Gwasanaethau Iechyd a Lles

Cyngor i Rieni

Mae Family Lives (yn agor mewn tab newydd) yn cynnig llinell ffôn gyfrinachol i rieni ar 0808 800 2222 ar gyfer cyngor, gwybodaeth a chymorth ynghylch unrhyw agwedd ar fagu plant a bywyd teulu.

Mae'r llinell gymorth i Rieni Young Minds yn cynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor am ddim a chyfrinachol ar-lein a dros y ffôn i unrhyw oedolyn sy'n poeni am broblemau emosiynol, ymddygiad neu iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc hyd at 25 oed.

Ffoniwch 0808 802 5544 neu ewch i: Young Minds (yn agor mewn tab newydd)

Mae Chanllawiau Cyngor ar Bopeth (yn agor mewn tab newydd) yn darparu cyngor annibynnol ac am ddim ar faterion cyfreithiol, arian, budd-daliadau ac unrhyw broblemau eraill. I wneud apwyntiad yng Nghymru, ffoniwch: 08444 77 20 20

Mae Gingerbread (yn agor mewn tab newydd) yn darparu cyngor, cymorth a thaflenni gwybodaeth am ddim ar ystod o faterion gan gynnwys cynhaliaeth, budd-daliadau, dyledion a hawliau cyfreithiol ar 0808 802 0925

Elusen yw Contact Cymru (yn agor mewn tab newydd) sy'n cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni a gofalwyr plant a chanddynt unrhyw angen arbennig neu anabledd yn ogystal â gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda theuluoedd

 

ID: 1750, adolygwyd 29/09/2023