Gwasanaethau i Oedolion

Pontio

Mae’r tîm pontio yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, sy’n trosglwyddo o wasanaethau Plant i wasanaethau Oedolion, yn gadael gofal, a all fod ag anabledd dysgu, Cyflwr y Sbectrwm Awtistiaeth, neu anghenion ychwanegol y mae angen ymyrraeth arnyn nhw gan y Tîm Pontio.

Rydym wedi ymrwymo i fodel dilyniant, er mwyn sicrhau annibyniaeth pawb sydd angen gwasanaethau i’r eithaf, drwy:

  • Ddiwallu angen unigol asesedig, cynllunio ar gyfer y dyfodol, cefnogi’r person ifanc i gyrraedd ei lawn botensial. 
  • Gweithio ochr yn ochr â’r person ifanc, y teuluoedd a’r gofalwyr
  • Darparu gwasanaethau mewn ffordd deg, dryloyw a chyson.
  • Darparu gwasanaethau sy’n effeithiol ac sy’n bodloni safonau clir.
  • Gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaethau i Blant, Addysg, Gwasanaethau Iechyd, ac Asiantaethau Trydydd Sector. Nid yw hon yn rhestr gyflawn.

Pontio Symud o Wasanaethau Plant i Oedolion

Protocol pontio amlasiantaethol

Y Dull Pontio [Protocol Pontio] yn Sir Benfro

Canllawiau ar Bontio

Partneriaid Sir Benfro mewn Pontio

Llwybr Pontio

Yr hyn y Gall Pobl Ifanc a’u Teuluoedd ei Ddisgwyl

Pwy fydd yn Cynorthwyo i Gynllunio a Monitro’r Trosglwyddiad

Trefniadau Llywodraethu

Cyllid

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Gofal Iechyd Parhaus

Cau Achosion Pontio Trosglwyddiadau neu Ymadael

Cwynion/Canmoliaeth

Atodiad 1

Y Dull Pontio [Protocol Pontio] yn Sir Benfro

Mae pontio’n golygu newid. Mae’n ymwneud â’r ffordd mae’r cymorth sydd ei angen yn newid wrth i blentyn ddod yn oedolyn. Mae hefyd yn ymwneud â phwy fydd yn darparu’r cymorth wrth iddo newid. Mae’r ddogfen hon yn egluro sut y caiff pobl ifanc eu cynorthwyo i drosglwyddo o wasanaethau Plant i wasanaethau Oedolion ac o’r ysgol i’r coleg, gwaith cyflogedig neu gyfleoedd yn ystod y dydd.

Rydym yn cefnogi pobl ifanc ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai sy’n agored i niwed. Mae hyn yn cynnwys y rhai sydd mewn perygl o niwed corfforol ac emosiynol. Gwnawn hyn drwy siarad â phobl ifanc a’u teuluoedd i ddarganfod beth sy’n bwysig iddynt a sut y gallwn eu cynorthwyo i gyrraedd eu nodau.

Byddwn yn siarad am:

  • Addysg ac a ydy coleg yn ddewis
  • Cael swydd. Teulu a phobl sy’n bwysig i’r bobl ifanc
  • Ble mae’r person ifanc yn byw a ble yr hoffai fyw yn y dyfodol
  • Hobïau a diddordebau
  • Iechyd a lles

Byddwn yn dechrau’r broses bontio pan fydd person ifanc yn troi’n 14 oed neu ar y pwynt atgyfeirio os yw’n hwyrach. Mae llawer yn newid ar yr adeg yma ac mae hyn yn golygu bod yna lawer o benderfyniadau i’w gwneud. Mae dechrau cynllunio pontio yn 14 oed yn rhoi digon o amser inni feddwl am y dyfodol ac i drafod dewisiadau a chytuno ar y cymorth cywir.

Mae nifer o sefydliadau wedi cydweithio i ddatblygu dull Sir Benfro o gefnogi pobl ifanc wrth iddynt symud drwy addysg ac yna ymlaen i fyd oedolion a byw’n annibynnol. Bydd y cymorth y bydd arnynt ei angen yn newid wrth i’w hanghenion newid ac efallai y bydd yn cael ei ddarparu gan sefydliadau gwahanol. Byddwn yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau nad oes toriad yn y gwasanaeth.

