Gwasanaethau i Oedolion
Hunanasesu Gofal Cymdeithasol i Oedolion
Ar rhai adegau yn eu bywyd, gall llawer o bobl deimlo bod angen help a chefnogaeth arnynt gyda thasgau bywyd bob dydd.
Rydym yn cydnabod bod gan bob unigolyn ei amgylchiadau a’i anghenion penodol ei hun.
Mae’r adran hon yn darparu gwybodaeth am wasanaethau a sefydliadau cymorth a all eich helpu i gael mwy o annibyniaeth, dewis a rheolaeth, er mwyn eich helpu i reoli eich bywyd eich hun yn eich cartref eich hun.
Y dudalen hon:
- Gofalwyr di-dâl
- Cynnal a chadw neu lanhau eich cartref neu’ch gardd
- Siopa am fwyd neu hanfodion
- Paratoi prydau bwyd neu ddiodydd neu fyrbrydau
- Anhawster gyda bwyta a/neu yfed
- Problemau mynd i’r toiled
- Golchi personol a gwisgo
- Trafnidiaeth
- Cynnal perthnasoedd a gweithgareddau cymdeithasol
- Gwaith / hyfforddiant / addysg / gwirfoddoli
- Cyfrifoldebau magu plant neu ofal plant
- Cadw’n ddiogel yn eich cartref
- Gofalu am eich anifeiliaid anwes
- Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant
- Atgyfeiriad gofal cymdeithasol i oedolion
Gofalwyr di-dâl
Ewch i gofalwyr di-dâl i gael gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael. Rydych chi’n ofalwr os ydych chi’n darparu neu’n bwriadu darparu gofal i oedolyn neu blentyn anabl. Gallent fod yn berthynas, ffrind neu gymydog sy’n methu ymdopi gartref heb gymorth oherwydd salwch, oedran neu anabledd.
Cynnal a chadw neu lanhau eich cartref neu’ch gardd
- Hwb Cymunedol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) / Rhif ffôn:01437 723660 – canolfan ar-lein am ddim ar gyfer gwybodaeth, gwasanaethau a chymorth
- I weld y cyfeiriadur gwasanaethau, ewch i PLANED – Gwasanaethau Gofal a Chymorth Micro (yn agor mewn tab newydd). Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal micro yn hunangyflogedig ond gallant fod yn bartneriaethau neu’n gwmnïau bach. Mae’r gwasanaethau yn y cyfeiriadur hwn, sy’n anelu at roi mwy o ddewis i bobl ddod o hyd i wasanaeth gofal/cymorth bach, lleol sy’n gweithio iddyn nhw, yn cael eu cefnogi gan Catalyddion Gofal. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau ynghylch a fyddai gwasanaeth micro-ofal yn briodol i chi, cysylltwch â chydlynydd y prosiect yn Sir Benfro:
Lee James – 07535 810003 / lee.james@planed.org.uk
- Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn sefydliad elusennol sy’n helpu pobl hŷn ac anabl i fyw yn eu cartrefi eu hunain trwy helpu i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi.
Rhif ffôn: 01437 766717 / E-bost: hello@wwcr.co.uk
- Am wybodaeth am gasgliadau gwastraff ac ailgylchu yn Sir Benfro, ewch i Gwastraff ac Ailgylchu, e.e. casgliadau ar gyfer cewynnau tafladwy a gwastraff anymataliaeth (bagiau porffor), nodiadau atgoffa ar gyfer casgliadau, ac ati. Os na allwch chi roi eich sbwriel a’ch deunydd ailgylchu wrth ymyl y ffordd agosaf i’w casglu ac nad oes unrhyw un arall yn byw yn eich cyfeiriad a allai eich helpu, gallech gofrestru ar gyfer casgliadau â chymorth / o garreg y drws drwy ffonio 01437 764551 neu anfon e-bost at wasteops@pembrokeshire.gov.uk a bydd ffurflen yn cael ei hanfon atoch.
