Gwasanaethau Iechyd a Lles

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014

Derbyniodd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y Cydsyniad Brenhinol a daeth yn gyfraith ar 1 Mai 2014. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2016.

Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella ffyniant pobl sydd angen gofal a chymorth, a gofalwyr sydd angen cefnogaeth, ac ar gyfer gweddnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru.

Darllenwch Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) (yn agor mewn tab newydd) i weld y fersiwn hawdd ei ddarllen ar gyfer pobl ifanc (yn agor mewn tab newydd).

Os ymwelwch â Gwefan Llywodraeth Cymru (yn agor mewn tab newydd) mae dogfennau sy’n dangos sut mae’r ddeddf hon yn effeithio ar wahanol bobl / gweithwyr proffesiynol yng Nghymru, e.e. os ydych chi’n ofalwr 

Mae gan Gyngor Gofal Cymru ganolbwynt (yn agor mewn tab newydd) dysgu lle gallwch gael gwahanol wybodaeth.

Rhifau a dolenni hanfodol

  1. Mae gwefan Galw Iechyd Cymru’n cynnwys amrywiaeth eang o wybodaeth am iechyd gan gynnwys manylion deintyddion, fferyllfeydd, clinigau iechyd rhywiol a grwpiau cefnogi yn eich ardal yn ogystal gwyddoniadur iechyd A-Y. Galw Iechyd Cymru (yn agor mewn tab newydd)
  2. Gwyddoniadur Iechyd A - Y Gwybodaeth amar gyflyrau meddygol a thriniaethau. Galw Iechyd Cymru - Gwyddoniadur (yn agor mewn tab newydd)
  3. Bydd Dewis yn Ddoeth yn helpu i chi benderfynu a oes arnoch angen sylw meddygol os ewch yn sâl. Mae’n egluro’r hyn a wna pob gwasanaeth GIG, a phryd ddylid ei ddefnyddio. Dewis yn Ddoeth (yn agor mewn tab newydd)
  4. Adrannau Damweiniau ac Argyfwng (A&E) mae i’w cael yn y rhan fwyaf o ysbytai. Maent yn helpu pobl sy’n dangos arwyddion o fod yn wael iawn neu a anafwyd yn ddrwg. Os ffoniwch chi 999 a dweud wrth y gweithredwr bod argyfwng meddygol, bydd cerbyd ymateb yn cael ei anfon i’ch lleoliad. GIG Cymru - Gwasanaethau Iechyd Lleol (yn agor mewn tab newydd)
  5. Bwrdd Iechyd Hywel Dda sy’n gyfrifol am ddarparu’r holl wasanaethau gofal iechyd angenrheidiol yn Sir Gâr, Ceredigion a Sir Benfro a gwella iechyd a ffyniant y trigolion. Bwrdd Iechyd Hywel Dda (yn agor mewn tab newydd)
  6. Iechyd yng Nghymru yw’r porth i wybodaeth am iechyd a gwasanaethau GIG yng Nghymru. Fe welwch strategaethau, polisïau, ystadegau a data yn ogystal â’r newyddion diweddaraf, ymchwil a swyddi ar-lein. Mae gwefan Iechyd yng Nghymru’n cyfateb i wefan Galw Iechyd Cymru (mae’n agor ffenestr newydd) porth i wybodaeth a chyngor ynghylch eich iechyd personol. Iechyd yng Nghymru (yn agor mewn tab newydd)
  7. Iechyd Cyhoeddus Cymru Gwarchod a gwella iechyd a ffyniant poblogaeth Cymru. Iechyd Cyhoeddus Cymru (yn agor mewn tab newydd)
ID: 1749, adolygwyd 29/09/2023