Bydd ein dull yn hyrwyddo:

  • Annibyniaeth
  • Cynllunio Integredig
  • Dull Cyfannol
  • Dewis a Rheolaeth 
  • Dymuniadau a Dyheadau’r person ifanc.

Rydym wedi defnyddio canllawiau’r Llywodraeth i fod o gymorth i ddatblygu’r dull hwn.**

Canllawiau ar Bontio

Dywed canllawiau’r Llywodraeth wrthym am sicrhau’r canlynol ar gyfer pobl ifanc, mor ifanc â 14 oed, sy’n agored i niwed neu sydd ag anableddau ac anghenion dysgu ychwanegol:

  • bod eu hanghenion yn cael eu hasesu a’u hadolygu ar yr adeg gywir;
  • bod ganddynt gynllun ar waith ym mhob cyfnod pontio allweddol;
  • eu bod yn cael y gefnogaeth iawn gan y bobl iawn ar yr adeg iawn; 
  • eu bod yn derbyn mewnbwn gan y sefydliadau cywir ar gyfer cynlluniau ac adolygiadau;
  • eu bod yn cael dweud eu meddwl ac yn cael gweithio gyda’r rhai sy’n eu cefnogi.

Partneriaid Sir Benfro mewn Pontio

Mae nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol yn cydweithio ac yn gweithio gyda phobl ifanc a’u teuluoedd i sicrhau eu bod yn cael y cymorth y mae arnynt ei angen.

Gwasanaethau Eiriol
  • Mae barn pobl ifanc a’u teuluoedd yn cael ei chlywed ac maent yn deall y broses a’r cynlluniau.
Adran Addysg Cyngor Sir Penfro ac Ysgolion
  • Nodir anghenion dysgu ychwanegol, gwneir atgyfeiriadau, cynhelir cyfarfodydd adolygu a chaiff cynlluniau eu datblygu.
  • Mynediad at gymorth.
Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir Penfro
  • Darparu asesiadau ac adolygiadau gofal cymdeithasol a datblygu cynlluniau gofal a chymorth pan fo angen.
  • Mynediad at gymorth.
Gyrfa Cymru
  • Datblygu cynlluniau addysg a dysgu a sgiliau.
  • Cymorth i fynd i mewn i addysg, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith.
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Caiff anghenion iechyd eu hasesu a darperir cymorth a thriniaeth fel bo angen.
Sefydliadau Trydydd Sector
  • Gwybodaeth, cyngor a chymorth i gael mynediad at gefnogaeth.

Grwpiau Partneriaeth – Strategol a Gweithredol a Phanel Anghenion Cymhleth

  • Dilynir arweiniad y Llywodraeth.
  • Sicrhau bod sefydliadau sy’n bartneriaid yn cydweithio.
  • Mesur a monitro deilliannau a pherfformiad.

Llwybr Pontio

Bydd pobl ifanc sydd angen cymorth yn cael cymorth integredig, wedi ei gynllunio a’i gydgysylltu’n dda drwy eu cyfnod pontio i fyd oedolion. Caiff y cymorth hwn ei strwythuro i ateb eu hanghenion a’u cynorthwyo i gyflawni eu deilliannau personol. Mae nifer o ffactorau a allai ddylanwadu ar gymhwysedd i dderbyn cymorth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a chynllun pontio amlasiantaethol.

Bydd ar y rhan fwyaf o bobl ifanc, sydd â gweithiwr cymdeithasol eisoes a/neu fewnbwn iechyd arbenigol, angen cymorth drwy’r broses bontio amlasiantaethol. Gellid cyfeirio plant a phobl ifanc at wasanaethau pontio mewn nifer o ffyrdd:

Ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC) 14+ oed bydd y cyfnod pontio yn cael ei ystyried yn ystod adolygiadau Cynllun Gofal sy’n cael eu cadeirio gan Swyddogion Adolygu Annibynnol ar y cyd â’r Tîm Rhianta Corfforaethol

  • Yr ysgolion yn eu cyfeirio
  • Y tîm Plant mewn Angen yn eu cyfeirio
  • Ar gyfer pobl ifanc 14+ oed sy’n hysbys i’r tîm Plant ag Anableddau, edrychir ar y cyfnod pontio yn ystod adolygiadau’r Cynllun Gofal a Chymorth Anabledd ac Addysg, a gynhelir yn yr ysgolion. Gwneir hyn ar y cyd â’r tîm Pontio

Yr hyn y Gall Pobl Ifanc a’u Teuluoedd ei Ddisgwyl

Bydd pobl ifanc yng nghanol y cyfnod pontio.