- Cynnal a chadw tai
- Am wybodaeth ar sut i ofyn am atgyweiriad tai, cynnal a chadw wedi’i gynllunio, a gwelliannau cartref ar dai sy’n eiddo i’r cyngor, ewch i Atgyweirio a Chynnal Tai'r Cyngor.
- Tai'r Sector Preifat – am wybodaeth am addasiadau ar gyfer pobl anabl mewn eiddo cyhoeddus a phreifat; safonau tai, gorfodi a thrwyddedu yn y sector preifat; adnewyddu ardal; diogelwch yn y cartref; ynni; a grantiau ‘aros yno’ a benthyciadau
- Diogelu’r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd
- Mae Gwasanaeth Difa Plâu Cyngor Sir Penfro yn darparu amrywiaeth o driniaethau rheoli plâu am dâl, a gellir dod o hyd i fanylion amdanynt yma: Gwasanaeth Difa Plâu (cynigir cyngor dros y ffôn am ddim).
- Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Sir Benfro yn gyfrifol am ddelio ag ystod eang o wasanaethau sy’n gysylltiedig â diogelu iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i Iechyd Cyhoeddus.
- Contractwyr cymeradwy – yn hytrach nag aros i rywun gnocio ar eich drws, mae’n well dod o hyd i grefftwr dibynadwy eich hun. Gofynnwch i ffrindiau a pherthnasau a allant argymell crefftwr. (Os ydych chi wedi cael eich targedu gan sgam neu os ydych chi’n poeni y gallai perthynas, ffrind neu gymydog fod wedi cael eu targedu gan sgam, cysylltwch âGwasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth ar 0808 223 1133 am gyngor. Mae’r wybodaeth yn cael ei rhannu â thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Penfro, a all gysylltu â chi.)
- Gwasanaethau golchi dillad lleol
- Benefits – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) – efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol y gellir eu defnyddio i gyllido unrhyw un o’r uchod.
Siopa am fwyd neu hanfodion
- Hwb Cymunedol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) / Ffôn: 01437 723660 – canolfan ar-lein am ddim ar gyfer gwybodaeth, gwasanaethau a chymorth
- I weld y cyfeiriadur gwasanaethau, ewch i PLANED – Gwasanaethau Gofal a Chymorth Micro (yn agor mewn tab newydd). Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal micro yn hunangyflogedig ond gallant fod yn bartneriaethau neu’n gwmnïau bach. Mae’r gwasanaethau yn y cyfeiriadur hwn, sy’n anelu at roi mwy o ddewis i bobl ddod o hyd i wasanaeth gofal/cymorth bach, lleol sy’n gweithio iddyn nhw, yn cael eu cefnogi gan Catalyddion Gofal. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau ynghylch a fyddai gwasanaeth micro-ofal yn briodol i chi, cysylltwch â chydlynydd y prosiect yn Sir Benfro:
Lee James – Rhif ffôn: 07535 810003 / E-bost: lee.james@planed.org.uk
Paratoi prydau bwyd neu ddiodydd neu fyrbrydau
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – AskSARA (yn agor mewn tab newydd) am wybodaeth am gymhorthion ac addasiadau i gefnogi paratoi prydau bwyd.
- Mae Wiltshire Farm Foods (yn agor mewn tab newydd) yn danfon prydau wedi’u rhewi yn syth i’ch drws. I ddarganfod beth sydd ar gael a phryd maen nhw’n dosbarthu yn eich ardal chi, ewch i’w gwefan, gan roi eich cod post.
- PATCH (Pembrokeshire Action to Combat Hardship) (yn agor mewn tudalen newydd) – sefydliad elusennol sy’n anelu at leddfu effeithiau tlodi ar unigolion a theuluoedd yn Sir Benfro. Rhif ffôn: 01646 699275 / E-bost: davegolding@patchcharity.co.uk
Anhawster gyda bwyta a/neu yfed
- Os ydych chi’n cael anhawster llyncu neu’n colli pwysau’n gyflym, cysylltwch â’ch meddyg teulu.
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – AskSARA (yn agor mewn tab newydd) am wybodaeth am gymhorthion ac addasiadau i helpu.
