Bellach, bydd gwastraff gweddilliol, na ellir ei ailgylchu yn cael ei gasglu mewn bagiau du a ddarperir gan y cartref. Gallwch barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau llwyd sy’n weddill.
gallwch gael cyflenwadau pellach o’r lleoedd canlynol a Gall cwsmeriaid ofyn am fwy o fagiau gwastraff bwyd drwy dodi nodyn ar eu cadi pan fyddant yn cael eu rhoi ar ymyl y ffordd ar y diwrnod casgl
Mae'r Blwch Troli y gellir ei Stacio yn gynhwysydd ailgylchu aml-flwch y gellir ei roi wrth ei gilydd yn daclus i greu un uned hawdd ei symud, gan ei gwneud yn bosibl i nifer o ffrydiau deunydd gael eu casglu yr un pryd.
Mae’r Cynllun Gwobrau Ysgolion Cynaliadwy yn ymwneud â'r modd rydym yn trin y ddaear a'r modd rydym yn ymwneud â'n gilydd, beth bynnag yw'r pellter rhyngom.
Mae fy Ailgylchu Cymru yn eich galluogi i bori awdurdodau lleol Cymru a gweld beth sy'n digwydd i'ch gwastraff ledled y DU, a hyd yn oed o gwmpas y byd.
Os oes rhywun yn eich cartref chi’n defnyddio cewynnau tafladwy neu gynnyrch hylendid amsugnol eraill, a’r eiddo yw eu prif le preswylio, gallwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu Cynhyrchion Hylendid Amsgugnol i gasglu’r deunyddiau hyn ar wahân i’ch gwastraff a’ch deunydd ailgylchu arall.
Mae yna saith hwb codi sbwriel yn gweithredu ar draws y sir. Maent yn caniatáu aelodau’r cyhoedd, grwpiau cymunedol a busnesau i fenthyg cyfarpar codi sbwriel i helpu i lanhau eu hardal leol.
Yn dilyn proses gynllunio lwyddiannus, bydd cyfleuster gwastraff ac ailgylchu newydd, "Parc Eco Cyngor Sir Penfro" nawr yn cael ei ddatblygu ar dir a brynwyd i'r gogledd o Amoco Road