  • Caiff pobl ifanc asesiad o’u hanghenion.
  • Bydd pobl ifanc, gofalwyr a theuluoedd yn cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu asesiadau, cynlluniau pontio, cynlluniau ac adolygiadau gofal a chymorth. 
  • Bydd pobl ifanc, gofalwyr a theuluoedd yn cymryd rhan lawn a byddant yn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar bob cam o’r broses.

Pwy fydd yn Cynorthwyo i Gynllunio a Monitro’r Trosglwyddiad

Drwy gydol y broses bontio:

  • Bydd person ifanc yn cael cynnig y dewis o gael Eiriolwr i’w gynorthwyo i leisio ei ddymuniadau a’i ddyheadau.
  • Caiff gwybodaeth ei dosbarthu gan Weinyddwr yr Ysgol neu Weithiwr Cymdeithasol Plant o leiaf bythefnos cyn cynnal adolygiad.
  • Caiff cynllun Gofal a Chymorth ei ddatblygu ar ôl yr adolygiad a dylid ei anfon i’r ysgol o leiaf 6 wythnos cyn y disgwylir yr adolygiad blynyddol. Caiff hwn ei ddosbarthu o fewn 10 diwrnod i’r adolygiad.
Oedran: 14

Bydd yr Ysgol yn cwblhau Cynllun Addysg Personol.

  • Os bydd y person ifanc yn derbyn gofal gan Wasanaethau Plant yna bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cwblhau Adolygiad Plentyn sy’n Derbyn Gofal (LAC), un bob chwe mis.
  • Gwahoddir Gyrfa Cymru i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Gwahoddir Gweithwyr Iechyd Proffesiynol i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Bydd pobl ifanc sydd ddim yn Derbyn Gofal yn cael adolygiad blynyddol gan y tîm y maent yn gweithio gyda hwy
Safonau ac Amserlenni

Bydd adolygiad dan arweiniad yr Ysgol neu gynllun gofal a chymorth yn digwydd pan fydd y person ifanc yn 14 oed. Bydd angen gwahodd Gweithiwr Cymdeithasol Pontio oedolion a gwneir atgyfeiriad i Drosglwyddiadau Gofal Cymdeithasol Oedolion ar yr adeg yma.

Oedran: 15

Bydd yr Ysgol yn adolygu’r Cynllun Addysg Personol.

  • Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cwblhau Adolygiad Plentyn sy’n Derbyn Gofal, un bob chwe mis.
  • Gwahoddir Gyrfa Cymru i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Gwahoddir Gweithwyr Iechyd Proffesiynol i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Pan fydd y person ifanc yn 15½ oed bydd 
  • Gweithiwr Cymdeithasol yn creu Cynllun Llwybr.
  • Bydd y Gwasanaethau Plant yn dyrannu Cynghorwr Personol.
  • Cyflwynir y Cynghorwr Personol i’r person ifanc yn yr ail Adolygiad Plentyn sy’n Derbyn Gofal
Oedran: 16
  • Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn adolygu’r Cynllun Llwybr
  • Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cwblhau Adolygiad Plentyn sy’n Derbyn Gofal, un bob chwe mis.
  • Bydd pobl ifanc sydd ddim yn Derbyn Gofal yn cael adolygiad blynyddol gan y tîm y maent yn gweithio gyda hwy.
  • Gwahoddir Gyrfa Cymru i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Gwahoddir Gweithwyr Iechyd Proffesiynol i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Bydd y Cynghorwr Personol yn gwneud atgyfeiriad i’r Tîm Targedu Ieuenctid am allgymorth.
  • Bydd y Cynghorwr Personol yn gwneud atgyfeiriad i Vultrans (Grŵp Pontio agored i Niwed). Mae gan Vultrans gynrychiolwyr o holl ddarparwyr gwasanaeth ôl-16 yn Sir Benfro, Gyrfa Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid a Gwasanaeth Addysg Cyngor Sir Penfro
Safonau ac Amserlenni

Pan fydd y person ifanc yn 16 oed rhaid i Weithiwr Iechyd a Gofal Cymdeithasol Plant ystyried ei anghenion gofal iechyd parhaus ac felly bydd ‘cytundeb mewn egwyddor’ yn ei le erbyn y bydd y person ifanc yn 17 oed.

