosglwyddo chi at arbenigwr neu gymryd neges ar eich rhan os yw'r ymholiad yn gymhleth neu angen gwybodaeth bellach.

Os dymunwch gynnal yr alwad yn Gymraeg efallai y bydd angen i ni eich trosglwyddo chi at siaradwr Cymraeg. Os nad oes siaradwr Cymraeg ar gael i gynnig gwasanaeth ar fater penodol, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd un ar gael.

Anaml y byddwn yn defnyddio peiriannau ateb, a dim ond os yw'n gwbl angenrheidiol.

Gallai galwadau gael eu recordio at ddibenion monitro a hyfforddi yn unig.

Yn ysgrifenedig / trwy e-bost

Pan fyddwch chi'n ysgrifennu atom ni neu'n anfon e-bost byddwn yn ymateb mor gyflym â phosibl ac o fewn 15 diwrnod gwaith o leiaf.

Os na allwn ymateb o fewn 15 diwrnod am ryw reswm, byddwn yn cysylltu â chi ac yn esbonio pam. Byddwn yn eich hysbysu chi o'n cynnydd ac yn rhoi gwybod i chi pa bryd y gallwch ddisgwyl ymateb terfynol a llawn.

Byddwn yn ymateb yn yr un iaith ag y cafodd yr ohebiaeth ei derbyn (oni bai eich bod chi'n gofyn i ni beidio).

Cofiwch na allwn ni serch hynny, ymateb yn unigol i gyflwyniadau a wneir mewn ymateb i ymgynghoriadau neu sylwadau a wneir mewn perthynas â cheisiadau cynllunio.

Yn bersonol

Canolfannau Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

  • Hwlffordd

Mae oriau agor yn amrywio. Edrychwch ar dudalennau Canolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid unigol am fanylion.

Pan fyddwch chi'n ymweld â ni'n bersonol, byddwn yn ceisio'ch gweld chi o fewn 10 munud ac yn delio gydag ymholiadau a cheisiadau am wasanaethau syml ar unwaith.

Os yw'ch ymholiad yn gymhleth neu angen gwybodaeth bellach, neu os oes gennych ofynion cyfathrebu penodol, efallai y bydd yn rhaid i ni ofyn i chi wneud apwyntiad i ddod yn ôl ar amser gwahanol, er mwyn sicrhau bod eich anghenion yn cael eu bodloni'n llawn.

Ar-lein

Mae nifer cynyddol o gwsmeriaid yn hoffi delio â ni trwy ein gwefan.

Gallwch gael mynediad i'r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim yn ein llyfrgelloedd.

Bydd cofrestru ar gyfer cyfleuster 'Fy Nghyfrif' ar ein gwefan yn rhoi mynediad i chi at dros 40 o wasanaethau ar-lein. Unwaith y mae gennych gyfrif gyda ni, byddwch chi'n gallu:

  • Derbyn hysbysiadau e-bost yn ymwneud ag ystod o wasanaethau'r cyngor a datganiadau i'r wasg
  • Hysbysu problemau a digwyddiadau  
  • Gwneud cais am ystod o wasanaethau'r Cyngor
  • Talu am wasanaethau'r Cyngor
  • Defnyddio'ch cod post i gael gwybodaeth sy'n benodol i'ch eiddo chi
  • Canfod ble y mae'ch gwasanaethau Cyngor agosaf wedi'u lleoli

Cyfryngau cymdeithasol

Mae dros 32,000 o bobl eisoes yn cysylltu â ni gan ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn croesawu sylwadau, cwestiynau a negeseuon ar Facebook - Cyngor Sir Penfro (yn agor mewn tab newydd) ac ar Twitter - Cyngor Sir Penfro (yn agor mewn tab newydd)

 

Fformatau eraill

Byddwn yn darparu taflenni gwasanaethau cymdeithasol i oedolion ar ffurf Darllen yn Hawdd bob amser. Byddwn hefyd yn sicrhau bod yr holl wybodaeth sy'n cael ei hanfon at ddefnyddwyr y Gwasanaeth Anabledd Dysgu mewn fformat darllen hawdd hefyd.

Byddwn yn darparu'r holl ddeunydd arall mewn fformatau amgen yn ôl yr angen, er enghraifft:

  • Print mawr
  • Darllen hawdd
  • Braille
  • Sain
  • Iaith Arwyddion Prydain
  • Ieithoedd ac eithrio'r Gymraeg neu Saesneg 
ID: 573, adolygwyd 08/11/2023