Ailgylchu wrth fynd
Gallwch chi ailgylchu'ch sbwriel ar sawl traeth yn Sir Benfro
Mae nifer aruthrol o bobl yn dod i fwynhau traethau trawiadol, arobryn Sir Benfro bob blwyddyn, ac maent yn cynhyrchu maint sylweddol o wastraff.
Mae Tonnau, Tywod a Thwtio yn darparu cyfleusterau wrth fynd ar gyfer ailgylchu. Gall pobl leol ac ymwelwyr ailgylchu eu gwastraff, mewn modd mor rhwydd ag y gallant gartref, tra maent yn joio tirweddau bendigedig ledled Sir Benfro.
Beth am Ailgylchu dros Sir Benfro a helpu i gadw'n traethau'n lân.
Beth allwch chi ei ailgylchu ar y traethau?
-
Biniau ailgylchu gwastraff cymysg - cofiwch gynnwys papur, cardbord, caniau, tuniau, poteli plastig.
-
Biniau gwydr (nid ar gael ym mhob man) - cofiwch gynnwys poteli a jariau gwydr.
-
Biniau sbwriel - byddwch cystal â dodi pob peth arall yn y bin sbwriel cyffredinol.
Cafodd Tonnau, Tywod a Thwtio ei ran-ariannu trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop o dan y Rhaglen Cydgyfeirio a Rhaglen Gwella Traethau Môr Glas.
Llyfryn Gwybodaeth am Apeliadau
ID: 309, revised 27/03/2023