Problemau mynd i’r toiled
- Os oes gennych unrhyw broblemau anymataliaeth newydd, cysylltwch â’ch meddyg teulu.
- Gallwch gysylltu â’r Gwasanaeth Anymataliaeth ar 0800 988 3681 ar gyfer problemau presennol a chymhorthion anymataliaeth ychwanegol.
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – AskSARA (yn agor mewn tab newydd) am wybodaeth am gymhorthion ac addasiadau i helpu.
- Ewch i Casgliadau ar gyfer cewynnau tafladwy a gwastraff anymataliaeth (bagiau porffor) i gael gwybodaeth am sut mae’r cynllun yn gweithio a sut i gofrestru ac ati.
Golchi personol a gwisgo
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – AskSARA (yn agor mewn tab newydd) am wybodaeth am gymhorthion ac addasiadau i helpu.
- I weld y cyfeiriadur gwasanaethau, ewch i PLANED – Gwasanaethau Gofal a Chymorth Micro (yn agor mewn tab newydd). Mae’r rhan fwyaf o wasanaethau gofal micro yn hunangyflogedig ond gallant fod yn bartneriaethau neu’n gwmnïau bach. Mae’r gwasanaethau yn y cyfeiriadur hwn, sy’n anelu at roi mwy o ddewis i bobl ddod o hyd i wasanaeth gofal/cymorth bach, lleol sy’n gweithio iddyn nhw, yn cael eu cefnogi gan Catalyddion Gofal. Os hoffech ofyn unrhyw gwestiynau ynghylch a fyddai gwasanaeth micro-ofal yn briodol i chi, cysylltwch â chydlynydd y prosiect yn Sir Benfro:
Lee James – Rhif ffôn: 07535 810003 / E-bost: lee.james@planed.org.uk
- Porwch y Cyfeiriadur gwasanaethau gofal | Arolygiaeth Gofal Cymru i ddod o hyd i wasanaeth gofal cymdeithasol cofrestredig a gweld adroddiadau arolygu Arolygiaeth Gofal Cymru.
- Benefits – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) – efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol y gellir eu defnyddio i gyllido unrhyw un o’r uchod.
Trafnidiaeth
- Cludiant Cymunedol Sir Benfro – Mae’r gwasanaethau hyn yn helpu pobl a grwpiau nad oes ganddynt fynediad at eu cludiant eu hunain ac nad oes ganddynt neu na allant ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus confensiynol. Yn Sir Benfro, cânt eu rhedeg gan sefydliadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol lleol di-elw.
- Mae gwasanaeth bws fflecsi (yn agor mewn tab newydd) yn codi ac yn gollwng teithwyr o fewn ardal wasanaeth ddynodedig, yn seiliedig ar archebion a wneir trwy’r ap neu dros y ffôn i’n canolfan alwadau ddwyieithog gyfeillgar. Caiff y fenter ei rhedeg gan Trafnidiaeth Cymru mewn partneriaeth â chynghorau lleol a gweithredwyr bysiau. Mae’n cynnig dewis arall hyblyg i wasanaethau bysiau traddodiadol, yn enwedig mewn ardaloedd lle efallai na fydd llwybrau sefydlog yn hyfyw.
- Cludiant i’r ysbyty – yn ogystal â darparu gwasanaethau damweiniau ac achosion brys, mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn trefnu ac yn darparu cludiant i’r ysbyty i gleifion nad ydynt yn addas yn feddygol i deithio trwy ddefnyddio unrhyw ddull arall. Ffoniwch Wasanaeth Ambiwlans Cymru – 0300 1232 303 (dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm) neu ewch i Cludiant cleifion (yn agor mewn tab newydd).