Oedran: 17 - 17 1/2 
  • Bydd y Gweithiwr Cymdeithasol yn cwblhau Adolygiad Cynllun Plant sy’n Derbyn Gofal/Cynllun Llwybr, un bob
  • Erbyn y bydd y person ifanc yn 17 oed bydd cytundeb mewn egwyddor yn ei le ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus. Tudalen 7 Oedran Pwy a Beth Safonau ac Amserlenni chwe mis os yw’r person ifanc yn dal i dderbyn gofal.
  • Pan fydd y person ifanc yn cyrraedd 17/17½ oed, bydd Gwasanaethau Oedolion yn dechrau eu hasesiad integredig.
  • Bydd y Cynghorwr Personol yn cwblhau Adolygiad o’r Cynllun Llwybr, un bob chwe mis os nad yw’r person ifanc yn derbyn gofal mwyach.
  • Gwahoddir Gyrfa Cymru i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Gwahoddir Gweithwyr Iechyd Proffesiynol i fod yn bresennol yn yr adolygiadau.
  • Bydd y rhai sy’n gadael gofal a phobl ifanc nad ydynt yn derbyn gofal yn cael adolygiad bob 6 mis
Safonau ac Amserlenni
  • Pan fydd y person ifanc yn 17/17½ oed bydd Trosglwyddiadau Gofal Cymdeithasol Oedolion yn dechrau’r Asesiad Integredig a’r cynllun Gofal a Chymorth.
  • Bydd ar Drosglwyddiadau Gofal Cymdeithasol Oedolion angen Asesiad Integredig Plant cyfredol a chynlluniau gofal priodol cyn dechrau’r Asesiad Integredig Oedolion.
  • Bydd y cynllun Gofal a Chymorth yn adlewyrchu anghenion y person ifanc a’i anghenion cymorth yn ei gyfnod pontio i ddarpariaeth addysgol ac i Wasanaethau Oedolion.
Oedran: 18
  • Bydd y Gwasanaethau Plant yn cau’r achos a’r gwasanaethau’n dod i ben.
  • Bydd y Gwasanaethau Oedolion yn parhau i weithio gyda’r person ifanc.
  • Bydd y Cynghorwr Personol yn parhau i adolygu’r Cynllun Llwybr bob chwe mis ar gyfer y rhai sy’n gadael gofal, tra bydd yr oedolyn ifanc mewn addysg amser llawn, hyd at 25 oed.
  • Mewnbwn diogelu oedolion.

Trefniadau Llywodraethu

Byddwn yn monitro ein cynnydd mewn pontio ac yn erbyn y protocol hwn drwy sicrhau bod pawb yn cael llais. Mae’r partneriaid amlasiantaethol sy’n ymwneud â phontio yn cynnwys:

  • Pobl Ifanc
  • Gwasanaethau Eiriol
  • Cyngor Sir Penfro: o Addysg – Gwasanaeth Cynhwysiant ac Ysgolion a Gwasanaethau Ieuenctid o Gwasanaethau Cymdeithasol – Gwasanaethau Plant a Gofal Oedolion
  • Gyrfa Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant ac Oedolion
  • Coleg Sir Benfro 
  • Gyrfa Cymru
  • Sefydliadau’r Trydydd Sector

Cyllid

Rhaid inni sicrhau ein bod yn gwario ein cyllideb mewn ffordd gyfrifol fel y gallwn ddarparu gwasanaethau i’r rhai sydd eu hangen. Byddwn, felly, yn gwneud yn siŵr o’r canlynol:

  • Archwilir pob opsiwn lleol priodol posibl cyn ystyried lleoliadau arbenigol.
  • Trafodir dewisiadau o ran lleoliad gyda Gofal Cymdeithasol Oedolion cyn i’r lleoliad ddechrau os yw’r person ifanc yn 14 oed neu’n hŷn.
  • Bydd pobl ifanc yn cael asesiad gyda’r darparwr addysg lleol i amlinellu sut y gellir ateb eu hanghenion a phwy sydd yn y sefyllfa orau i wneud hynny.
  • Dim ond os na all darparwyr addysg lleol ateb anghenion y caiff coleg neu ysgol breswyl ei ystyried.

Anghenion Dysgu Ychwanegol

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY) yn nodi’r gofynion ar gyfer cefnogi pobl ifanc ag ADY.

