Gwasanaethau Rheilffordd Lleol
Tocyn Rheilffordd Sir Benfro
Tocyn Rheilffordd Sir Benfro draean yn rhatach
Mae Tocyn Rheilffordd Sir Benfro ar gael ar bob siwrnai yn Sir Benfro, a chyn belled ag Abertawe trwy Gaerfyrddin. Mae'r cerdyn rheilffordd ar gael i drigolion 16 oed neu hŷn, sydd â chodau post dewisedig yn Sir Benfro. Pris y cerdyn rheilffordd yw £13.00 ac mae e'n ddilys am flwyddyn. Bydd gan ddeiliad y cerdyn hawl i gael disgownt o 33.4% ar brisiau teithio ar drenau lleol.
Does dim isafswm pris teithio a gallwch brynu'ch cerdyn rheilffordd mewn unrhyw orsaf a staff ynddi.
ID: 1580, adolygwyd 13/09/2024