Mae dyletswydd gofal yn berthnasol i wastraff cartref, masnachol a diwydiannol a elwir yn wastraff a reolir.
Mae gwastraff yn sylwedd neu'n wrthrychau y mae'r deiliad yn ei daflu/eu taflu, yn bwriadu ei daflu/eu taflu neu y mae'n ofynnol iddo ei daflu/eu taflu.
Mae'r ddyletswydd gofal yn berthnasol i ddeiliaid tai sy'n byw mewn eiddo domestig. Mae hyn yn cynnwys tenantiaid.
Fel deiliad tŷ, mae gennych gyfrifoldeb i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y caiff unrhyw wastraff cartref a gaiff ei gynhyrchu ar eich eiddo ei drosglwyddo i unigolyn awdurdodedig yn unig. Mae unigolyn awdurdodedig yn cynnwys yr awdurdod lleol sy'n darparu eich gwasanaeth casglu gwastraff arferol.
Os oes gennych wastraff na ellir ei waredu drwy wasanaeth casglu gwastraff arferol eich awdurdod lleol, gallwch wneud y canlynol:
Mynd â'ch gwastraff i'r safleoedd amwynder dinesig lleol yn Sir Benfro. Mae'n bosibl y codir tâl am rai eitemau y mae angen i chi eu gwaredu
Gallwch drefnu i ni fynd â'ch gwastraff drwy ein gwasanaeth casglu gwastraff cartref swmpus. Codir tâl bach am y gwasanaeth hwn.
Fel arall, gallwch drefnu i wasanaeth casglu gwastraff masnachol gasglu a gwaredu eich gwastraff. Mae'n rhaid i'r cwmni masnachol fod yn gofrestredig i gludo gwastraff. Er mwyn cadarnhau a yw'r unigolyn neu'r cwmni'n gofrestredig, edrychwch ar gofrestr gyhoeddus Cyfoeth Naturiol Cymru neu ffoniwch 03000653000.
Os ydych yn gwneud gwaith adnewyddu neu wella yn eich cartref, gan gynnwys DIY, mae'n bwysig bod gennych gyfrifoldeb am y gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu fel rhan o'r gwaith hwn. Dylech gadarnhau y bydd eich crefftwr yn gwaredu'r gwastraff sy'n cael ei gynhyrchu a bod ganddo'r awdurdodiad priodol i waredu'r gwastraff.
Os nad yw'r unigolyn sy'n mynd â'r gwastraff oddi wrthych yn awdurdodedig i wneud hynny, neu os caiff eich gwastraff ei waredu neu ei dipio'n anghyfreithlon, gallech gael eich erlyn a'ch dirwyo os nad ydych wedi cymryd pob cam rhesymol i gyflawni eich dyletswydd gofal.
Tipio'n anghyfreithlon yw'r weithred anghyfreithlon o ollwng gwastraff yn fwriadol ar ymyl y ffordd neu ar dir preifat. Gall y maint amrywio o un bag bin o wastraff i lwyth mawr sy'n cael ei ollwng o lori.
Os ydych yn amau bod rhywun yn tipio, yn trin neu'n gwaredu gwastraff yn anghyfreithlon, PEIDIWCH â rhoi eich gwastraff iddo.
Mae dyletswydd gofal yn rhoi cyfrifoldeb cadarnhaol ar unigolion a busnesau i sicrhau y caiff gwastraff ei reoli mewn ffordd sy'n diogelu iechyd pobl a'r amgylchedd.
Mae adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 yn nodi arweiniad ymarferol ar sut i fodloni'r gofynion dyletswydd gofal o ran gwastraff.
Mae dyletswydd gofal yn berthnasol i chi os ydych yn cynhyrchu, yn cario, yn cadw, yn trin, yn gwaredu neu'n mewnforio gwastraff yng Nghymru.
Mae methu cydymffurfio â'r Ddyletswydd Gofal yn drosedd sy'n destun dirwyon diderfyn.
Cyngor Sir Penfro a Cyfoeth Naturiol Cymru yw'r rhai sy'n rheoleiddio'r ddyletswydd gofal yn Sir Benfro.