Gwasanaethau i Gwsmeriaid
Safonaur Gymraeg
Paratowyd Safonau'r Gymraeg dan Fesur y Gymraeg (Cymru) (1) 2011 a Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif 1) 2015 a ddaeth yn weithredol ar 31 Mawrth 2015.
Wrth gyflwyno Mesur y Gymraeg a Safonau'r Gymraeg, bwriad Llywodraeth Cymru yw:
- cynyddu a gwella gwasanaethau Cymraeg i bobl Cymru;
- sicrhau eglurder a chysondeb yn nhermau'r gwasanaeth y gellir ei ddisgwyl yn Gymraeg;
- rhoi hawliau i bobl Cymru dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.
Prif amcan Comisiynydd y Gymraeg, sefydliad annibynnol dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011, yw hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o Gymraeg.
Wrth ddarparu gwybodaeth i'r cyhoedd bydd Cyngor Sir Penfro'n gwneud hynny yn ddwyieithog. Byddwn yn trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Rhoddwyd hysbysiad cydymffurfio i'r Cyngor ar 30 Medi 2015 yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r Cyngor gydymffurfio â'r 148 safon o 31 Mawrth 2016 ynghyd â 23 safon ychwanegol o 30 Medi 2016.
ID: 591, adolygwyd 08/01/2025