- Mae Cynllun y Bathodyn Glas wedi’i gynllunio i gynorthwyo pobl sydd ag anhawster cerdded parhaol a sylweddol, amhariad gwybyddol, neu broblem symudedd arall, i barcio’n agos at ble mae angen iddynt fynd. Mae Bathodyn Glas wedi’i gynllunio i helpu pobl i fyw bywyd annibynnol, gan ganiatáu iddynt deithio fel gyrrwr neu deithiwr i’r gwaith, i siopa, neu i gael mynediad at wasanaethau eraill y gallent fod eu hangen. Gallwch wneud cais am Fathodyn Glas newydd / i adnewyddu Bathodyn Glas ar-lein drwy fynd i Gwneud cais am Fathodyn Glas (yn agor mewn tab newydd).
- Benefits – GOV.UK (yn agor mewn tab newydd) – efallai y byddwch yn gymwys i gael budd-daliadau ychwanegol y gellir eu defnyddio i gyllido unrhyw un o’r uchod.
Cynnal perthnasoedd a gweithgareddau cymdeithasol
- Hwb Cymunedol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) / Ffôn: 01437 723660 – canolfan ar-lein am ddim ar gyfer gwybodaeth, gwasanaethau a chymorth
- Cysylltwyr Cymunedol | Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) – Mae gwasanaeth y Cysylltwyr Cymunedol yn elfen allweddol o’r Rhaglen Cryfhau Cymunedau, dull partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, Bwrdd Iechyd Hywel Dda a’r trydydd sector.
- Canolfannau Hamdden Sir Benfro – i gael gwybod mwy am rai o’r rhaglenni sydd ar gael yn ein canolfannau hamdden, gan gynnwys “Heini am Oes” i bobl dros 60 oed, Anabledd Actif (Cyfeillion Cadw’n Heini), Chwaraeon Cerdded gyda Hamdden Sir Benfro ac ati, ewch i Hamdden Sir Benfro.
- Mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd Sir Benfro yn bodoli i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl, i leihau anfantais, i ysbrydoli dysgu gydol oes, ac i greu cymunedau cryfach ac iachach. Gallwch weld beth sy’n digwydd yn ein llyfrgelloedd drwy fynd i Llyfrgelloedd Sir Benfro – Beth rydym ni’n ei gynnig? a dewis y llyfrgell sydd orau i chi. Gallwch hefyd ddysgu mwy am y Llyfrgell Deithiol a’r Llyfrgell yn y Cartref.
Gwaith / hyfforddiant / addysg / gwirfoddoli
- Mae Rhaglen Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro yn cynorthwyo pobl i gyflawni mwy o annibyniaeth a hunan-barch mewn lleoliadau gwaith â chymorth. Mae’r rhaglen yn cyflogi ac yn gweithio gyda phobl ag ystod eang o anableddau, gan gynnwys:
- Anableddau dysgu
- Cyflyrau niwroamrywiol, gan gynnwys awtistiaeth
- Afiechyd meddwl
- Anabledd corfforol
- Anabledd synhwyraidd
- Camddefnyddio sylweddau
- Cyflyrau iechyd sy’n cyfyngu ar waith fel epilepsi, canser ac arthritis
Mae hefyd yn cynnig profiad gwaith, hyfforddiant, a chyfleoedd dydd yn seiliedig ar waith. Os ydych chi’n byw neu’n gweithio yn Sir Benfro ac yn wynebu rhwystr sy’n eich atal rhag cael gwaith, gan gynnwys anabledd, cyflwr iechyd hirdymor neu anghenion cymorth ychwanegol, yna bydd Cefnogi Cyflogadwyedd yn eich helpu i gael mynediad at gyngor ac ystod eang o gymorth wedi’i deilwra i’ch anghenion personol i wella’ch sgiliau a’ch gwybodaeth i gael neu gadw gwaith, i’ch helpu i gael gwaith, neu i’ch helpu i aros mewn gwaith.
- Mae Help i bobl | Cymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) yn darparu gwybodaeth a chymorth, gan gynnwys cyfleoedd gwirfoddoli i bobl ledled Sir Benfro.
- Am ystod eang o addysg a hyfforddiant ôl-16, ewch i Coleg Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) i weld beth sydd ar gael ac am ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd ag anghenion ychwanegol.
- Am restr o ganolfannau dysgu oedolion ledled y sir, ewch i Canolfannau Dysgu Cymunedol i weld manylion am eu lleoliadau a’r cyfleusterau sydd ganddynt ac ati.
