Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Ein Datganiad Cenhadaeth
Rydym yn sefydliad drwyddo draw sydd â gwir deimlad o bwrpas, sef:
Gweithio gyda'n gilydd, gwella bywydau
Mae'r hyn a wnawn er mwyn ceisio cyrraedd y nod hwn yn cael ei seilio ar dair egwyddor:
1. Ymdeimlad o Bwrpas
Ein pwrpas yw ysbrydoli a chynorthwyo unigolion, cymunedau a sefydliadau er mwyn sicrhau gwelliannau i les cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
2. Gwelliant
Ein nod fydd trawsnewid y ffordd mae’r sefydliad yn gweithio, gan arloesi a chwilio am yr arferion gorau i’n helpu ni i gyflawni mewn ffyrdd mwy effeithiol ac effeithlon. Ein nod fydd parhau i wneud dewisiadau doeth, trwy dorri’r gôt yn ôl y brethyn ac osgoi prosesau diangen a gwastraff.
3. Cydweithio
Byddwn yn cydweithio i helpu darparu cymorth a gwasanaethau cysylltiedig i drigolion, cymunedau a sefydliadau Sir Benfro, ac ymwelwyr â’r sir. Rydym yn ymroi i ddatblygu partneriaethau effeithiol gyda chyrff sector cyhoeddus, preifat a gwirfoddol o fewn y sir, a’r tu allan i’r sir, yn barhaus.