  • Bydd yn ofynnol i ysgolion a meithrinfeydd a gynhelir, unedau cyfeirio disgyblion a sefydliadau addysg bellach (SABau), gael Cydgysylltydd Anghenion Dysgu Ychwanegol dynodedig (CADY).
  • Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol benodi Swyddog Arweiniol ADY y Blynyddoedd Cynnar.
  • Os bydd angen trafod dewisiadau lleoli arbenigol rhaid gwneud hyn gyda’r person ifanc, aelodau’r teulu a gweithwyr proffesiynol perthnasol Gyrfa Cymru, Iechyd, Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol; dylai hyn sicrhau yr ystyrir holl oblygiadau ariannu a phontio.
  • Dylid trafod unrhyw anghenion heb eu hateb sydd gan bobl ifanc a fydd yn mynychu cyfleoedd dydd o fewn y Grŵp Gweithredol Pontio. Caiff y drafodaeth hon ei chyfeirio at y Grŵp Strategol Pontio neu’r panel Anghenion Cymhleth.

Gofal Iechyd Parhaus

Os bydd angen cymorth gofal iechyd parhaus i oed oedolyn, bydd angen i weithwyr proffesiynol Iechyd a’r Gwasanaethau Cymdeithasol drafod goblygiadau hyn gyda’r person ifanc, ac aelodau o’r teulu pan fydd y person ifanc yn 16 oed.

  • Os oes angen, trefnir Asesiad Gofal Iechyd Parhaus (GIP) cyn gynted â phosibl. Caiff hyn ei hwyluso gan y gweithiwr proffesiynol mwyaf priodol.
  • Dylai’r asesiad cymhwysedd o dan Feini Prawf Gofal Iechyd Parhaus Oedolion ddechrau yn ystod 16eg blwyddyn yr unigolyn. Bydd hyn yn sicrhau bod penderfyniad ‘mewn egwyddor’ yn cael ei wneud erbyn pen-blwydd y person ifanc yn 17 oed.
  • Dylid tynnu sylw’r Grŵp Pontio Amlasiantaethol os oes unrhyw broblemau gyda’r broses Asesu hon.
  • Cyfrifoldeb y Gweithiwr Cymdeithasol Plant yw cwblhau’r broses GIP gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, gan ddechrau pan fydd y person ifanc yn 16 oed.

Cau Achosion Pontio Trosglwyddiadau neu Ymadael

Os bydd y person ifanc yn dechrau hyfforddiant seiliedig ar waith, cyflogaeth neu ryw weithgaredd arall yn ystod y dydd, gall barhau i ddatblygu ei Gynllun Pontio. Caiff y Cynllun Gofal a Chymorth ei adolygu gan Weithiwr Pontio Gofal Cymdeithasol Oedolion. 12 Cwynion/Canmoliaeth Dylid cyfeirio cwynion, canmoliaeth ac anghytundebau at y sefydliad arweiniol dan sylw. Yn gyntaf gyda’r gweithiwr arweiniol ac yna drwy ddefnyddio proses gwyno’r sefydliad. Rhaid rhoi cyfle i’r person ifanc a’i deulu leisio pryderon mewn cyfarfodydd adolygu

Cwynion/Canmoliaeth

Dylid cyfeirio cwynion, canmoliaeth ac anghytundebau at y sefydliad arweiniol dan sylw. Yn gyntaf gyda’r gweithiwr arweiniol ac yna drwy ddefnyddio proses gwyno’r sefydliad. Rhaid rhoi cyfle i’r person ifanc a’i deulu leisio pryderon mewn cyfarfodydd adolygu.

Atodiad 1

Deddfwriaeth y Llywodraeth

Nod y protocol hwn yw integreiddio prosesau asesu a chynllunio’r gwahanol asiantaethau yn un system sy’n bodloni gofynion deddfwriaethol. Y mwyaf arwyddocaol o’r rhain yw:

  • Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Deddf Plant 1989 a 2004
  • Deddf y GIG a Gofal Cymunedol 1990
  • Deddf Addysg 1996
  • Deddf Pobl Anabl (Gwasanaethau, Ymgynghoriadau a Sylwadau) 1986
  • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn 1989
  • Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlysoedd Addysg (Cymru) 2018 (Deddf ADY)
  • Cod Ymarfer AAA Cymru
  • Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Fframwaith gweithredu yng Nghymru.
ID: 6943, adolygwyd 18/10/2023