- Yr Adran Gwaith a Phensiynau (yn agor mewn tab newydd) i gael help gyda chwilio am gyflogaeth neu gymorth budd-daliadau.
- Gall Gyrfa Cymru (yn agor mewn tab newydd) eich helpu i gynllunio eich gyrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i’r prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir a gwneud cais amdanynt.
- Mae Cyngor ar Bopeth Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) yn darparu cyngor annibynnol, cyfrinachol a diduedd am ddim i bawb ar eu hawliau a’u cyfrifoldebau.
Cyfrifoldebau magu plant neu ofal plant
- Efallai y bydd y tîm asesu gofal plant yn gallu eich helpu drwy roi gwybodaeth a chyngor i chi, ac, os oes angen, eich cefnogi i ofalu am eich plant. Mae’r tîm yn gweithio mewn partneriaeth â rhieni, pobl ifanc a gofalwyr i asesu eu hanghenion unigol. Er mwyn darparu’r cymorth y gallech fod ei angen arnoch, mae’r tîm hefyd yn gweithio gydag asiantaethau statudol, gwirfoddol ac annibynnol eraill.
Cysylltwch â:Rhif ffôn: 01437 764551 / E-bost: CCAT@pembrokeshire.gov.uk
- Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi’i thargedu at blant 0–3 oed ac 11 mis oed a’u teuluoedd sy’n byw mewn ardaloedd penodol yn Sir Benfro. I wirio a ydych chi’n gymwys, ewch i’r wefan.
- Mae Sarah Harvey, y Cysylltwr Cymunedol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Theuluoedd, yn gweithio gyda theuluoedd ac unigolion i ddarparu cyfeirio, cyngor, cymorth a gwybodaeth. Mae hi’n gweithio gyda grwpiau, sefydliadau, prosiectau ac asiantaethau i geisio sicrhau bod unrhyw beth sy’n effeithio ar deuluoedd, plant a phobl ifanc yn cael ei gefnogi yn Sir Benfro. Ewch i Padlet (yn agor mewn tab newydd) Sarah am ragor o wybodaeth a manylion am sut i gysylltu â hi.
- Mae Gweithredu dros Blant Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n agored i niwed yng Nghymru gyda nifer o brosiectau a gwasanaethau. Mae’r gwasanaeth yn gweithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector. Gallwch hefyd weld y newyddion diweddaraf ar Facebook (yn agor mewn tab newydd).
Cadw’n ddiogel yn eich cartref
- Larymau cymunedol / TEC – Mae gwasanaeth larwm cymunedol Sir Benfro yn wasanaeth ffôn brys a chanddo nodweddion arbennig i weddu i bobl sydd ag amhariad ar y golwg, pobl sy’n drwm eu clyw, a phobl ag anableddau symudedd ac anableddau eraill. Mae’n galluogi unigolion i gael sylw cyflym mewn argyfwng. Technoleg gynorthwyol yw’r diffiniad trosfwaol o offer teleofal a theleiechyd, gan gynnwys larymau cymunedol. Gall systemau teleofal gefnogi annibyniaeth a llesiant. Maent yn galluogi teulu, ffrindiau, cymdogion neu ofalwyr i ymateb i argyfwng mewn modd amserol. Am ragor o wybodaeth, ewch i Eich Diogelwch Personol.
- Partneriaeth Gofal Gorllewin Cymru – AskSARA (yn agor mewn tab newydd) am wybodaeth am gymhorthion ac addasiadau i helpu.
- Mae Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn sefydliad elusennol sy’n helpu pobl hŷn ac anabl i fyw yn eu cartrefi eu hunain trwy helpu i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi.
Rhif ffôn: 01437 766717 / E-bost: hello@wwcr.co.uk
- Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru (yn agor mewn tab newydd) yn cynnig y cyfle i gael Ymweliad Diogel ac Iach yn eich cartref. Maent yn rhad ac am ddim ac ar gael i bawb. Mae’r ymweliad yn cynnwys popeth sy’n rhan o’r gwiriadau diogelwch tân yn y cartref ond bydd hefyd yn cynnwys negeseuon diogelwch eraill a allai fod yn berthnasol i’r bobl sy’n byw yn yr eiddo. Bydd y pum prif neges ychwanegol yn ymwneud â'r canlynol:
- Rhoi’r gorau i ysmygu
- Diogelwch y cartref
- Atal cwympo
- Ymwybyddiaeth o sgamiau
- Mynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd
I archebu ymweliad am ddim: Rhif ffôn: 0800 169 1234 neu llenwch eu ffurflen Ymweliad Diogel ac Iach (yn agor mewn tab newydd).
- Diogelu’r cyhoedd ac iechyd yr amgylchedd
- Mae Gwasanaeth Difa Plâu Cyngor Sir Penfro yn darparu amrywiaeth o driniaethau rheoli plâu am ffi, a gellir dod o hyd i fanylion amdanynt yma: Gwasanaeth Rheoli Plâu (cynigir cyngor dros y ffôn am ddim).
- Mae Tîm Iechyd y Cyhoedd Sir Benfro yn gyfrifol am ddelio ag ystod eang o wasanaethau sy’n gysylltiedig â diogelu iechyd, diogelwch a llesiant y cyhoedd. Am ragor o wybodaeth, ewch i Iechyd Cyhoeddus.
- Sir Benfro Ddiogelach yw Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Sir Benfro. Mae nifer o wasanaethau rheng flaen yn cael eu darparu gan Sir Benfro Ddiogelach, gan gynnwys:
- Gwasanaethau i’r rhai sy’n camddefnyddio sylweddau neu’r rhai sy’n gofalu amdanynt
- Cynlluniau i nodi a gweithio gyda throseddwyr mynych
- Gwasanaethau i ddioddefwyr a throseddwyr cam-drin domestig
- Cymorth i’r rhai sy’n dioddef ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Gwybodaeth ac offer i’ch cadw chi’ch hun a’ch eiddo yn ddiogel
- Gwiriadau/cynlluniau diogelwch mewn tafarndai a chlybiau
- Gweithgareddau i ddifyrru pobl ifanc
Gellir cysylltu â thîm Sir Benfro Ddiogelach ar 01437 775540. Gallwch hefyd anfon negeseuon atom drwy eich Tîm Plismona Bro (yn agor mewn tab newydd).
Gofalu am eich anifeiliaid anwes
- Hwb Cymunedol Sir Benfro (yn agor mewn tab newydd) / Ffôn: 01437 723660 – canolfan ar-lein am ddim ar gyfer gwybodaeth, gwasanaethau a chymorth
- Mae Cinnamon Trust (yn agor mewn tab newydd) yn darparu cymorth i chi a’ch anifail anwes pryd bynnag y bydd gofalu am anifeiliaid anwes yn dod yn beth anodd i’w wneud. Gallai hyn gynnwys mynd â’ch ci am dro, mynd â’ch anifail anwes at y milfeddyg, neu hyd yn oed maethu dros dymor byr yn ystod cyfnodau yn yr ysbyty. Ewch i’r wefan am ragor o wybodaeth neu i ddechrau arni. Fel arall, siaradwch ag aelod o’u tîm ar 01736 757 900 (dydd Llun i ddydd Gwener – 10am–4pm).
- Os ydych chi wedi colli’ch ci, gweler y manylion ar wefan ein gwasanaeth Rheoli Cŵn.
Dewis Cymru
Dewis Cymru (yn agor mewn tab newydd) yw’r lle i fynd os ydych chi eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant – neu eisiau gwybod sut y gallwch chi helpu rhywun arall.
Atgyfeiriad gofal cymdeithasol i oedolion
Os na ellir diwallu eich anghenion gan unrhyw un o’r uchod ac mae angen atgyfeiriad arnoch i ofal cymdeithasol i oedolion, cwblhewch y Ffurflen atgyfeirio gofal i oedolyn (yn agor mewn tab newydd)